Beth yw’r Cyfarwyddiadau Sgorio?
Mae cyfarwyddiadau sgorio yn ffordd o greu meini prawf ar gyfer sgorio aseiniadau, rhai personol neu rhai sy'n seiliedig ar Ddeilliannau.
Mae Cyfarwyddyd Sgorio yn adnodd asesu ar gyfer cyfleu disgwyliadau o ran ansawdd. Fel arfer, mae cyfarwyddiadau sgorio yn cynnwys rhesi a cholofnau. Caiff y rhesi eu defnyddio i ddiffinio'r meini prawf amrywiol a ddefnyddir i asesu aseiniad. Caiff y colofnau eu defnyddio i ddiffinio lefelau perfformiad pob maen prawf.
Mae modd gosod cyfarwyddiadau sgorio fel cyfarwyddiadau sgorio sydd ddim yn cadw sgôr, sy'n caniatau graddio'n seiliedig ar asesiad a graddio'n seiliedig ar ddeilliannau heb bwyntiau.
Gweld fideo am gyfarwyddiadau dysgu lefel y cyfrif neu weld fideo am gyfarwyddiadau dysgu lefel y cwrs.
Cyfarwyddiadau Sgorio Cyfrif
Mae cyfarwyddiadau sgorio lefel cyfrif yn gyfarwyddiadau sgorio sy'n cael eu creu ar lefel y cyfrif neu’r isgyfrif. Mae modd eu defnyddio yn unrhyw gwrs yn y cyfrif hwnnw neu mewn isgyfrif ar gyfer aseiniadau, trafodaethau neu gwisiau. Os caiff cyfarwyddyd sgorio lefel cyfrif ei ddefnyddio mewn mwy nag un lle, ni fydd modd ei olygu, ond bydd modd ei ddefnyddio o hyd.
Mae modd defnyddio cyfarwyddiadau sgorio lefel cyfrif i greu storfa o gwestiynau mewn sefydliad neu adran. Pwrpas cyfarwyddiadau sgorio lefel cyfrif yw darparu adnoddau ar gyfer athrawon, nid rheoli cynnwys. Er enghraifft, os yw’r adran Saesneg yn cynnig sawl cwrs sy’n dysgu rheolau gramadeg cyffredinol i fyfyrwyr, gallai adran greu cyfarwyddyd sgorio lefel isgyfrif. Yna, gallai addysgwyr weld y cyfarwyddyd sgorio i gynnig yr un safonau gwerthuso i fyfyrwyr mewn gwahanol gyrsiau.
Cyfarwyddiadau Sgorio Cwrs
Mae cyfarwyddiadau sgorio lefel cwrs naill ai’n cael eu creu ar lefel y cwrs neu’n cael eu copïo o lefel y cyfrif neu isgyfrif. Ar ôl i gyfarwyddyd sgorio gael ei ddefnyddio i asesu myfyriwr, ni fydd modd golygu’r cyfarwyddyd sgorio. Fodd bynnag, gellir ail-gopïo cyfarwyddiadau sgorio a’u defnyddio ar gyfer aseiniadau eraill.