Sut ydw i’n defnyddio’r Dangosfwrdd fel myfyriwr?

Y Dangosfwrdd yw'r peth cyntaf y byddwch yn ei weld pan fyddwch chi’n mewngofnodi i Canvas. Mae’r Dangosfwrdd yn eich helpu i weld beth sy'n digwydd yn eich holl gyrsiau presennol.

Gallwch ddychwelyd i’ch Dangosfwrdd Defnyddiwr ar unrhyw adeg drwy glicio'r ddolen Dangosfwrdd yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan.

Agor Dangosfwrdd

Agor Dangosfwrdd

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Dangosfwrdd (Dashboard).

Gweld Dangosfwrdd

Y Dangosfwrdd yw eich tudalen lanio yn Canvas. Yn dibynnu ar eich sefydliad, yn ddiofyn bydd gan eich Dangosfwrdd un o dair gwedd: Gwedd Cardiau, Gwedd Rhestr, neu Wedd Gweithgarwch Diweddar.

  • Gwedd Cardiau: yn dangos cardiau cwrs er mwyn cael mynediad cyflym at eich hoff gyrsiau (mae’r un cyrsiau i’w gweld yn y ddolen Cyrsiau yn y Ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan)
  • Gwedd Rhestr: yn dangos yr holl eitemau i’w gwneud ar y cwrs mewn gwedd agenda.
  • Gwedd Gweithgarwch Diweddar: yn dangos yr holl weithgarwch diweddar ar gyfer pob cwrs.

Gweld Cyhoeddiad Cyffredinol

Gweld Cyhoeddiad Cyffredinol

Efallai y bydd y Dangosfwrdd hefyd yn cynnwys cyhoeddiadau cyffredinol, sef cyhoeddiadau sy’n cael eu creu gan eich sefydliad. I dynnu’r cyhoeddiad o’ch dangosfwrdd, cliciwch yr eicon Tynnu.

Gweld Cyhoeddiad wedi’i Ddiystyru

Gweld Cyhoeddiad wedi’i Ddiystyru

Os byddwch chi’n diystyru cyhoeddiad cyffredinol, gallch chi wedi cyhoeddiadau wedi’u diystyru ar y dudalen Cyhoeddiadau Cyffredinol.

Newid Gwedd y Dangosfwrdd

Newid Gwedd y Dangosfwrdd

I newid gwedd y Dangosfwrdd, cliciwch y ddewislen Opsiynau (Options) a dewis yr opsiwn gweld sydd orau gennych chi.

 

Gweld y Bar Ochr Dangosfwrdd

Pan fo wedi’i osod i Wedd Cardiau neu Wedd Gweithgarwch Diweddar, mae’r Dangosfwrdd hefyd yn cynnwys bar ochr. Mae’r bar ochr yn cynnwys rhestr tasgau i’w gwneud, aseiniadau sydd ar y gweill, dolenni i adborth diweddar, a botymau ar gyfer creu cwrs neu weld graddau. Gallwch ddysgu mwy am ddefnyddio’r bar ochr.