Sut ydw i’n gwybod os oes gen i aseiniad adolygiad gan gyd-fyfyrwyr i’w gwblhau?

Gall eich addysgwr eich neilltuo i adolygu aseiniad myfyriwr arall. Gallwch chi weld hysbysiadau adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr yn Canvas yn y Ffrwd Gweithgarwch Diweddar, y rhestr Tasgau i’w Gwneud, ac o’r dudalen aseiniad unigol. Ar ôl i adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr gael eu neilltuo, byddwch chi’n cael gwybod drwy e-bost.

Gweld Dangosfwrdd

Ar ôl i adolygiad gan Gyd-fyfyrwyr gael ei neilltuo i chi, bydd hysbysiad yn ymddangos mewn sawl rhan o’r dangosfwrdd.

Gweld Gweithgarwch Diweddar

Ar eich Dangosfwrdd, gallwch chi weld gweithgarwch diweddar yn eich ffrwd Gweithgarwch Cyffredinol. Bydd gweithgarwch diweddar yn dangos adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr ac enw’r cwrs. Cliciwch y ddolen Dangos Mwy (Show More) i gael gafael ar yr aseiniad a gweld enw’r myfyriwr adolygiad gan gyd-fyfyrwyr.

Os yw adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr yn ddienw, bydd yr enw’n ymddangos fel Defnyddiwr Dienw.

Gweld Rhestr Tasgau i’w Gwneud

Gweld Rhestr Tasgau i’w Gwneud

Ar y Dangosfwrdd a’r bar ochr Tudalen Hafan y Cwrs, mae’r rhestr Tasgau i’w Gwneud yn dangos yr aseiniad adolygiad gan gyd-fyfyrwyr. Mae gan adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr eicon Adolygiad gan Gyd-fyfyrwyr. I weld yr aseiniad i’w adolygu, cliciwch y ddolen Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr ar gyfer [Enw’r Aseiniad] (Peer Review for [Assignment Name]).

Nodyn: Ar hyn o bryd nid yw’r Dyddiad Erbyn yn y Rhestr Tasgau i’w Gwneud yn dangos yn gywir y dyddiad erbyn ar gyfer cwblhau eich adolygiad gan gyd-fyfyrwyr. Os nad oes manylion am eich adolygiad gan gyd-fyfyrwyr eisoes wedi’u cynnwys ym manylion eich aseiniad, cysylltwch â’ch addysgwr.

Agor Aseiniadau

Agor Aseiniadau

Gallwch chi hefyd weld adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr wrth weld aseiniadau. Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).

Nodyn: Gallwch chi hefyd gael mynediad at eich Aseiniadau drwy eich Dangosfwrdd, Ffrwd Gweithgarwch Cwrs, y Maes Llafur, Llyfr Graddau, Calendr, neu Fodiwlau.

Agor Aseiniad

Agor Aseiniad

Dydy’r dudalen aseiniadau ddim yn dangos eicon os oes gennych chi adolygiad gan gyd-fyfyrwyr. Os ydych chi’n gwybod enw’r aseiniad adolygiad gan gyd-fyfyrwyr, cliciwch y teitl i agor yr aseiniad.

Gweld Adolygiad gan Gyd-fyfyrwyr wedi’u Neilltuo

Gweld Adolygiad gan Gyd-fyfyrwyr wedi’u Neilltuo

Yn y bar ochr o dan Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr wedi’u Neilltuo, byddwch chi’n gweld unrhyw adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr sydd wedi’u neilltuo i chi. Mae'r eicon arwydd rhybudd [1] yn dangos bod yr adolygiad gan gyd-fyfyrwyr heb ei gwblhau. Bydd eicon tic [2] yn dangos eich bod wedi cwblhau'r adolygiad gan gyd-fyfyrwyr.

Os yw eich adolygiad yn ddienw, does dim modd i chi weld enw'r myfyriwr. Bydd yr adolygiad gan Gyd-fyfyrwyr yn cael ei ddangos os Defnyddiwr Dienw.

Nodiadau:

  • Os yw eich addysgwr wedi cynnwys cyfarwyddyd sgorio, sef amlinelliad parod o sut mae’r aseiniad yn cael ei raddio, rhaid i chi neilltuo gradd yn defnyddio’r cyfarwyddyd sgorio. Ond, mae’n bosib y bydd eich addysgwr yn gofyn i chi adael sylwadau yn y bar och sylwadau.
  • Os yw eich addysgwr wedi neilltuo aseiniad Dim Cyflwyniad neu Ar Bapur, ni fydd yr adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr sydd wedi’i neilltuo yn cael ei ddangos ar y dudalen hon. Ond, gallwch chi ei weld o’r Dangosfwrdd.