Beth yw Deilliannau?

Mae deilliannau'n caniatáu i’r gweinyddwyr a’r staff ddilyn lefel meistroli mewn cwrs. Gall defnyddwyr fewngludo Cyfrif, Cyflwr a Safonau Common Core i gyfrif ac i gwrs.

Deilliannau Cyfrif neu Gwrs

Mae deilliannau’n galluogi'r gweinyddwyr a’r staff i ddilyn cynnydd myfyrwyr, a fesurir yn ôl nodau addysgeg neu ddeilliannau dymunol.

Mae asesiadau sydd wedi eu llunio i brofi gwybodaeth myfyrwyr neu i ofyn i fyfyrwyr ddangos sgil benodol o ganlyniad i weithgaredd dysgu yn gallu cael eu cysoni â deilliannau dysgu gan ddefnyddio cyfarwyddiadau sgorio (y gellir eu defnyddio ar gyfer graddio ar yr un pryd).

Drwy raddio gwaith myfyrwyr yn awtomatig, mae modd casglu a chydymffurfio data ar gynnydd myfyrwyr ar gyfer y Deilliannau. Mae’r data ar gael ar gyfer adroddiadau er mwyn helpu i wella dysgu, i nodi myfyrwyr sydd mewn perygl ac i helpu â’r broses achredu. Mae’r dull unedig a syml hwn yn golygu bod y gwaith sydd angen ei wneud i roi’r Deilliannau Dysgu ar waith yn gostwng yn aruthrol drwy ailddefnyddio asesiadau llif gwaith mewn ffordd ddeallus wrth raddio.

Pryd fyddwn i’n defnyddio Deilliannau?

Mae modd defnyddio deilliannau i wneud y canlynol:

  • Sicrhau bod y myfyrwyr yn canolbwyntio ar y sgiliau a’r gweithgareddau pwysicaf yn eich cwrs (mae modd dod o hyd i ddeilliannau sy'n bodoli eisoes neu gallwch greu rhai newydd)
  • Alinio Cwisiau ac Aseiniadau i wahanol fathau o feistrolaeth
  • Rhedeg adroddiadau ar lefel y cyfrif am arteffactau meistroli dysgu myfyrwyr
  • Asesu cynnydd myfyrwyr drwy ddulliau cyfrifo
  • Tracio cynnydd myfyrwyr yng nghyswllt deilliant dysgu neu yn gyffredinol yn y Llyfr Graddau Meistroli Dysgu
  • Alinio achrediad neu safonau craidd eraill i raglenni astudio, cyrsiau neu asesiadau myfyrwyr

Dulliau Cyfrifo

Pan fydd defnyddwyr yn creu deilliant, mae modd pennu un o bedwar dull cyfrifo a ddefnyddir ar gyfer meistrolaeth myfyrwyr: Cyfartaledd sy’n rhoi mwy o bwyslais ar waith diweddar, n Sawl Gwaith, Sgôr Fwyaf Diweddar a Sgôr Uchaf. Caiff dulliau cyfrifo eu defnyddio yn unol â’r Llyfr Graddau Meistroli Dysgu.

Gellir pennu dulliau cyfrifo wrth addasu deilliannau’r cwrs (addysgwyr) neu wrth greu deilliannau personol ar gyfer y cyfrif (gweinyddwyr).

Nodiadau:

  • Ar gyfer Deilliannau newydd sydd wedi’u creu yn rhyngwyneb Canvas, defnyddir Cyfartaledd Sy’n Rhoi Mwy o Bwyslais ar Waith Diweddar yn ddiofyn, oni bai fod dull cyfrifo arall yn cael ei ddewis.
  • Ar gyfer Deilliannau newydd sydd wedi’u creu gan ddefnyddio Deilliannau API, bydd y dull cyfrifo Sgôr Uchaf yn cael ei osod yn ddiofyn. Fodd bynnag, mae modd addasu'r dull hwn â’r paramedrau priodol.
  • Os bydd defnyddiwr yn mewngludo deilliant ond nad oes ganddo hawl i addasu'r dull cyfrifo, ni fydd modd newid y dull cyfrifo.
  • Mae deilliannau Common Core bob amser yn cael eu cyfrifo fel y Sgôr Uchaf ond gall unrhyw ddefnyddiwr sydd â'r hawliau gweinyddol priodol addasu’r dull cyfrifo gan ddefnyddio’r Deilliannau API.

Cyfartaledd Sy’n Rhoi Mwy o Bwyslais ar Waith Diweddar

Cyfartaledd Sy’n Rhoi Mwy o Bwyslais ar Waith Diweddar

Mae’r dull cyfrifo Cyfartaledd Sy’n Rhoi Mwy o Bwyslais ar Waith Diweddar (Decaying Average) yn cynnwys cyfartaledd yr holl eitemau asesu ac yn pwysoli cyflwyniad diweddaraf (cyfredol) unrhyw aseiniad sy’n gysylltiedig â'r deilliant hwn ar ganran uwch.

Yn draddodiadol, mae’r term cyfartaledd sy’n rhoi mwy o bwyslais ar waith diweddar yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio prosesau dadansoddi cymhleth: pan fydd asesiadau pellach yn cael eu cymhwyso i werth presennol, bydd y cyfartaledd blaenorol yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo’r cyfartaledd newydd. Mae’r dull hwn yn pwysoli’r holl asesiadau yn gyfartal ac yn cyfrifo cyfartaledd y dysgu dros amser. Fodd bynnag, mae dull Canvas yn defnyddio dull symlach lle mae Canvas yn cyfrifo cyfartaledd yr holl asesiadau blaenorol ac yn cymhwyso'r gwerth fel fformiwla canran wedi’i bwysoli, yn hytrach na’r dull arall sy’n ymwneud â defnyddio'r cyfartaledd blaenorol sy'n rhoi mwy o bwyslais ar waith diweddar.

Yn ddiofyn, mae'r cyfartaledd sy'n rhoi mwy o bwyslais ar waith diweddar wedi'i osod ar 65/35 yn Canvas, felly mae’r eitem bresennol yn cael ei phwysoli ar 65%, a chyfartaledd sgorau pob defnyddiwr arall yn cael ei bwysoli ar 35%. Fodd bynnag, gall defnyddwyr nodi rhwng 1% a 99% ar gyfer y ganran bresennol, a bydd y sgorau blaenorol yn cael eu pwysoli yn erbyn y gwahaniaeth yn y canrannau. Cofiwch bod y cyfartaledd yn cael ei dalgrynnu i’r ddau le degol nesaf. Os mai dim ond un canlyniad sydd ar gael, yna un sgôr fydd yn ymddangos.

Er enghraifft, mae gan fyfyriwr bedair eitem wedi’u halinio gyda sgorau o 4, 3, 2 a 5 (wedi’u rhestru mewn trefn gronolegol o’r sgôr hynaf i’r sgôr fwyaf diweddar). Os yw'r eitem bresennol wedi'i gosod i gael ei phwysoli ar 65% o feistrolaeth, bydd sgorau blaenorol yn cael eu pwysoli ar 35%:

  • Sgôr yr eitem bresennol: 5
  • Cyfartaledd eitem flaenorol: (4 + 3 + 2) / 3 = 3
  • Sgôr a gyfrifwyd: 5 (.65) + 3 (.35) = 3.25 + 1.05 = 4.3

n Sawl Gwaith

n Sawl Gwaith

Mae'r cyfrifiad n Sawl Gwaith (n Number of Times) yn nodi nifer benodol o weithiau y mae’n rhaid cyrraedd y lefel meistroli neu ragori ar y lefel honno, a nifer yr eitemau sydd wedi’u halinio y mae’n rhaid eu cyflawni er mwyn gallu cymhwyso. Nid yw sgorau nad ydynt yn cyrraedd y lefel meistroli yn rhan o’r cyfrifiad.

Gall defnyddwyr nodi rhwng 1 a 10 eitem sy'n ofynnol ar gyfer meistrolaeth.

Er enghraifft, mae angen i fyfyriwr ennill meistrolaeth 2 waith gyda sgôr meistroli o 5. Os yw’r myfyriwr wedi cael y sgorau 1, 3, 2, 4, 5, 3 a 6, dim ond y sgorau 5 a 6 fyddai’n rhan o’r cyfrifiad.

  • Sgôr gyfartalog yr eitemau cymwys: 5 + 6 = 11
  • Sgôr a gyfrifwyd: 11 / 2 = 5.5

Sgôr fwyaf diweddar

Sgôr fwyaf diweddar

Mae’r cyfrifiad Sgôr Diweddaraf (Most Recent Score) bob amser yn dewis y sgôr uchaf ar gyfer yr holl eitemau asesu.

Sgôr Uchaf

Sgôr Uchaf

Mae’r cyfrifiad Sgôr Uchaf (Highest Score) bob amser yn dewis y sgôr uchaf ar gyfer yr holl eitemau asesu.

Graddfeydd Meistroli Deilliannau

Graddfeydd Meistroli Deilliannau

Os yw’r opsiwn nodwedd Graddfeydd Meistroli Deilliannau Lefel Cyfrif a Chwrs wedi’i galluogi ar gyfer eich cyfrif, gallwch chi osod graddfeydd meistroli ar gyfer y cyfrif cyfan.

Dysgwch fwy am raddfeydd meistroli mewn cyfrif ac mewn cwrs.

Cyfrifiadau Meistroli Deilliannau

Cyfrifiadau Meistroli Deilliannau

Os yw’r opsiwn nodwedd Graddfeydd Meistroli Deilliannau Lefel Cyfrif a Chwrs wedi’i galluogi ar gyfer eich cyfrif, gallwch chi osod cyfrifiadau meistroli ar gyfer y cyfrif cyfan.

Dysgwch fwy am gyfrifiadau meistroli mewn cyfrif ac mewn cwrs.

Gwell Rheoli Deilliannau

Gwell Rheoli Deilliannau

Os yw’r opsiwn nodwedd Graddfeydd Meistroli Deilliannau Lefel Cyfrif a Chwrs a’r opsiwn nodwedd Gwell Rheoli Deilliannau wedi’u galluogi ar gyfer eich cyfrid, bydd y dudalen Deilliannau yn dangos rhyngwyneb gwell ar gyfer gweld a rheoli deilliannau.

Dysgwch fwy am Well Rheoli Deilliannau cyfrif ac mewn cwrs.