Beth yw e-Bortffolios?
Mae e-Bortffolios wedi’u clymu i broffil y defnyddiwr ac nid i gwrs penodol. Mae Myfyrwyr ac addysgwyr sydd wedi ymrestru ar gwrs yn gallu creu nifer diderfyn o e-Bortffolios er mwyn casglu a dogfennu eu cyflwyniadau, eu profiadau a’u prosiectau addysgol, ac unrhyw waith arall. Gall defnyddwyr gadw e-Bortffolios yn breifat neu eu rhannu â myfyrwyr eraill, addysgwyr a/neu ddarpar gyflogwyr.
Yn Canvas, bydd e-Bortffolios yn aros yn weithredol cyhyd â bod y defnyddiwr yn System Gwybodaeth Myfyrwyr (SIS) y sefydliad a bod ganddo fanylion mewngofnodi ysgol. Mae Canvas hefyd yn caniatáu i ddefnyddwyr allgludo e-Bortffolios i ffeil zip. Mae modd i e-Bortffolios (ePortfolios) fod yn rhai preifat neu'n rhai cyhoeddus. Mae gweinyddwyr yn gallu llwytho adroddiad o bob eBortffolio mewn cyfrif i lawr o’r dudalen Gosodiadau Cyfrif.
Pryd fyddwn i’n defnyddio e-Bortffolios?

Mae modd defnyddio e-Bortffolios i wneud y canlynol:
- Creu nodiadau addysgol ar-lein ar gyfer myfyrio
- Creu safle ar-lein y gellir ei gyflwyno fel Asesiad ar-lein
- Dangos meistrolaeth o Ddeilliannau cwrs
- Rhannu eich gwaith gorau o fwy nag un cwrs
- Arddangos gwaith o safon proffesiynol ar gyfer darpar gyflogwyr