Beth yw Ffeiliau?

Gall Ffeiliau gadw ffeiliau cwrs, aseiniadau, meysydd llafur, darlleniadau neu ddogfennau eraill, yn ogystal â lluniau proffil a ffeiliau sy'n benodol i ddefnyddwyr. Gall addysgwyr gloi ffolderi a ffeiliau fel bod yn rhaid cael dolenni uniongyrchol i allu edrych arnynt, neu fel eu bod yn cael eu datgloi ar ddyddiad penodol.

Mae modd rhoi ffeiliau mewn Modiwlau, Aseiniadau neu Tudalennau. Caiff ffeiliau a ffolderi eu gosod yn nhrefn yr wyddor ac nid oes modd eu haildrefnu.

Bydd defnyddwyr Canvas yn gallu gweld ffeiliau (dogfennau, delweddau, cyfryngau ac ati) mewn tri gwahanol le:

  • Ffeiliau personol, ym mhroffil pob defnyddiwr (myfyrwyr, athrawon a cynorthwywyr dysgu)—Gwylio fideo am ffeiliau personol
  • Ffeiliau cwrs, ym mhob cwrs (myfyrwyr, athrawon a chynorthwywyr dysgu oni bai fod y ffeiliau wedi’u cloi gan yr athro)—Gwylio fideo am Ffeiliau Cwrs
  • Ffeiliau grŵp, ym mhob grŵp (myfyrwyr ac athrawon sydd wedi ymrestru mewn grwpiau)

I ddysgu am fanylion cwota ffeil benodol ar gyfer pob rôl defnyddiwr, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Cwota Ffeiliau Cwrs.

Pryd fyddwn i'n defnyddio Ffeiliau fel Addysgwr?

Mae modd defnyddio Ffeiliau i wneud y canlynol:

  • Rhannu dogfennau cwrs a meysydd llafur â'ch myfyrwyr
  • Copïo dogfennau o un cwrs Canvas i un arall
  • Trefnu dogfennau cwrs yn ôl diwrnod, wythnos neu uned
  • Storio dogfennau personol nad ydych chi am eu rhannu â phobl eraill

Yn eich ffeiliau, mae modd i chi wneud y canlynol:

  • Ychwanegu ffolderi
  • Llwytho ffeiliau i fyny
  • Llwytho ffeil ZIP i fyny neu i lawr
  • Symud ffeiliau
  • Gweld rhagolwg o ffeiliau
  • Cyfyngu ar ffeiliau
  • Gweld eich storfa
  • Llusgo a gollwng ffeiliau o ffeiliau personol i ffeiliau cwrs
  • Gosod hawliau defnyddio ar gyfer ffeiliau a ffolderi.

Pryd fyddwn i’n defnyddio Ffeiliau fel Myfyriwr?

Mae modd defnyddio Ffeiliau i wneud y canlynol:

  • Rhannu dogfennau â’ch grŵp neu â myfyrwyr eraill mewn cwrs
  • Storio dogfennau personol neu aseiniadau sydd wedi eu cyflwyno
  • Storio lluniau proffil (os yw eich sefydliad yn caniatáu hynny)