Sut ydw i’n ateb pob math o gwestiynau mewn cwis?
Gall addysgwyr ddewis o amrywiaeth o fathau o gwestiynau i’w hychwanegu at gwis.
Nodyn: Efallai fod eich addysgwr yn defnyddio adnodd cwisiau wedi’i uwchraddio o’r enw New Quizzes yn eich cwrs. Os ydy’r cwis rydych chi’n edrych arno yn edrych yn wahanol, mae’n bosib bod eich addysgwr wedi defnyddio New Quizzes i greu’r cwis. Gall swyddogaethau'r mathau gwahanol o gwisiau amrywio. Am gymorth gydag ateb cwestiynau cwis, darllenwch Sut ydw i'n ateb pob math o gwestiwn yn New Quizzes?
Cwestiwn traethawd
I ateb cwestiwn traethawd, cliciwch y blwch testun a theipio’ch cynnwys yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [1]. Gallwch ddefnyddio'r golygydd i fformatio’ch cynnwys. Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog (Rich Content Editor) yn cynnwys cyfrif geiriau hefyd o dan gornel dde isaf y blwch testun
Nodyn: Mae modd defnyddio cwestiynau traethawd hefyd ar gyfer cwestiynau mathemategol sy’n gofyn am y golygydd hafaliad LaTex. I fewnosod hafaliad mathemategol, cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [2] a chlicio’r eicon Hafaliad (Equasion) [3].
Cwestiwn Llwytho Ffeil i Fyny
I ateb cwestiwn llwytho ffeil i fyny, cliciwch y botwm Dewis Ffeil (Choose a File). Bydd Canvas yn agor blwch deialog ffeil, lle gallwch chi ddod o hyd i’r ffeil ar eich cyfrifiadur. Dewiswch y ffeil ac fe gaiff ei llwytho i fyny fel eich ateb. Bydd Canvas yn cadarnhau bod eich ffeil wedi cael ei llwytho i fyny [2]. Gallwch chi dynnu eich ffeil hefyd drwy glicio’r eicon tynnu [3] a chyflwyno ffeil newydd.
Cwestiwn llenwi’r bwlch
I ateb cwestiwn llenwi’r bwlch, cliciwch y blwch testun a theipio’ch ateb.
Cwestiwn llenwi mwy nag un blwch
I ateb cwestiwn llenwi mwy nag un blwch, cliciwch y blwch testun cyntaf [1] a theipio’ch ateb cyntaf. Cliciwch yr ail flwch testun [2] a theipio’ch ail ateb. Daliwch ati gyda hyn nes i chi ateb y cwestiwn.
Cwestiwn fformiwla
I ateb cwestiwn fformiwla, cliciwch y blwch testun a theipio’ch ateb.
Cwestiwn paru
I ateb cwestiwn paru, cliciwch y gwymplen [1] a dewis eich ateb [2]. Daliwch ati nes i chi baru pob opsiwn.
Cwestiwn sydd â dewis o atebion
I ateb cwestiwn sydd â dewis o atebion, cliciwch y blychau ticio [1] sydd wrth ymyl yr atebion perthnasol [2].
Cwestiwn sydd â dewis o atebion
I ateb cwestiwn sydd â dewis o atebion, cliciwch y botwm radio sydd wrth ymyl yr ateb.
Cwestiwn sydd â mwy nag un gwymplen
I ateb cwestiwn sydd â mwy nag un gwymplen, cliciwch y gwymplen a dewis eich ateb. Daliwch ati nes i chi ateb pob rhan o’r cwestiwn.
Cwestiwn sydd â rhif yn ateb
I ateb cwestiwn sydd â rhif yn ateb, cliciwch y blwch testun a theipio’ch ateb.
Cwestiwn Gwir/Ffug
I ateb cwestiwn gwir/ffug, cliciwch y botwm radio sydd wrth ymyl yr ateb.