Pa wledydd sydd wedi'u gwahardd rhag defnyddio Canvas?

Oherwydd rheoliadau'r llywodraeth, mae Instructure yn gwahardd defnydd heb awdurdod o'i gynnyrch a'i wasanaethau mewn gwledydd a rhanbarthau penodol.

Mae Instructure yn cydymffurfio â rheoliadau'r Unol Daleithiau o ran gwledydd a rhanbarthau sydd o dan embargo. Fel sy'n ofynnol gan Swyddfa Rheoli Asedau Tramor Adran y Trysorlys UDA, mae Instructure yn gwahardd defnydd heb awdurdod o'i gynnyrch a'i wasanaethau:

Mae allforio, ail-allforio, gwerthu neu gyflenwi, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, o'r Unol Daleithiau, neu gan berson o'r UD ble bynnag y mae,unrhyw gynnyrch, gwasanaethau, neu dechnoleg Instructure (gan gynnwys data technolegol) i unrhyw un o'r gwledydd neu ranbarthau hyn wedi'i wahardd yn llwyr heb iddo gael ei awdurdodi gan lywodraeth yr UD o flaen llaw.

Oherwydd natur esblygol a phellgyrhaeddol rhaglenni sancsiynau'r UD, argymhellir bod cwsmeriaid a'u defnyddwyr yn ymgynghori â chyfreithiau a rheoliadau rheoli allforio'r UD er mwyn cael rhagor o wybodaeth.