Beth yw’r Graddau a’r Llyfr Graddau?
Gall graddau fod yn adnodd cyfathrebu rhwng myfyrwyr ac addysgwyr a gall ganiatáu i addysgwyr gadw golwg ar gynnydd myfyrwyr.
Mae’r Llyfr Graddau’n cadw’r holl wybodaeth am gynnydd y myfyrwyr ar y cwrs, gan fesur graddau llythyren a deilliannau'r cwrs.
Beth yw’r Llyfr Graddau?
Mae'r Llyfr Graddau yn helpu addysgwyr i nodi a dosbarthu graddau i fyfyrwyr. Gall graddau ar gyfer pob aseiniad gael eu cyfrifo fel pwyntiau, canrannau, cyflawn neu anghyflawn, methu neu basio, graddfa GPA a graddau llythyren. Yn ogystal â hyn, mae modd trefnu aseiniadau yn grwpiau ar gyfer eu pwysoli.
Hefyd, gallwch ddefnyddio SpeedGrader i’ch helpu chi i roi graddau.
Caiff colofnau eu creu yn awtomatig yn y Llyfr Graddau pan fyddwch chi’n creu a chyhoeddi aseiniadau, trafodaethau wedi’u graddio ac arolygon a chwisiau wedi’u graddio. Mae colofn hefyd yn cael ei hychwanegu’n awtomatig ar gyfer yr adnodd Presenoldeb (Attendance).
Pryd fyddwn i’n defnyddio’r Llyfr Graddau?
Mae modd defnyddio’r Llyfr Graddau i wneud y canlynol:
- Gweld graddau yn ôl cyfnodau graddio
- Gweld hysbysiadau cyflwyno aseiniadau a manylion aseiniadau
- Trefnu’r llyfr graddau yn ôl dyddiadau erbyn aseiniadau, enwau myfyrwyr, ail ID, cyfanswm sgorau neu sgorau grwpiau (os yw hynny’n berthnasol)
- Creu a gosod hidlyddion llyfr graddau penodol y gellir eu defnyddio unwaith neu eu cadw i’w defnyddio yn y dyfodol.
- Llwytho aseiniadau sydd wedi’u cyflwyno gan y myfyrwyr i lawr er mwyn er graddio neu i edrych arnynt all-lein pan nad oes cysylltiad â'r rhyngrwyd
- Rhoi graddau i fyfyrwyr eich hun
- Cyfrifo'r graddau cyflawn a'r graddau terfynol yn awtomatig
- Rhoi graddau sero ar ôl y dyddiad cau
- Gweld gwybodaeth am raddau ar draws yr holl gyrsiau, a hynny ar yr un pryd
- Rhoi gwybod i'r myfyrwyr pan fydd aseiniad wedi’i raddio
- Gweld hanes Graddio a newid sgorau aseiniadau sydd wedi’u diweddaru yn ôl i sgorau blaenorol (gan gynnwys graddau o fwy nag un cyflwyniad a/neu gwisiau sydd wedi’u hailraddio)
- Llwytho Graddau fel ffeil CSV i fyny neu i lawr
- Cuddio graddau oddi wrth fyfyrwyr nes eu bod wedi’u cyhoeddi
- Creu ystodau graddio a chrymu personol
- Anfon neges at fyfyrwyr sydd heb gyflwyno aseiniad, sydd heb gyflwyno aseiniad eto, sydd heb gael gradd, sydd wedi cael sgôr sy’n uwch na X neu’n llai na Y mewn aseiniad, neu sydd ag aseiniad wedi’i ail-neilltuo.
- Rhoi sylwadau/nodiadau graddio preifat ar gyfer y myfyriwr
- Esgusodi aseiniad, dogfen neu gwis ar gyfer myfyriwr
Sylwch: I weld ffenestr gyda rhestr o fysellau hwylus, pwyswch y bysellau Shift+Marc Cwestiwn ar yr un pryd ar eich bysellfwrdd.
Beth yw’r Llyfr Graddau Meistroli Dysgu?
Mae’r Llyfr Graddau Meistroli Dysgu yn helpu addysgwyr a gweinyddwyr i asesu safonau'r deilliannau a ddefnyddir mewn cyrsiau Canvas yn hytrach na graddau llythyren. Mae’r llyfr graddau hwn yn helpu sefydliadau i fesur yr hyn mae'r myfyrwyr yn ei ddysgu er mwyn achredu ac asesu anghenion eu myfyrwyr yn well.
Pryd fyddwn i’n defnyddio’r Llyfr Graddau Meistroli Dysgu?
Mae modd defnyddio’r Llyfr Graddau Meistroli Dysgu i wneud y canlynol:
- Mesur cynnydd myfyrwyr a’r hyn maent yn ei ddysgu
- Gweld sgorau myfyrwyr yn seiliedig ar ddeilliannau a safonau dysgu
- Hidlo myfyrwyr ar sail lefel meistroli dysgu
- Gweld ystadegau'r cwrs
- Asesu cwricwlwm cyrsiau a dulliau dysgu