Yn Canvas, caiff y rôl Cynorthwyydd Dysgu ei defnyddio gan amlaf i ymrestru unigolion a fydd yn cefnogi ac yn gweithio gydag athrawon mewn cwrs ac sydd ddim angen ennill credyd cwrs. Mae Addysgwyr yn enw arall am Athrawon yn Canvas. Gall cynorthwywyr dysgu weld a safoni cwrs ac arwain prosesau cyfathrebu dyddiol ar y cwrs o dan oruchwyliaeth Athro. Fodd bynnag, gall yr hawliau hyn amrywio ymysg sefydliadau.
Mae gan Canvas rolau defnyddiwr lefel cwrs eraill sydd â mynediad lefel cwrs amrywiol. Gall Dylunwyr weithio gydag Athrawon (sy’n goruchwylio cynorthwywyr dysgu) a gyda’i gilydd maent yn creu cynnwys cwrs y mae Myfyrwyr ac Arsyllwyr yn ei ddefnyddio. I gael rhagor o wybodaeth am hawliau defnyddiwr ar lefel y cwrs, edrychwch ar y PDF ar Hawliau Cwrs Canvas.
Gall Cynorthwywyr Dysgu hefyd ddefnyddio ap Canvas Teacher i weld a chymryd rhan mewn cyrsiau.
Prif ddefnydd y rôl Cynorthwyydd Dysgu yw cefnogi addysgwr cwrs. Gall cynorthwywyr dysgu greu deunyddiau ar gyfer cwrs, rheoli a chael mynediad at ddeunyddiau cyrsiau Canvas, ac ymgysylltu â phobl eraill sydd wedi ymrestru ar y cwrs. Er enghraifft, weithiau mae addysgwyr yn defnyddio cynorthwywyr dysgu i raddio aseiniadau mewn cyrsiau sydd â llawer o fyfyrwyr wedi ymrestru arnynt.
Mae mynediad cynorthwywyr dysgu at gyrsiau Canvas yn dibynnu ar y sefydliad. Gall Cynorthwywyr Dysgu gael mynediad at gyrsiau blaenorol, rhai presennol a rhai i’r dyfodol. Hefyd, dim ond mewn cyrsiau unigol y bydd modd i gynorthwywyr dysgu ymrestru a chael mynediad. Gall cynorthwyydd dysgu ymrestru ar gwrs yn awtomatig drwy fewngludo SIS neu gall addysgwr wneud hynny ei hun.
Gall sefydliad addasu rhywfaint o hawliau cynorthwyydd dysgu ar lefel cwrs. Mae gan gynorthwywyr dysgu fynediad at gyrsiau Canvas fel y nodir yng Nghanllaw Addysgwyr Canvas.
Mae Cynorthwywyr Dysgu yn gallu:
Dydi cynorthwywyr dysgu ddim yn gallu: