Sut ydw i’n cael mynediad at Canvas gyda phorwr symudol ar fy nyfais Android?
Gallwch gael mynediad at Canvas o unrhyw borwr ar eich dyfais Android. Ond, er mwyn sicrhau bod y defnyddwyr yn cael y profiad gorau, dylech edrych arCanvas drwy'r ap symudol ar gyfer dyfeisiau Android.
Does dim modd i Canvas ddelio â phorwyr symudol, ac efallai na fydd nodweddion yn gweithio yn ôl y disgwyl wrth gymharu â defnyddio Canvas mewn porwr bwrdd gwaith cwbl gydnaws. Dim ond pan fydd gweithred yn yr ap yn cysylltu’n uniongyrchol â’r porwr, fel pan fydd myfyrwyr yn gwneud rhai mathau penodol o gwisiau, y bydd modd defnyddio tudalennau Canvas mewn porwr symudol. Os nad oes modd defnyddio tudalennau yn yr ap ar hyn o bryd, fel Cynadleddau a Chydweithrediadau, does dim modd eu defnyddio yn y porwr chwaith.
Hefyd, dim ond rhywfaint o gymorth y mae Canvas yn ei gynnig ar gyfer porwyr symudol cynhenid ar ddyfeisiau tabled. I gael y manylion, darllenwch y canllawiau cymorth cyfyngedig ar gyfer porwyr symudol.
Mae'r delweddau yn y wers hon yn dangos yr hyn sydd i’w weld ar ffonau, ond os na nodir yn wahanol, mae'r un camau i’w gweld ar ddyfais tabled.
Agor Porwr Symudol

Tarwch yr eicon ar gyfer y porwr symudol o’ch dewis.
Nodyn: Bydd opsiynau porwr symudol yn amrywio yn ôl y ddyfais Android.
Rhoi URL Canvas

Rhowch URL Canvas eich sefydliad yn y maes URL.
Agor gyda'r Rhyngrwyd

Os ydych chi wedi gosod ap Canvas ar eich dyfais yn barod, bydd ffenestr naid yn ymddangos gan ofyn a ydych chi am agor Canvas gydag ap Canvas neu’r Rhyngrwyd.
Bydd angen i chi ddweud wrth eich dyfais wedyn pa mor aml i ofyn am wneud hyn:
- I sicrhau nad yw eich dyfais yn gofyn i chi byth eto a’i bod yn agor i’ch porwr bob tro, dewiswch y botwm Bob tro (Always) [1].
- Os ydych chi’n defnyddio ap Canvas yn rheolaidd a phrin am ddefnyddio’ch porwr, tarwch y botwm Unwaith yn unig (Just once) [2].
Mewngofnodi i Canvas

Rhowch eich manylion mewngofnodi ar gyfer Canvas yn y meysydd e-bost [1] a chyfrinair [2]. Tarwch y botwm Mewngofnodi (Log In) [3].
Gweld Canvas

Gallwch chi ryngweithio â Canvas fel y byddech chi’n ei wneud ar fersiwn gwe arferol o Canvas.