Beth yw’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog (RCE)?
Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn adnodd golygu ar-lein ar gyfer creu cynnwys. Mae'n cynnwys bar dewislen, bar offer, bwlch cynnwys, a nodweddion eraill sy'n eich galluogi i greu cynnwys sy'n cynnwys testun wedi'i fformatio, hyperddolenni, delweddau, cyfryngau, fformiwlâu mathemategol, gwrthrychau wedi’u mewnblannu, tablau, a mwy.
Gallwch ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn y nodweddion Canvas canlynol:
- Cyhoeddiadau
- Aseiniadau
- Trafodaethau
- Cwisiau Newydd
- Tudalennau
- Cwisiau
- Maes Llafur
Dysgwch fwy drwy’r adnoddau canlynol:
- Golygydd Cynnwys Cyfoethog fideo
- Golygydd Cynnwys Cyfoethog gwersi i addysgwyr
- Golygydd Cynnwys Cyfoethog gwersi i fyfyrwyr
Gweld y Golygydd Cynnwys Cyfoethog
Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cynnwys yr ardal cynnwys, y bar dewislen, a’r bar offer.
Gallwch chi ychwanegu a gweld rhagolwg o’r cynnwys yn yr ardal cynnwys (Content area) [1].
I fformatio cynnwys y dudalen, defnyddiwch opsiynau’r bar dewislen [2].
Gallwch ddefnyddio’r bar offer i fformatio testun [3]; mewnosod dolenni, delweddau, recordiadau ar gyfryngau a dogfennau neu eiconau [4]; cael gafael ar Lucid EDU suite [5]; agor adnoddau allanol [6]; fformatio paragraffau [7]; clirio fformatio [8]; ychwanegu tablau [9]; mewnosod hafaliad gan ddefnyddio’r Golygydd Hafaliad [10]; a mewnblannu cyfryngau [11].
I weld holl opsiynau’r bar offer, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau [12].
Nodyn: Os yw eich sefydliad yn galluogi creu eiconau, gallwch greu eiconau a’u mewnosod drwy ddefnyddio’r Crëwr Eiconau.
Gweld Nodweddion Cynnwys
Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog hefyd yn darparu nodweddion rheoli cynnwys cyffredinol. Gallwch wneud y canlynol
- gweld y cod fformat HTML sy’n cael ei ddefnyddio yn y testun dan sylw [1]
- agor rhestr o fysellau hwylus [2]
- agor gwirydd hygyrchedd [3]
- gweld cyfanswm nifer y geiriau [4]
- gweld a golygu’r cynnwys mewn HTML [5]
- agor y Golygydd Cynnwys Cyfoethog i’r sgrin lawn [6]
- newid maint y maes cynnwys drwy glicio a llusgo’r eicon Ailfeintio [7]
Agor Bysellau Hwylus
Gall ddefnyddio’r nodwedd llywio â bysellfwrdd yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. I weld y ddewislen Bysellau Hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd neu bwyso’r bysellau Shift+Marc Cwestiwn ar yr un pryd. Hefyd, gallwch chi agor y ddewislen drwy bwyso’r bysellau Alt+F8 (Bysellfwrdd PC) neu’r bysellau Option+F8 (Bysellfwrdd Mac) ar yr un pryd.
Gweld Dewislen Bysellau Hwylus
Mae modd defnyddio’r bysellau hwylus canlynol yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog:
- I agor y dialog Bysellau Hwylus, pwyswch Alt+F8 (ar fysellfwrdd cyfrifiadur) neu Option+F8 (ar fysellfwrdd Mac)
- I ganolbwyntio ar y bar offer opsiynau elfen, pwyswch Ctrl+F9 (ar fysellfwrdd cyfrifiadur) neu Cmd+F9 (ar fysellfwrdd Mac)
- I ganolbwyntio ar far dewislen y golygydd, pwyswch Alt+F9 (ar fysellfwrdd cyfrifiadur) neu Option+F9 (ar fysellfwrdd Mac)
- I agor bar offer y golygydd, pwyswch Alt+F10 (ar fysellfwrdd cyfrifiadur) neu Option+F10 (ar fysellfwrdd Mac)
- I gau dewislen neu ddeialog a dychwelyd i ardal y golygydd, pwyswch y fysell Esc
- I lywio drwy ddewislen neu far offer, pwyswch y fysell Tab neu’r saethau
- Gallwch chi hefyd ddefnyddio bysellau hwylus eraill