Beth yw Gosodiadau Proffil a Gosodiadau Defnyddiwr?
Mae Gosodiadau Proffil a Gosodiadau Defnyddiwr yn gadael i chi reoli eich gwybodaeth bersonol yn Canvas.
Os ydych chi am wylio fideo am osodiadau personol, gallwch wylio’r fideo Gosodiadau Defnyddiwr a Llun Proffil.
Nodyn: Gall eich sefydliad atal un fwy o opsiynau gosodiadau.
Pryd fyddwn i’n defnyddio fy ngosodiadau defnyddiwr a fy ngosodiadau proffil?
Gallwch ddefnyddio eich gosodiadau proffil a’ch gosodiadau defnyddiwr i wneud y canlynol:
- Gweld a golygu eich gosodiadau defnyddiwr, fel enw arddangos, dewis iaith a pharth amser
- Newid eich cyfeiriad e-bost diofyn neu ychwanegu cyfeiriad e-bost ychwanegol i gael hysbysiadau
- Gweld neu ychwanegu llun proffil
- Gosod Hysbysiadau ar gyfer eich hoff sianeli cyfathrebu
- Llwytho Ffeiliau personol i fyny
- Creu a rheoli e-Bortffolios o’ch gwaith cwrs
- Rheoli nodweddion defnyddiwr newydd
- Llwytho aseiniadau a gyflwynwyd gennych i lawr o gyrsiau presennol a blaenorol
Gall eich sefydliad ddewis galluogi Proffiliau.
Os yw eich sefydliad wedi galluogi’r nodwedd Proffiliau, gallwch wneud y canlynol o'r dudalen Manylion Defnyddiwr (User Details):
- Ychwanegu gwybodaeth at y proffil, fel bywgraffiad a dolenni personol
- Gweld manylion proffil ar gyfer defnyddwyr eraill
- Gweld eich Ymrestriadau
- Gweld Ymrestriadau rydych chi’n eu rhannu â defnyddwyr eraill
Os yw eich sefydliad wedi analluogi’r nodwedd Proffiliau, gallwch wneud y canlynol o'r dudalen Manylion Defnyddiwr (User Details):
- Defnyddio’r botwm Anfon Neges (Send Message) i anfon neges at ddefnyddiwr yn Canvas
- Gweld unrhyw Negeseuon Diweddar rydych chi wedi’u postio mewn trafodaethau
- Gweld Manylion Defnyddiwr ar gyfer defnyddwyr eraill, fel enw, cyfeiriad e-bost a pharth amser (dim ond ar gael i Addysgwyr (Instructor) a Gweinyddwyr (Admin))
- Gweld yr adran Negeseuon Diweddar (Recent Messages), sy’n dangos negeseuon diweddar mewn trafodaethau sydd wedi’u hysgrifennu gan y defnyddiwr (dim ond ar gael ar gyfer Addysgwyr (Instructor) a Gweinyddwy r(Admin))