Beth yw Graddau Beth-os?

Mae Graddau Beth os yn gadael i fyfyrwyr gyfrifo eu gradd gyflawn drwy roi graddau damcaniaethol ar gyfer aseiniadau. Dim ond myfyrwyr fydd yn gallu rhoi a gweld Sgorau Beth-os. Gwybodaeth am sut mae myfyrwyr yn defnyddio'r Sgorau Beth-os.

Nodiadau:

  • Os oes Mwy nag un Cyfnod Graddio wedi’i alluogi yn eich cwrs a does dim modd i ddefnyddwyr weld y graddau cyflawn, neu os ydych chi wedi cuddio cyfanswm graddau myfyrwyr yng Ngosodiadau’r Cwrs, does dim modd i fyfyrwyr weld eu gradd bresennol na’u gradd gyflawn ar dudalen Graddau Myfyrwyr.
  • Ar hyn o bryd, does dim modd i addysgwyr greu sgorau damcaniaethol ar gyfer myfyrwyr fel Sgorau Beth-os. Ond, gallwch weld sgorau presennol a sgorau cyflawn ar gyfer myfyrwyr drwy edrych ar yr Adroddiad Rhyngweithio â Myfyrwyr (Student Interactions Report).

Gweld Gradd Bresennol

Mae Canvas bob amser yn gweithio i gyfrifo dwy radd, y radd bresennol a’r radd gyflawn, ar gyfer myfyrwyr. Caiff y radd bresennol ei chyfrifo drwy adio’r aseiniadau sydd wedi eu graddio yn unol â’u pwysoliad yng nghynllun graddau’r cwrs. Caiff y radd hon ei chyfrifo â'r blwch ticio Cyfrifo ar sail aseiniadau sydd wedi’u graddio yn unig (Calculate based only on graded assignments) sydd wedi’i ddewis yn y bar ochr.

Nodyn: Os ydych chi wedi cyfyngu graddau cyflawn yng Ngosodiadau’r Cwrs, does dim modd i’ch myfyrwyr weld eu gradd bresennol nac unrhyw ganrannau mewn grwpiau aseiniadau.

Gweld Gradd Gyflawn

Caiff y radd gyflawn ei chyfrifo drwy adio’r aseiniadau at ei gilydd yn unol â’u pwysoliad yng nghynllun graddau’r cwrs. Os yw cwrs yn defnyddio grwpiau aseiniad wedi'u pwysoli, gall myfyrwyr weld hefyd sut mae pob aseiniad wedi'i bwysoli yn y cwrs.

I weld y radd gyflawn yn y cwrs, gall myfyrwyr dynnu'r tic o’r blwch ticio Cyfrifo ar sail aseiniadau sydd wedi’u graddio yn unig (Calculate based only on graded assignments).

Nodyn: Os ydych chi wedi cyfyngu graddau cyflawn yng Ngosodiadau’r Cwrs, does dim modd i’ch myfyrwyr weld eu gradd gyflawn nac unrhyw ganrannau mewn grwpiau aseiniadau. Ond, mae toglo blwch ticio'r cyfrifiad yn dal yn effeithio ar aseiniadau unigol, megis os yw grŵp o aseiniadau yn cynnwys rheol gollwng.

Rhoi Graddau Beth-os

Rhoi Graddau Beth-os

Mae’r adnodd "Beth-os" yn gadael i fyfyrwyr gyfrifo eu gradd gyflawn drwy roi graddau damcaniaethol ar gyfer pob aseiniad. I brofi gwahanol sgôr ar gyfer aseiniad, gall myfyrwyr glicio gradd aseiniad a rhoi sgôr yn y golofn sgôr.