Sut alla i ddefnyddio Canvas ar fy nyfais symudol fel myfyriwr?

Mae Canvas yn gweithredu yn unol â safonau open web, felly mae’r rhan fwyaf o nodweddion yn gallu cael eu defnyddio ar ddyfeisiau symudol. Wrth i ddyfeisiau symudol gael eu defnyddio fwy a mwy, fe ddylai myfyrwyr lunio eu cyrsiau gan ystyried yr arferion gorau ar gyfer dyfeisiau symudol.

Porwyr Symudol

Gallwch gael mynediad at Canvas o unrhyw borwr ar eich dyfais Android/iOS. Fodd bynnag, does dim modd delio â phorwyr symudol, ac efallai na fydd nodweddion yn gweithio yn ôl y disgwyl wrth gymharu â defnyddio Canvas mewn porwr bwrdd gwaith cwbl gydnaws.

Ar ddyfeisiau symudol, mae Canvas wedi'i ddylunio i gael ei ddefnyddio yn apiau symudol Canvas. Dim ond pan fydd gweithred yn yr ap yn cysylltu’n uniongyrchol â’r porwr, fel pan fydd myfyrwyr yn gwneud rhai mathau penodol o gwisiau, y bydd modd defnyddio tudalennau Canvas mewn porwr symudol. Os nad oes modd defnyddio tudalennau yn yr ap ar hyn o bryd, fel Cynadleddau a Chydweithrediadau, does dim modd eu defnyddio yn y porwr chwaith.

Hefyd, dim ond rhywfaint o gymorth y mae Canvas yn ei gynnig ar gyfer porwyr symudol cynhenid ar ddyfeisiau tabled. I gael y manylion, darllenwch y canllawiau cymorth cyfyngedig ar gyfer porwyr symudol.

Apiau Symudol

Rydyn ni wrthi’n gwella ein hapiau symudol cynhenid er mwyn gallu defnyddio cymaint o nodweddion Canvas â phosib. Mae gan Instructure ap symudol cynhenid ar gyfer myfyrwyr y gellir eu llwytho i lawr yn rhad ac am ddim ar ffonau a dyfeisiau tabled.

  • Myfyriwr Canvas: Mae’r ap hwn yn rhoi mynediad at Canvas i chi yn unrhyw le, unrhyw bryd. Yn ddibynnol ar eich dyfais, efallai nad yw pob un o nodweddion Canvas ar gael yn yr ap ar hyn o bryd. Gallwch weld nodweddion symudol Canvas Student yn ôl fersiwn a dyfais.