Beth yw SpeedGrader?

Fel addysgwr, mae SpeedGrader yn caniatáu i chi weld a graddio aseiniadau sydd wedi’u cyflwyno gan fyfyrwyr mewn un lle gan ddefnyddio graddfa bwyntiau neu gyfarwyddyd sgorio cymhleth. Mae Canvas yn derbyn amrywiaeth o fformatau dogfennau a hyd yn oed URLs ar gyfer aseiniadau a gyflwynir. Mae modd marcio rhai aseiniadau dogfen i gael adborth yn uniongyrchol yn y cyflwyniad. Mae modd rhoi adborth i’ch myfyrwyr drwy ddefnyddio testun neu sylwadau ar gyfryngau hefyd.

Gwylio fideo am SpeedGrader

Pryd Fyddwn i’n Defnyddio SpeedGrader?

Gallwch ddefnyddio SpeedGrader i wneud y canlynol:

  • Trefnu cyflwyniadau yn ôl myfyrwyr a chuddio enwau'r myfyrwyr er mwyn graddio’n ddienw
  • Edrych ar fanylion cyflwyniad pob myfyriwr, gan gynnwys aseiniadau sydd wedi’u hailgyflwyno
  • Defnyddio cyfarwyddiadau sgorio i ddyrannu graddau
  • Rhoi adborth i’ch myfyrwyr
  • Tracio eich cynnydd graddio a chuddio aseiniadau pan fyddwch chi'n graddio
  • Gweld cyflwyniadau mewn aseiniadau wedi’u safoni

Gweld SpeedGrader

Ar gyfer pob myfyriwr, mae gan SpeedGrader bum maes:

  1. Gweld cyflwyniadau myfyrwyr (cofnodion testun, URLs gwefannau, recordiadau ar gyfryngau a/neu ffeiliau wedi eu llwytho i fyny); gweld rhagolwg o fathau o ffeiliau y mae modd delio â nhw yn DocViewer Canvas; adolygu cyflwyniadau mewn fformat ffeil arall gan ddefnyddio’r rhagddangosydd dogfennau neu Google Preview
  2. Dyrannu gradd yn seiliedig ar eich hoff ddull asesu (pwyntiau neu ganrannau)
  3. Gweld Cyfarwyddyd Sgorio i helpu i raddio (os oes un wedi’i ychwanegu at yr aseiniad)
  4. Gweld sylwadau sydd wedi’u creu gennych chi neu'r myfyriwr am yr aseiniad
  5. Creu testun, fideo a/neu sylwebaeth sain ar gyfer y myfyriwr

Nodyn: Mae modd defnyddio bysellau hwylus i lywio SpeedGrader. I weld ffenestr gyda rhestr o fysellau hwylus, pwyswch y bysellau Shift+Marc Cwestiwn ar yr un pryd ar eich bysellfwrdd.