Ble ydw i’n dod o hyd i URL fy sefydliad er mwyn defnyddio Canvas?
Gallwch chi gael gafael ar Canvas drwy URL Canvas penodol i sefydliad, gwefan eich ysgol, neu ap symudol Canvas.
Dysgwch fwy am ofynion cyfrifiadur a phorwr Canvas, safonau hygyrchedd, a’r ieithoedd y mae Canvas yn gallu delio â nhw.
Nodiadau:
- Nid yw cyfrifon Canvas Network ac Am Ddim i Athrawon yn dilyn y strwythur URL penodol i sefydliad.
- I ddysgu mwy am Canvas, ewch i ganllawiau Nodweddion Sylfaenol Canvas neu ganllawiau Fideo Canvas. Gallwch chi hefyd ddysgu mwy am grwydro Canvas fel myfyriwr yng nghanllawiau Crwydro'r Safle Cyfan i Fyfyrwyr Canvas.
Mynediad Gwe Canvas
Gallwch chi gael gafael ar Canvas drwy URL Canvas penodol i sefydliad. Mae URLs Canvas yn defnyddio un o’r strwythurau canlynol: [enw eich sefydliad].instructure.com neu canvas.[enw eich sefydliad].edu.
Efallai y bydd rhai sefydliadau yn caniatáu mynediad at Canvas drwy system awdurdodi penodol i sefydliad sy’n ailgyfeirio i Canvas, fel gwefan neu borth myfyrwyr ysgol.
Cyfrifon Canvas Network ac Am Ddim i Athrawon
Nid yw cyfrifon Canvas Network ac Am Ddim i Athrawon yn dilyn y strwythur URL penodol i sefydliad.
Mae modd cael gafael ar gyfrifon Canvas Network yn learn.canvas.net.
Mae modd cael gafael ar gyfrifon Am Ddim i Athrawon yn canvas.instructure.com.
Mynediad at Ap Symudol
Mae cynnyrch Instructure wedi’u hoptimeiddio ar gyfer ymddangos ar fyrddau gwaith. Ond, os ydych chi’n defnyddio dyfais symudol, gallwch chi gael mynediad at gynnyrch Instructure drwy ddefnyddio rhaglen symudol (ap) neu borwr symudol. I gael y profiad gorau fel defnyddiwr, llwythwch i lawr a defnyddio ap symudol y cynnyrch sy’n berthnasol i’ch rôl defnyddiwr: Canvas Teacher, Canvas Student, neu Canvas Parent gan ddefnyddio dyfais Android neu iOS.
Mewn ap symudol, gallwch chi chwilio am eich sefydliad ar dudalen fewngofnodi’r ap neu roi URL Canvas eich sefydliad eich hun.