Mae Canvas yn defnyddio technoleg gydweithredol i ganiatáu i fwy nag un defnyddiwr weithio gyda’i gilydd ar yr un ddogfen ar yr un pryd. Caiff dogfennau cydweithredol eu cadw mewn amser real, sy’n golygu y bydd unrhyw newid sy'n cael ei wneud gan unrhyw ddefnyddiwr yn ymddangos i bawb yn syth.
Gallwch ddefnyddio'r nodwedd Cydweithrediadau i wneud y canlynol:
Mae holl gyrsiau Canvas yn delio â Google Docs fel yr adnodd cydweithrediadau diofyn. Mae cydweithrediadau sy'n defnyddio Google Docs ei gwneud yn ofynnol i’r holl ddysgwyr sy'n cymryd rhan greu cyfrif Google a’i gysylltu â’u Gosodiadau personol.
Mae Google Docs yn caniatáu i chi ychwanegu hyd at 50 defnyddiwr ym mhob cydweithrediad, a gall yr holl ddefnyddwyr weld a golygu dogfen ar yr un pryd. Fodd bynnag, mae gan gydweithrediadau Google gyfyngiad ar nifer y defnyddwyr all weld cydweithrediad ar yr un pryd.
Dysgwch sut mae creu cydweithrediad Google Docs fel addysgwr a chreu cydweithrediad Google Docs fel myfyriwr.
Mae’r nodwedd Cydweithrediadau hefyd yn delio ag LTI Google Apps, sy'n cael ei alluogi mewn cwrs fel ap allanol. Yn ogystal â chaniatáu i ddefnyddwyr greu Google Docs, mae cydweithrediadau Google Drive yn gallu creu Google Spreadsheets a Google Presentations.
I integreiddio Google Apps, mae’n rhaid galluogi’r rhagolwg nodwedd Adnodd Cydweithrediadau Allanol. Fodd bynnag, mae galluogi’r rhagolwg nodwedd hwn yn newid rhyngwyneb y Cydweithrediadau ac yn cael gwared ar unrhyw gydweithrediadau Google Docs.
Dysgwch sut mae creu cydweithrediad Google Drive fel addysgwr a chreu cydweithrediad Google Drive fel myfyriwr.
Hefyd, mae modd creu cydweithrediadau wrth alluogi LTI Microsoft Office 365 mewn cwrs fel ap allanol.
Dysgwch sut mae creu cydweithrediad Microsoft LTI fel addysgwr a chreu cydweithrediad Microsoft LTI fel myfyriwr.