Beth yw Tudalennau?
Mae tudalennau'n storio cynnwys ac adnoddau addysgol sy’n rhan o gwrs neu grŵp ond nid ydynt o reidrwydd yn perthyn i aseiniad. Gall tudalennau gynnwys testun, fideo a dolenni i ffeiliau a chynnwys cwrs neu grŵp arall. Mae modd cysylltu tudalennau â thudalennau eraill hefyd. Hefyd, mae modd eu defnyddio fel adnodd cydweithredu ar gyfer wicis cwrs neu grŵp lle mai dim ond defnyddwyr penodol sydd â mynediad. Mae Canvas yn cadw holl hanes y dudalen i gyfrif am newidiadau dros amser.
Gwedd Addysgwr
Mewn cwrs, gall addysgwyr greu tudalen newydd gyda thestun, delweddau, cyfryngau, dolenni a/neu ffeiliau eraill [1].
Mae’r eicon Opsiynau (Options) [2] yn gadael i addysgwyr olygu teitl tudalen, dileu, ei defnyddio fel tudalen flaen, dyblygu’r dudalen, anfon copi o’r dudalen i addysgwr arall yn eu sefydliad, neu gopïo’r dudalen i un o’u cyrsiau eraill.
Mae’r botwm Dileu (Delete) [3] yn gadael i addysgwyr dileu tudalennau sydd wedi’u dewis.
Gwedd Myfyriwr
Gall myfyrwyr weld tudalennau mewn cyrsiau. Fodd bynnag, gall addysgwyr ganiatáu i fyfyrwyr olygu a chyfrannu at dudalennau cyrsiau. Gall myfyrwyr bob amser greu tudalennau yn eu grŵp myfyrwyr.
Mewn grwpiau, gall myfyrwyr weld yr un cynllun tudalen gydag enw’r dudalen, dyddiadau creu a dyddiadau golygu. Gallant hefyd ychwanegu tudalennau newydd mewn grŵp [1]. Yn yr eicon Opsiynau [2], gallant olygu, dileu neu ddefnyddio tudalen fel tudalen flaen ar gyfer grŵp. Gall myfyrwyr ddefnyddio’r botwm Dileu (Delete) [3] i ddileu tudalennau sydd wedi’u dewis ar gyfer grŵp.