Sut ydw i’n defnyddio’r Ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan fel myfyriwr?

Mae'r Ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan i'w gweld ar ochr chwith pob tudalen yn Canvas. Mae’r dolenni Crwydro’r Safle Cyfan yn rhoi mynediad cyflym at nodweddion Canvas a ddefnyddir yn aml. Mae’r dolenni hyn yn rhoi mynediad at eich holl gyrsiau gyda’i gilydd. Mae'r dolenni diofyn yn cynnwys y Dangosfwrdd, Cyrsiau, Grwpiau, Calendr, Blwch Derbyn, Cyfrif Defnyddiwr a’r ddewislen Help.

Yn ddibynnol ar osodiadau cyfrif eich sefydliad, efallai y bydd dolenni eraill yn ymddangos yn y Ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan.  

Note: Efallai y bydd eich addysgwr yn penderfynu defnyddio ffont wahanol ar gyfer un neu ragor o’ch cyrsiau. Wrth edrych ar y cyrsiau hynny, bydd y Ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan yn dangos yr un ffont.

Gweld Cyfrif

Gweld Cyfrif

I weld eich gwybodaeth defnyddiwr, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account). Bydd dewislen yn ehangu ac yn dangos dolenni i gael mynediad at eich gosodiadau defnyddiwr, eich gosodiadau ar gyfer hysbysiadau, eich ffeiliau personol, a’ch e-Bortffolios (os ydyn nhw wedi’u galluogi). Os yw eich sefydliad wedi galluogi Proffiliau, gallwch gael mynediad at eich proffil.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r ddolen Cyfrif i allgofnodi o Canvas.

Gweld Dangosfwrdd

Y Dangosfwrdd yw’r dudalen lanio ar ôl i chi fewngofnodi i Canvas. Mae modd toglo’r Dangosfwrdd i wedd cwrs, gwedd rhestr, neu wedd gweithgarwch diweddar, ac mae'n dangos hysbysiadau ar gyfer holl gyrsiau presennol Canvas.

Gweld Cyrsiau

Gweld Cyrsiau

I weld eich cyrsiau, cliciwch y ddolen Cyrsiau [1]. Mae’r ddewislen Cyrsiau yn dangos rhestr o’ch hoff gyrsiau, neu, os nad ydych chi wedi dewis hoff gyrsiau, bydd y ddewislen yn dangos y cyrsiau rydych chi wedi ymrestru arnynt ar hyn o bryd. Os bydd cwrs yn cynnwys dyddiadau tymhorau, bydd enw'r tymor yn ymddangos gyda’r cwrs.

I weld cwrs, cliciwch enw’r cwrs [2]. I addasu eich rhestr cyrsiau neu i weld eich holl gyrsiau Canvas, cliciwch y ddolen Pob Cwrs [3].  

Gweld Grwpiau

Gweld Grwpiau

Os ydych chi wedi ymrestru mewn Grwpiau, gallwch weld eich grwpiau drwy ddefnyddio’r ddolen Grwpiau [1]. Bydd dewislen yn ehangu ac yn dangos yr holl grwpiau mewn cyrsiau rydych chi wedi ymrestru ar eu cyfer ar hyn o bryd.

I weld grŵp, cliciwch enw’r grŵp [2]. I weld eich holl grwpiau, cliciwch y ddolen Pob Grŵp [3].

Note: Does dim modd addasu'r grwpiau yn y gwymplen.

Gweld Calendr

I weld eich Calendr, cliciwch y ddolen Calendr (Calendar).

Gweld Blwch Derbyn

I weld eich Blwch Derbyn ar gyfer yr adran Sgyrsiau, cliciwch y ddolen Blwch Derbyn (Inbox). Sgyrsiau yw system negeseuon Canvas lle gallwch gyfathrebu â defnyddwyr eraill ar eich cyrsiau. Caiff nifer y negeseuon newydd ei ddangos fel rhan o eicon y Blwch Derbyn.

Gweld Hanes

Gweld Hanes

I weld hanes eich ymweliadau â thudalenau cwrs Canvas yn ddiweddar, cliciwch y ddolen Hanes (History). Mae Hanes Diweddar yn dangos hyd at dair wythnos o’ch ymweliadau â thudalennau cwrs Canvas.

Gweld Help

Gweld Help

I gael help gyda Canvas, cliciwch y ddolen Help. Dewiswch yr opsiwn help sy’n berthnasol i’ch anghenion chi.

Note: Yn ddibynnol ar osodiadau eich sefydliad, gall y ddewislen Help ddangos gwahanol opsiynau.

Crebachu’r Ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan

Crebachu’r Ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan

I ehangu neu grebachu’r ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch yr eicon saeth.

Bydd y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan yn cael ei chrebachu’n awtomatig ar gyfer sgriniau dyfeisiau tabled.