Beth yw’r Adnodd Mewngludo Cwrs?

Mae’r Adnodd Mewngludo Cwrs yn ei gwneud hi’n hawdd echdynnu aseiniadau, cwisiau a chynnwys cwrs o dymhorau blaenorol a’u mewngludo'n gyflym i gyrsiau presennol. Caiff yr un adnodd ei ddefnyddio i fewngludo deunyddiau cwrs o wahanol Systemau Rheoli Cyrsiau. Mae rhai cyfyngiadau ar ffeiliau mewngludo cwrs.

Nodiadau:

  • Mae mewngludo cyrsiau a ffeiliau cyrsiau yn cyfrif tuag at gwotâu ffeiliau cwrs. Ond, mae copïo ffeiliau cyrsiau a chyrsiau Canvas sy’n bodoli’n barod yn cyfeirio at gwota ffeiliau gwreiddiol y cwrs Canvas ac nid ydyn yn cyfrif tuag at gwotâu ffeiliau cyrsiau. Dysgwch fwy am gopïo cyrsiau Canvas ac eitemau cwrs.
  • Os byddwch chi’n mewngludo cynnwys LTI o gwrs, efallai y bydd angen i’r adnodd allanol gael ei ailffurfweddu yn y cwrs sy’n derbyn y cynnwys fel bod y cynnwys hwnnw’n hygyrch.

Pryd Fyddwn i'n Defnyddio’r Adnodd Mewngludo Cwrs?

Pryd Fyddwn i'n Defnyddio’r Adnodd Mewngludo Cwrs?

Gellir cael gafael ar yr Adnodd Mewngludo Cwrs o far ochr Gosodiadau Cwrs a gellir ei ddefnyddio i wneud y canlynol:

Copïo cynnwys cwrs o dymor i dymor, gan gynnwys Cyhoeddiadau a Thrafodaethau. Mae modd addasu'r digwyddiadau a’r dyddiadau erbyn i gydymffurfio â’ch tymor presennol.

Dewiswch gynnwys mudo i ddewis cynnwys penodol rydych chi am ei gopïo. Gallwch ddewis Aseiniadau, Tudalennau a Ffeiliau unigol yn ogystal ag unrhyw beth arall o gyrsiau blaenorol rydych chi neu eich cyd-weithwyr wedi’i addysgu. Mae modd defnyddio bysellau i grwydro'r Adnodd Mewngludo Cwrs wrth ddewis cynnwys i'w fewngludo.

Mewngludo deunyddiau cwrs o Systemau Rheoli Cyrsiau gwahanol. Nid yw'r Adnodd Mewngludo Cyrsiau yn mewngludo cynnwys defnyddiwr.

Nodyn: Gall mewngludo cwrs fwy nag unwaith arwain at ganlyniadau anfwriadol. Os byddwch chi’n mewngludo cynnwys i gwrs newydd, yn golygu’r cynnwys yn y cwrs newydd, ac yna’n mewngludo'r cynnwys blaenorol eto, bydd y cynnwys sydd wedi'i fewngludo yn diystyru'r cynnwys presennol.

Dewis Ffynhonnell Mewngludo

Dewis Ffynhonnell Mewngludo

Dyma'r opsiynau mewngludo cynnwys y mae modd eu defnyddio yn yr Adnodd Mewngludo Cynnwys ar hyn o bryd:

  • Mewngludo'r holl gynnwys neu ddewis cynnwys penodol i’w gopïo o gwrs arall yn Canvas.
  • Mewngludo Pecyn Allgludo Cwrs Canvas (cyrsiau a gafodd eu hallgludo o Canvas yn flaenorol)
  • Mewngludo ffeil ZIP sy'n cynnwys aseiniadau, ffeiliau, cynnwys cwrs ac ati i ffolder sy'n bodoli eisoes
  • Mewngludo fformat allgludo ZIP Angel
  • Allgludo ffeil allgludo XIP 6/7/8/9 Blackboard
  • Mewngludo Cwrs CT6+ Gwe, Blackboard Vista/CE
  • Mewngludo Common Cartridge - pecyn 1.0/1.1/1.2
  • Mewngludo fformat ZIP allgludo Desire2Learn (D2L)
  • Mewngludo ffeil ZIP 1.9/2.x Moodle
  • Mewngludo ffeil ZIP QTI

Mewngludo Cynnwys

Mewngludo Cynnwys

Wrth fewngludo cynnwys, mae’r adnodd yn caniatáu i chi fewngludo’r holl gynnwys neu ddewis cynnwys penodol. Mae’r adnodd hwn yn ddefnyddiol ar gyfer sefydliadau neu addysgwyr sydd am gopïo elfennau penodol o gwrs yn unig, fel aseiniadau neu fodiwlau.

Mae’r ymddygiadau canlynol ar hyn o bryd yn berthnasol i gopïau neu brosesau mewngludo Canvas:

  • Caiff gosodiadau Cyflwr drafft eu cadw ym mhrosesau mewngludo y cwrs. Os nad yw aseiniad wedi’i gyhoeddi mewn cwrs pan fydd yn cael ei gopïo neu ei allgludo, bydd yr aseiniad yn aros heb ei gyhoeddi wrth fewngludo'r cynnwys.
  • Dydy eitemau amodol MasteryPaths ddim yn cael eu cadw yn ffeiliau mewngludo cwrs, a rhaid i lwybrau gael eu hail-greu ar ôl gorffen mewngludo.
  • Wrth gopïo cynnwys, bydd unrhyw ddolenni neu ffeiliau sy'n gysylltiedig â'r cynnwys yn cael eu cadw, fel rhai sydd mewn aseiniad.
  • Pan fyddwch chi’n dewis aseiniadau yn unig, bydd Canvas yn mewngludo pob eitem asesu ar y dudalen Aseiniadau (gan gynnwys unrhyw gwisiau neu drafodaethau cysylltiedig). Bydd aseiniadau yn aros yn eu grwpiau aseiniadau os bydd grŵp aseiniadau cyfan neu bob aseiniad yn cael eu mewngludo.
  • Mae cynnwys SCORM yn cael ei gynnwys mewn copïau o gyrsiau. Ni ddylid copïo cynnwys SCORM mewn cyfrifon ar wahân i gyfrifon sy'n defnyddio'r un ffurfweddiad cyfrinachol ac allwedd.
  • Pan fyddwch chi’n copïo cwrs eich hun, bydd y defnyddiwr sy'n copïo'r cwrs yn cael ei ychwanegu’n awtomatig at y cwrs gyda rôl addysgwr.
  • Wrth ddewis cynnwys penodol a mewngludo dim ond Cwis Newydd gyda chwestiynau ysgogi, nid yw’r delweddau sy’n gysylltiedig â’r cwestiwn ysgogi’n cael eu mewngludo’n awtomatig ac mae angen eu dewis i’w mewngludo ar yr un pryd.

Cyfyngiadau Mewngludo

Mae’r ymddygiadau canlynol hefyd yn berthnasol i gopïau neu brosesau mewngludo Canvas:

  • Nid yw setiau grwpiau yn cael eu copïo fel rhan o’r broses mewngludo. Bydd unrhyw setiau grwpiau sy'n bodoli yn y cwrs newydd yn cael eu cysylltu â’r set grwpiau sydd â'r un enw. Fodd bynnag, os nad oes setiau grwpiau sydd â'r un enw cwrs, bydd yr aseiniad yn cael ei gysylltu â set Grwpiau Prosiect newydd.
  • Pan fyddwch chi’n dewis aseiniadau unigol, caiff aseiniadau eu gosod mewn grŵp aseiniadau o’r enw Aseiniadau wedi’u Mewngludo. Fodd bynnag, mae modd symud aseiniadau i grwpiau aseiniadau eraill os oes angen.
  • Ni fydd data sy'n ymwneud ag ymrestru, sy’n cynnwys defnyddwyr cwrs, cydweithrediadau, cynadleddau, grwpiau ac adrannau, yn ogystal â gosodiadau opsiynau nodwedd, yn cael eu cynnwys wrth fewngludo cynnwys cwrs.
  • Nid yw Cyhoeddiadau a Thrafodaethau yn cadw enw'r defnyddiwr sydd wedi creu cynnwys y cwrs yn wreiddiol. Yn ogystal, dydy myfyrwyr ddim yn derbyn hysbysiadau am gyhoeddiadau os ydy'r cyhoeddiadau wedi'u mewngludo. Ond, mae bathodyn yn nodi cyhoeddiad newydd yn ymddangos ar y Wedd Cardiau ac ar y Dangosfyrddau Gweithgarwch Diweddar.
  • Mae aseiniadau â pholisi postio gradd eich hun ac aseiniadau dienw yn cadw'r polisi postio gradd eich hun a’u gosodiadau dienw fel rhan o’r broses o fewngludo cwrs.
  • Dydy lleoliadau eitemau calendr (e.e. Slotiau oriau swyddfa gyda lleoliad swyddfa penodedig) ddim yn cael eu cynnwys wrth fewngludo cwrs.

Addasu Digwyddiadau a Dyddiadau Erbyn

Addasu Digwyddiadau a Dyddiadau Erbyn

Yn ogystal ag ailgreu strwythur a chynnwys y cwrs, gall yr Adnodd Mewngludo Cynnwys (Course Import Tool) addasu digwyddiadau a dyddiadau erbyn i ystodau o ddyddiadau newydd y tymor newydd.

Gweld Neges Rhybudd Mewngludo Cynnwys

Gweld Neges Rhybudd Mewngludo Cynnwys

Wrth fewngludo cynnwys, mae neges yn ymddangos yn egluro bod mewngludo’r un cynnwys cwrs neu allgludo pecyn mwy nag unwaith yn disodli unrhyw cynnwys syddd eisoes yn bodoli yn y cwrs.

Gweld Prosesau Mewngludo Presennol a Blaenorol

Ar ôl i chi ddechrau mewngludo, mae’r ddewislen Tasgau Presennol yn dangos statws tasg unrhyw brosesau mewngludo sy'n mynd rhagddynt, yn ogystal ag unrhyw hanes mewngludo blaenorol.