Beth yw'r Adnodd Cofrestr Presenoldeb?

Mae’r adnodd Presenoldeb (y Gofrestr) yn ap allanol (LTI) a ddefnyddir ar gyfer cofnodi presenoldeb mewn cyrsiau Canvas. Mae modd defnyddio’r adnodd Presenoldeb ar gyfer cyrsiau ar-lein neu gyrsiau wyneb yn wyneb. Caiff yr adnodd Cofrestr Presenoldeb ei alluogi ar lefel y cyfrif a chaiff ei ddefnyddio gan yr holl gyrsiau yn y cyfrif Canvas.

Mae’r adnodd Presenoldeb bob amser yn ymddangos fel dolen weladwy yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs. Fodd bynnag, nid oes modd i fyfyrwyr weld y ddolen felly nid oes angen eu chuddio yng Ngosodiadau'r Cwrs. Os nad yw addysgwyr am ddefnyddio’r adnodd Presenoldeb yn eu cyrsiau, nid oes angen gweithredu. Fodd bynnag, os ydych chi’n defnyddio’r adnodd Presenoldeb, gall myfyrwyr weld eu hadroddiad presenoldeb drwy dudalen manylion cyflwyno’r Gofrestr Presenoldeb.

Nodyn: Rhaid i’r adnodd Presenoldeb gael ei alluogi ar gyfer eich sefydliad cyn y bydd modd ei ddefnyddio mewn cyrsiau Canvas. Os ydych chi’n weinyddwr, cysylltwch â'ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid i gael cymorth.

Gweld Presenoldeb

Gweld Presenoldeb

O ran yr adnodd Presenoldeb (), gall addysgwyr gadw golwg ar bresenoldeb yn y cwrs drwy wneud y gofrestr yn electronig. Gall addysgwyr ddewis gweld yr adnodd mewn fformat grid neu restr a gallant addasu lleoliad pob myfyriwr yn y siart seddau.

Gweld Aseiniad Presenoldeb

Gweld Aseiniad Presenoldeb

Pan fyddwch chi’n cofnodi presenoldeb gan ddefnyddio’r Gofrestr (Roll Call), mae Canvas yn ychwanegu Presenoldeb fel aseiniad yn awtomatig. Y gwerth pwynt diofyn ar gyfer presenoldeb yw 100 pwynt.

I osgoi gwallau wrth gyfrifo Presenoldeb, peidiwch â dileu, ailenwi na dad-gyhoeddi'r aseiniad Presenoldeb.

Nodyn: Er na all myfyrwyr weld yr adnodd presenoldeb ei hun, gallant weld yr aseiniad presenoldeb ar y dudalen Aseiniadau (Assignments). Nid oes modd cuddio’r aseiniad hwn oddi wrth y myfyrwyr.

Cofnodi Presenoldeb

Cofnodi Presenoldeb

Mae’r statws sydd wedi’i osod ar gyfer pob myfyriwr yn gysylltiedig â gwerth canran. Gellir dewis statws o’r canlynol: presennol, ar amser, ddim yn bresennol, hwyr neu heb farc (absenoldeb wedi ei esgusodi).

Mae'r adnodd Presenoldeb hefyd yn creu aseiniad yn y Llyfr Graddau ac yn cyfrifo presenoldeb fel canran o radd myfyriwr.

Gweld Gwerth Bod yn Hwyr

Addasu Gwerth Bod yn Hwyr

Yn ddiofyn, mae gwerth bod yn hwyr yn 80% o werth bod yn bresennol. Felly, os yw myfyriwr yn hwyr, bydd yn cael 80% ar gyfer y diwrnod yn hytrach na 100%. Mae modd addasu gwerth bod yn hwyr yng ngosodiadau'r Gofrestr.

Gweld Sgorau Llyfr Graddau

Colofn y Gofrestr Presenoldeb yn y Llyfr Graddau

Yn y golofn Presenoldeb yn y Llyfr Graddau, mae Canvas yn dangos yr aseiniad ar sail canran y gwerth pwynt. Er enghraifft, os yw’r gwerth pwynt yn 100, a bod y gofrestr wedi’i gwneud ddwywaith, bydd myfyriwr sydd ag un gwerth presennol (100%) ac un gwerth hwyr (wedi’i gyfrifo yn 80%) yn cael sgôr o 90 pwynt, neu 90%. 

Bydd y golofn Presenoldeb yn y Llyfr Graddau yn diweddaru bob tro y byddwch chi’n gwneud y gofrestr yn yr adnodd Presenoldeb. 

Nodyn: Er na all myfyrwyr weld yr adnodd presenoldeb ei hun, os ydych chi’n defnyddio presenoldeb ar gyfer graddio, os ydych chi’n defnyddio sgôr presenoldeb ar gyfer graddio, gallant weld eu sgôr presenoldeb yn eu tudalen Graddau a gallant weld eu hadroddiad presenoldeb hefyd. Gallwch chi atal yr aseiniad rhag sbarduno hysbysiadau trwy osod polisi postio eich hun ar gyfer yr aseiniad.

Allgludo Data Presenoldeb

Ar lefel y cyfrif ac ar lefel y cwrs, mae’r adnodd Presenoldeb yn caniatáu i ddefnyddwyr greu adroddiadau presenoldeb.

Nodyn: Gall gweinyddwyr hidlo adroddiadau yn ôl ID Cwrs SIS hefyd.

Creu a Rheoli Bathodynnau

Bathodynnau Cyfrif Rheolwr

Ar lefel y cyfrif, gall gweinyddwyr greu a rheoli bathodynnau a ddefnyddir yn yr Adnodd Presenoldeb.

Gweld Bathodynnau

Ar lefel y cwrs, bydd unrhyw fathodynnau sydd wedi’u hychwanegu gan weinyddwr Canvas yn ymddangos yn awtomatig ar gyfer y cwrs. Fodd bynnag, gall gweinyddwyr hefyd greu bathodynnau ychwanegol ar gyfer eu cwrs yn ôl yr angen.