Sut ydw i’n clirio storfa fy mhorwr ar gyfrifiadur?

Mae storfa mewn porwr yn copïo'r holl dudalennau gwe y byddwch chi’n edrych arnynt, sy'n caniatáu i’r tudalennau lwytho yn gyflymach. Mae clirio’r storfa yn helpu i ddiweddaru’r tudalennau â’r wybodaeth gywir.

Internet Explorer

I ddysgu mwy am glirio eich storfa, ewch i Microsoft Support.

  1. Ym mar dewislenni Internet Explorer, cliciwch yr eicon Adnoddau.
  2. Dewiswch y ddolen Opsiynau Rhyngrwyd.
  3. Yn y tab Cyffredinol (General), o dan y pennawd hanes Pori, cliciwch y botwm Dileu (Delete).
  4. Ticiwch y blwch ffeiliau gwefannau a ffeiliau Rhyngrwyd Dros Dro (Temporary Internet files and website files) a'r blwch Cwcis a data gwefannau (Cookies and website data). Dad-diciwch y blwch Cadw data ar hoff wefannau (Preserve Favorites website data).
  5. Cliciwch y botwm Dileu (Delete).

Edge

I ddysgu mwy am glirio eich storfa yn Edge, ewch i Microsoft Support.

  1. Ym mar dewislenni Edge, cliciwch yr eicon Hyb.
  2. I weld eich hanes pori, cliciwch yr eicon Hanes.
  3. Cliciwch y ddolen Clirio’r hanes i gyd (Clear all history).
  4. Dewiswch y mathau o ddata neu ffeiliau rydych chi am eu tynnu. Ticiwch y blwch Cwcis a data ar wefannau wedi eu cadw (Cookies and saved website data) a’r blwch ffeiliau a data wedi ei storio (Cached data and files).
  5. Cliciwch y botwm Clirio (Clear).

Chrome

I ddysgu mwy am glirio eich storfa yn Chrome, ewch i Google Support.

  1. Ym mar offer y porwr Chrome, cliciwch yr eicon dewislen Chrome.
  2. Cliciwch y ddolen Mwy o Adnoddau (More Tools).
  3. Cliciwch y ddolen Clirio data pori (Clear browsing data).
  4. Defnyddiwch y gwymplen i ddewis yr ystod amser yr hoffech chi glirio data pori ohono.
  5. Gallwch glirio eich data pori drwy ddewis blychau ticio. Ticiwch y blwch Cwcis a data arall ar y safle (Cookies and other site data) a'r blwch ffeiliau a delweddau wedi eu storio (Cached images and files).
  6. Cliciwch y botwm Clirio Data Pori (Clear Browsing Data).

Firefox

I ddysgu mwy am glirio eich storfa yn Firefox, ewch i Firefox Support.

  1. Ym mar dewislenni Firefox, cliciwch yr opsiwn Firefox.
  2. Dewiswch y ddolen Dewisiadau (Preferences).
  3. Cliciwch y tab Preifatrwydd (Privacy).
  4. O dan y pennawd Hanes (History), cliciwch y ddolen clirio eich hanes diweddar (clear your recent history).
  5. Ticiwch y blwch Storfa (Cache).
  6. Cliciwch y botwm Clirio Nawr (Clear Now).