Beth yw rôl Arsyllwr?

Yn Canvas, gellir defnyddio rôl yr Arsyllwr i ymrestru rhieni, mentoriaid a gwesteion a hoffai gymryd rhan mewn cwrs Canvas ond nad oes arnynt angen ennill credyd cwrs. Mae gan arsyllwyr rywfaint o hawliau sy'n caniatáu iddynt weld yr hyn sy'n mynd ymlaen ar gwrs heb amharu ar lif cyfathrebu dyddiol y cwrs. Fel myfyrwyr, ni all Arsyllwyr weld cwrs nes fod y cwrs wedi’i gyhoeddi a bod y cwrs wedi dechrau.

I gael rhagor o wybodaeth am rôl arsyllwr, gwyliwch y fideo Cofrestru Rhieni ac Arsyllu Myfyrwyr.

Gall arsyllwyr weld aseiniadau, digwyddiadau cwrs a graddau myfyriwr yn yr ap Canvas Parent. I gael rhagor o wybodaeth am hawliau defnyddiwr ar lefel y cwrs, edrychwch ar y ddogfen adnoddau ar Hawliau Cwrs Canvas.

Defnyddio Rôl Arsyllwr

Gall arsyllwyr weld data cwrs ond ni allant gymryd rhan yn holl rannau Canvas. Mae modd ychwanegu arsyllwyr at gwrs i arsyllu data cwrs. Er enghraifft, weithiau mae addysgwyr yn gwahodd gwesteion i ymuno â'u cyrsiau, fel gwe-gynhadledd. Drwy ymrestru gwestai â rôl arsyllwr, mae modd iddo gael mynediad at y cwrs heb allu effeithio ar unrhyw gyfranogiad na data cwrs.

Prif ddefnydd rôl arsyllwr yw cysylltu defnyddiwr â myfyriwr. Mae modd cysylltu arsyllwyr â myfyriwr neu â mwy nag un myfyriwr a gweld data'r myfyriwr yn y cwrs. Caiff rhieni yn aml eu hymrestru fel arsyllwyr a’u cysylltu â myfyrwyr, yn enwedig mewn amgylcheddau K12. Ni all arsyllwyr gyflwyno gwaith ar ran y myfyrwyr y maent yn eu harsyllu, ond mae modd iddynt weld graddau, aseiniadau a digwyddiadau myfyrwyr, yn ogystal â rhyngweithio â chwrs.

Gan ddibynnu ar y sefydliad, gall arsyllwyr gael gwahanol lefelau o fynediad. Mae modd cysylltu arsyllwyr â myfyriwr unigol neu â mwy nag un myfyriwr. Gall y cysylltiadau hyn fod ar lefel cyfrif neu ar lefel cwrs.

  • Bydd cysylltiad ar lefel cyfrif-defnyddiwr yn sicrhau bod yr arsyllwr wedi'i gysylltu â myfyriwr a bydd yn ymrestru’r arsyllwr yn awtomatig ar bob un o gyrsiau blaenorol, cyrsiau presennol a chyrsiau i’r dyfodol y myfyriwr.
  • Mae cysylltiad ar lefel cwrs yn gysylltiad rhwng ymrestriad arsyllwr mewn cwrs ac ymrestriad myfyriwr yn yr un cwrs. Mae’n rhaid creu’r cysylltiadau hyn bob tro mae’r myfyriwr a’r arsyllwr yn ymrestru ar gwrs.

Mynediad Arsyllwr yn Canvas

I gael rhagor o wybodaeth am gyfranogiad arsyllwyr, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Amlygrwydd a Chyfranogiad Arsyllwyr.

Mae arsyllwyr yn gallu

  • Gweld a darllen cyhoeddiadau
  • Gweld tudalen mynegai aseiniadau
  • Gweld y calendr
  • Ymuno â chynadleddau, os ydynt wedi cael gwahoddiad
  • Ymuno â chydweithrediadau, os ydynt wedi cael gwahoddiad
  • Gweld blwch derbyn personol
  • Anfon negeseuon mewn sgwrs at addysgwr ac at y myfyrwyr sy'n cael eu harsyllu
  • Gweld y dangosfwrdd
  • Gweld a darllen trafodaethau
  • Gweld ffeiliau oni bai eu bod nhw wedi’u cloi
  • Gweld graddau, gweld dyddiadau erbyn a sylwadau ar aseiniadau ac argraffu graddau
  • Gweld modiwlau a gweld dyddiadau erbyn a gwerthoedd pwynt
  • Gweld tudalennau a chyfrannu os yw’r addysgwr yn galluogi'r gosodiad Gall unrhyw un olygu (Anyone can edit it)
  • Gweld lluniau proffil, os oes rhai ar gael
  • Gweld maes llafur
  • Gweld deilliannau
  • Gweld tudalen mynegai cwisiau

 

Ni all arsyllwyr wneud y canlynol

  • Gwneud sylw ar gyhoeddiadau na thrafodaethau
  • Cyflwyno aseiniadau na chwisiau
  • Gweld cofrestr y cwrs
  • Anfon negeseuon mewn sgwrs at fyfyrwyr yn y cwrs nad ydynt yn eu harsyllu
  • Gweld ffeiliau neu ffolderi sydd wedi eu cloi
  • Ymuno â grwpiau
  • Gweld cyrsiau sydd heb eu cyhoeddi
  • Defnyddio’r adnodd Sgwrsio
  • Cadw slotiau ar gyfer apwyntiadau yn y Trefnydd
  • Gweld llwybr archwilio graddau

Cyfyngiadau ar Arsyllwyr

  • Gall arsyllwyr weld yr un cynnwys â'r myfyriwr y maent yn ei arsyllu oni bai fod y cynnwys heb ei gyhoeddi neu wedi’i atal gan ddyddiadau sydd wedi’u cloi.
  • Gall arsyllwyr weld cynnwys modiwlau sydd wedi’i gloi gan ragofynion neu ofynion oherwydd nad yw cynnydd y modiwl yn cael ei fesur ar gyfer arsyllwyr.
  • Gall arsyllwyr weld aseiniadau hyd yn oed os nad yw'r myfyriwr sy’n cael ei arsyllu wedi eu cwblhau, oni bai fod yr aseiniadau wedi cael eu cloi.
  • Gall pob addysgwr addasu'r dolenni yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs a chyfyngu ar nifer y nodweddion y gall myfyrwyr ac arsyllwyr eu gweld. Gallai arsyllwyr weld dolenni i nodweddion penodol.
  • Mae cyrsiau sydd wedi’u cyfyngu i ddyddiadau’r tymor yn agored i arsyllwyr yn ystod dyddiadau’r tymor. Nid yw dyddiadau mynediad myfyrwyr yn berthnasol i arsyllwyr.