Beth yw’r gofynion cyfrifiadur a’r gofynion porwr gyfer cynnyrch Instructure?

I gael y perfformiad gorau, dylai cynnyrch Instructure gael eu defnyddio ar y fersiynau cyfredol neu’r fersiynau mawr blaenor o Chrome, Firefox, Edge, neu Safari. Oherwydd bod cynnyrch Instructure wedi’u creu gan ddefnyddio safonau gwe, mae cynnyrch Instructure yn rhedeg ar Windows, Mac, Linux, iOS, Android ac unrhyw ddyfais sydd â phorwr gwe modern.

Mae cynnyrch Instructure angen system weithredu sy’n gallu rhedeg y porwyr gwe cydnaws diweddaraf. Dylid diweddaru system weithredu’ch cyfrifiadur gyda’r diweddariadau a’r prosesau uwchraddio diogelwch diweddaraf sy’n cael eu hargymell.

Nodyn: Efallai y bydd defnyddwyr URL Canvas hwylus yn dod ar draws gwallau dilysu SSL pan fyddan nhw’n agor Canva os nad yw eu porwr neu unrhyw adnoddau eraill sy’n rhyngweithio â Canvas yn gallu delio a Nodi Enw Gweinydd (SNL). Mae pob porwr sydd wedi’i restru yn y canllaw hwn yn gallu delio â SNL.

Porwyr Mae Modd Delio â Nhw

Dylech bob amser ddefnyddio’r fersiwn diweddaraf o’r porwr rydych chi wedi’i ddewis. Bydd eich porwr yn rhoi gwybod i chi pan fydd fersiwn newydd ar gael.

Baner Porwr yn Canvas nad oes modd delio ag o

Gall rhai porwyr y mae modd delio â nhw ddangos baner â’r neges: Nid yw eich porwr yn bodloni’r gofynion sylfaenol ar gyfer Canvas. Os ydych chi wedi diweddaru eich porwr ond eich bod chi'n dal i weld y faner rhybudd, rhowch gynnig ar allgofnodi o Canvas a dileu cwcis eich porwr.

Porwyr Fersiynau Estynedig Enterprise yn Canvas

Mae Chrome a Firefox yn cynnig fersiynau estynedig ar gyfer sefydliadau sy'n rheoli byrddau gwaith cleientiaid. Gellir diweddaru fersiwn estynedig Chrome ar unrhyw adeg gyda fersiwn lawn Chrome sy'n bodoli'n barod. Ond, dydy fersiwn estynedig Firefox ddim ond yn cael ei ddiweddaru bod saith fersiwn lawn, sy'n achosi i fersiwn estynedig Firefox orgyffwrdd â hen fersiynau. Mae gwefan fersiwn estynedig Firefox yn nodi ei bod yn bosib na fydd pob gwefan yn gallu delio â'r fersiwn estynedig oherwydd yr oedi wrth ryddhau'r fersiwn. Dylai sefydliadau sy'n defnyddio fersiwn estynedig Firefox ystyried defnyddio'r fersiwn ddiweddaraf er mwyn sicrhau eu bod yn cael y profiad gorau o ddefnyddio Canvas.

* Mae'r faner rybudd dal yn berthnasol ar gyfer fersiynau estynedig porwyr, ac mae'n ymddangos yn Canvas ar gyfer unrhyw borwr sydd o dan y gofynion o ran fersiwn.

Ymddygiadau Porwr Hysbys

Fel holl nodweddion cynnyrch Instructure, caiff ymddygiadau croes sy'n ymwneud â phorwyr eu blaenoriaethu gan ein timau cynnyrch ac efallai na fydd rhai ymddygiadau yn y fersiwn blaenorol yn cael eu datrys. Os oes ymddygiad mewn fersiwn blaenorol o’r porwr nad yw yn y fersiwn cyfredol, yr ateb gorau fyddai diweddaru i’r fersiwn diweddaraf o’r porwr.

Hygyrchedd

Mae Instructure wedi ymrwymo i Fenter Hygyrchedd Gwe W3C. I ddysgu am gyfuniadau o borwyr a darllenwyr sgrin y mae modd delio â nhw, ewch i safonau hygyrchedd Canvas, hygyrchedd yn Studio, a dogfennau opsiynau hygyrchedd Mastery Connect.

JavaScript

Rhaid galluogi JavaScript er mwyn rhedeg Canvas.

Estyniadau ac Ategion Porwr

Gall rhai estyniadau ac ategion porwr wrthdaro â chynnyrch Instructure ac effeithio ar ei swyddogaethau. Os ydych chi’n dod ar draws ymddygiad nad yw’n caniatáu i chi weld cynnyrch Instructure na chymryd rhan ynddynt, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi analluogi unrhyw estyniadau neu ategion sy’n rhyngweithio’n uniongyrchol â’ch porwr gwe.

I ddatrys problemau, ceisiwch fewngofnodi i gynnyrch Instructure gan ddefnyddio ffenestr porwr preifat neu anhysbys sydd yn darparu sesiwn porwr heb unrhyw hanes chwilio na phori blaenorol, heb gwcis sy’n gysylltiedig â’r porwr a heb ffactorau eraill a all amharu ar y porwr. Os ydych chi’n gallu gweld cynnyrch Instructure a chymryd rhan ynddo heb ddefnyddio ffenestr porwr sy'n breifat, mae'n debygol bod yr ymddygiad rydych chi’n ei weld yn ymwneud â’r porwr, nid â Canvas.

Gosodiadau Porwr Preifat

Er mwyn sicrhau diogelwch eich porwr, dilynwch unrhyw bolisïau diogelwch porwr sydd wedi’u sefydlu gan eich sefydliad, yn enwedig os ydych chi’n defnyddio cynnyrch Instructure ar gyfrifiadur sydd wedi’i ddarparu gan eich sefydliad.

Wrth arddangos cynnwys, mae cynnyrch Instructure yn defnyddio’r dewis sydd wedi’i osod gan borwr penodol yn ddiofyn. Gall rhai porwyr wneud addasiadau i osodiadau preifatrwydd o bryd i’w gilydd er mwyn diogelu defnyddwyr rhag cynnwys anniogel posib. Caiff cynnwys anniogel ei ddiffinio gyda'r rhagddodiad http:// yn yr URL a gall greu cynnwys cymysg yn eich tudalen gynnyrch. Caiff cynnwys diogel ei ddiffinio gyda’r rhagddodiad https:// yn yr URL. I gael y profiad gorau fel defnyddiwr, dylai cynnwys fod yn ddiogel er mwyn osgoi gwrthdaro yn y porwr.

  • Os ydych chi’n weinyddwr Canvas, mae’n bosib y bydd lletya ffeil JS/CSS anniogel y tu allan i Canvas yn achosi cynnwys anniogel. Os yw eich cyfrif yn gallu delio â ffeiliau personol sydd wedi eu llwytho i fyny, gallwch letya eich ffeil yng Ngolygydd Thema Canvas, a fydd yn datrys unrhyw wrthdaro yn y porwr.
  • Os ydych chi’n addysgwr Canvas sy’n plannu gwersi Canvas yn eich cwrs, gallwch atal problemau yn y porwr sy'n ymwneud â chynnwys cymysg gan ddefnyddio URLs Canllawiau Canvas diogel. 

Ymddygiadau Porwr Hysbys

Mae Chrome, Edge, Firefox, a Safari yn defnyddio HTML5 i arddangos cynnwys gwefan, gan roi profiad pori cyflymach a mwy diogel. Er mwyn cael y perfformiad gorau yng nghynnyrch Instructure, dylai cynnwys cyrsiau gael ei gynllunio i ddelio â HTML5.

Mewn porwyr fel Safari, nid yw cynnwys anniogel fyth yn cael ei ddangos yn y porwr.

Fodd bynnag, yn Chrome a Firefox, gallwch ddewis gweld cynnwys anniogel. Dylech fod yn ymwybodol o gyfyngiadau posib a bod yn ofalus wrth edrych ar gynnwys anniogel.

Dydy’r porwr Safari ddim yn gallu delio â recordio cyfryngau.

Diogelwch Chrome

Diogelwch Chrome

Mae Google Chrome yn dilysu bod cynnwys y wefan rydych chi’n edrych arni yn cael ei drosglwyddo’n ddiogel. Os ydych chi’n mynd ar dudalen yn eich cynnyrch Instructure sy'n gysylltiedig â chynnwys anniogel, mea Chrome yn dangos eicon tarian ym mar cyfeiriad y porwr [1].

Gallwch ddewis diystyru'r cyfyngiad diogelwch a dangos y cynnwys beth bynnag, drwy glicio'r eicon tarian ac yna’r botwm Llwytho sgript anniogel (Load unsafe script) [2].

Hawliau Cyfryngau Chrome

Hawliau Cyfryngau Chrome

Mae gan Chrome ei hawliau cyfryngau ei hun yn y porwr. I ddefnyddio camera neu feicroffon eich cyfrifiadur mewn unrhyw nodwedd cynnyrch Instructure, caniatewch fynediad at gynnyrch Instructure drwy osodiadau hawliau cyfryngau Chrome. Mae’r anogwr hwn yn ymddangos o dan y bar cyfeiriad [1]. I ganiatáu mynediad, cliciwch y botwm Caniatáu (Allow) [2].

Diogelwch Firefox

Diogelwch Firefox

Mae Firefox yn dilysu bod cynnwys y wefan rydych chi’n edrych arni yn cael ei drosglwyddo’n ddiogel. Os ydych chi’n mynd ar dudalen yn eich cynnyrch Instructure sy'n gysylltiedig â chynnwys anniogel, mae Firefox yn dangos clo gydag eicon rhybudd ym mar cyfeiriad y porwr [1].

Gallwch ddewis diystyru'r cyfyngiad diogelwch a dangos y cynnwys beth bynnag drwy glicio y clo gydag eicon rhybudd, clicio'r saeth i ehangu eich opsiynau [2] a dewis y botwm Analluogi diogelwch am y tro (Disable protection for now) [3].

Manylebau Cyfrifiadur

I sicrhau’r perfformiad gorau, defnyddiwch gynnyrch Instructure gyda chyfrifiadur sy’n gallu delio â’r fersiynau porwyr diweddaraf. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio cyfrifiadur sy’n bum mlwydd oed neu iau, sydd ag o leiaf 1GB o RAM.

System Weithredu

Mae cynnyrch Instructure angen system weithredu sy’n gallu rhedeg y porwyr gwe cydnaws diweddaraf. Dylid diweddaru system weithredu’ch cyfrifiadur gyda’r diweddariadau a’r prosesau uwchraddio diogelwch diweddaraf sy’n cael eu hargymell.

Cyflymder y Rhyngrwyd

Ynghyd â chydnawsedd a safonau gwe, mae cynnyrch Instructure wedi eu llunio’n ofalus i ddarparu ar gyfer amgylcheddau lled band isel.

Rydym yn argymell bod cyflymder eich rhyngrwyd yn 512kb yr eiliad o leiaf.

Dyfeisiau Symudol

Mae cynnyrch Instructure wedi’u hoptimeiddio ar gyfer ymddangos ar fyrddau gwaith. Ond, os ydych chi’n defnyddio dyfais symudol, gallwch chi gael mynediad at gynnyrch Instructure drwy ddefnyddio rhaglen symudol (ap) neu borwr symudol. 

Apiau Symudol

I gael y profiad gorau fel defnyddiwr, dylech lwytho apiau symudol y cynnyrch i lawr. Mae apiau symudol ar gael ar gyfer Canvas a Mastery Connect ar hyn o bryd.

Mae apiau symudol Canvas angen Android 8.0 neu ddiweddarach ac iOS 15.0 neu ddiweddarach. Dim ond rhywfaint o gymorth y mae Canvas yn ei gynnig ar gyfer porwyr symudol cynhenid ar ddyfeisiau tabled. I gael rhagor o fanylion, darllenwch y canllawiau sy'n rhoi rhywfaint o gymorth â phorwyr symudol.

Mae apiau symudol Mastery Connect angen Android 8.0 neu ddiweddarach ac iOS 15.0 neu ddiweddarach. I gael rhagor o fanylion, cyfeiriwch at Ofynion Mastery Connect.

Porwyr Symudol

Ewch i'r Apple Store ac i’r Play Store i lwytho porwyr symudol i lawr. Mae'r porwyr mawr canlynol yn gydnaws â dyfeisiau symudol:

iOS

  • Safari (porwr diofyn gyda rhywfaint o gymorth Canvas)
  • Chrome

Android

  • Chrome (porwr diofyn gyda rhywfaint o gymorth Canvas)*
  • Rhyngrwyd
  • Firefox

*Mae porwyr diofyn Android yn amrywio yn ôl y ddyfais symudol.