Beth yw aseiniadau?
Mae aseiniadau’n cynnwys Cwisiau, Trafodaethau wedi’u graddio a chyflwyniadau ar-lein (hy ffeiliau, delweddau, testun, URLs ac ati). Mae modd defnyddio aseiniadau yn Canvas i herio dealltwriaeth myfyrwyr ac i helpu i asesu cymhwysedd drwy ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau. Mae’r dudalen Aseiniadau yn dangos i fyfyrwyr yr holl Aseiniadau y bydd disgwyl iddynt eu gwneud a sawl pwynt yw gwerth pob un.
Gellir neilltuo aseiniadau i bawb yn y cwrs neu wahaniaethu aseiniadau yn ôl adrannau neu ddefnyddwyr.
Mae'r dudalen Aseiniadau yn delio â bysellau hwylus. I weld ffenestr gyda rhestr o fysellau hwylus, pwyswch y bysellau Shift+Marc Cwestiwn ar yr un pryd ar eich bysellfwrdd.
Gwedd Addysgwr
Bydd unrhyw aseiniad sydd wedi’i greu a'i gyhoeddi yn y dudalen Aseiniadau yn ymddangos yn awtomatig yn y nodwedd Graddau (Grades), y nodwedd Calendr (Calendar) a’r nodwedd Maes Llafur (Syllabus) fel bod modd i fyfyrwyr eu gweld. Yn ogystal, bydd unrhyw aseiniadau sydd wedi’u creu yn y Calendr yn ymddangos yn awtomatig yn y nodwedd Graddau, y nodwedd Aseiniadau a’r nodwedd Maes Llafur.
Mae modd trefnu aseiniadau yn y nodwedd Modiwlau hefyd.
Pryd fyddwn i’n defnyddio Aseiniadau?
Mae modd defnyddio Aseiniadau i wneud y canlynol:
- Asesu pa mor dda y mae myfyrwyr yn cyflawni Deilliannau cwrs
- Creu cyflwyniadau ar-lein y gellir eu graddio’n gyflym yn y SpeedGrader
- Graddio ar-lein yn ogystal â gwaith myfyrwyr sydd wedi’i gyflwyno "ar bapur"
- Creu aseiniadau wedi’u gwahaniaethu ar gyfer adrannau
- Gosod adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr
- Graddio Trafodaethau, naill ai yn ôl y dosbarth cyfan neu yn ôl grwpiau o fyfyrwyr
- Agor Cwisiau am gyfnod cyfyngedig
- Cofnodi presenoldeb
- Creu gweithgareddau heb eu graddio a fydd yn cyd-fynd â Deilliannau'r cwrs
- Asesu cyflwyniadau gyda graddau wedi’u safoni a mwy nag un adolygydd
Gwedd Myfyriwr
Bydd unrhyw aseiniad sydd wedi’i greu gan addysgwr yn y dudalen Aseiniadau yn ymddangos yn awtomatig yn y nodwedd Graddau, y nodwedd Calendr a'r nodwedd Maes Llafur.
I gael gweld aseiniad, cliciwch enw’r aseiniad.