Sut ydw i’n defnyddio’r eiconau a’r lliwiau yn y dudalen Graddau (Grades)?
Mae eiconau amrywiol ar y dudalen Graddau (Grades). Byddwch yn gweld eiconau gwahanol gan ddibynnu ar y math o aseiniad, rheolau graddio, a sylwadau.
Eiconau Math o Gyflwyniad
Mae’r eiconau canlynol yn cynrychioli mathau gwahanol o aseiniadau ar eich tudalen Graddau (Grades):
- Eicon Dogfen (Document Icon) [1]: Ffeil llwytho i fyny wedi’i chyflwyno, heb ei graddio
- Eicon Testun (Text Icon) [2]: Cofnod testun wedi’i gyflwyno, heb ei raddio
- Eicon Cwis Newydd [3]: Cwis Newydd wedi'i gyflwyno, heb ei raddio’n llawn (mae’n cynnwys cwestiynau y mae’n rhaid i rywun fynd ati i’w graddio, neu mae sgôr cwis a gyflwynwyd yn awtomatig wedi cael ei dileu ac mae angen ei hail-neilltuo); gall hefyd ymddangos os yw cwis wedi cael ei olygu a’i fod yn cynnwys newidiadau mawr sy’n cael effaith ar sgôr y cwis, er enghraifft dileu cwestiynau neu ddileu atebion cwis, a bod angen i raddiwr ei wirio ei hun
- Eicon Trafodaeth [4]: Wedi cyflwyno trafodaeth wedi’i graddio, ond heb ei graddio
- Eicon Dolen (Link Icon) [5]: Mae URL wedi’i gyflwyno, heb ei raddio.
- Eicon Gweladwy [6]: Mae’r sgôr wedi’i chuddio wrth i’r addysgwr raddio; fyddwch chi ddim yn gallu gweld eich gradd, sylwadau ar y cyflwyniad, nac atebion cwisiau nes bod yr addysgwr yn postio graddau ar gyfer yr aseiniad.
- Eicon Cwis [7]: Cwis wedi'i gyflwyno, heb ei raddio’n llawn (mae’n cynnwys cwestiynau y mae’n rhaid i rywun fynd ati i’w graddio, neu mae sgôr cwis a gyflwynwyd yn awtomatig wedi cael ei dileu ac mae angen ei hail-neilltuo); gall hefyd ymddangos os yw cwis wedi cael ei olygu a’i fod yn cynnwys newidiadau mawr sy’n cael effaith ar sgôr y cwis, er enghraifft dileu cwestiynau neu ddileu atebion cwis, a bod angen i raddiwr ei wirio ei hun
- Eicon Cyfryngau [8]: Recordiad cyfryngau wedi’i gyflwyno, heb ei raddio
Nodyn: Efallai y bydd rhai aseiniadau adnodd allanol yn dangos dash yn hytrach nag eicon cyflwyniad ar ôl i chi gyflwyno’r aseiniad.
Eiconau Manylion Cyflwyniad
Wrth i’ch addysgwr raddio eich aseiniad, mae’r dudalen graddau yn dangos smotyn glas wrth ymyl yr aseiniad [1]. Mae’r dangosydd yn diflannu pan fyddwch chi’n gadael neu’n adnewyddu’r dudalen.
Mae’n bosib i ddiweddariadau aseiniad gynnwys eiconau ychwanegol hefyd, yn cynrychioli manylion cyflwyniad:
- Eicon Tic a Phlws (Check Plus Icon) [2]: Manylion sgorio
- Eicon Cyfarwyddyd Sgorio (Rubric Icon) [3]: Manylion Cyfarwyddyd Sgorio
- Eicon Trafodaeth (Discussion Icon) [4]: Sylwadau aseiniad
Mathau o Ddull Graddio
Mae pob math o ddull graddio yn ymddangos yn wahanol ar y dudalen Graddau (Grades). Dyma sut mae pob math o raddio yn cael ei gynrychioli:
- GPA [1]: Graddfa GPA
- Llythyren [2]: Gradd llythyren
- Canran [3]: Gradd yn ymddangos fel canran
- Dash [4]: Dim cyflwyniad
- Eicon Tic (Check Icon) [5]: Gradd gyflawn
- Eicon Gwybodaeth am Radd (Grade Info Icon) [6]: Dydy’r pwyntiau a geir ar gyfer yr aseiniad hwn ddim yn cael eu hystyried ar gyfer eich gradd derfynol
- Nifer [7]: Dangosir gradd yn ôl nifer o bwyntiau
- EX [8]: Aseiniad wedi’i esgusodi; does dim modd cyflwyno’r aseiniad hwn ond ni fydd yn rhan o’ch gradd gyffredinol
- Eicon X [9]: Gradd anghyflawn
Nodyn: Efallai y bydd dash yn ymddangos yn y dudalen Graddau ar ôl i chi gyflwyno aseiniad ar gyfer aseiniad adnodd allanol.
Lliwiau
Os yw manylion aseiniad yn ymddangos mewn testun llwyd, yna mae’r aseiniad wedi’i ollwng fel rhan o gyfrifiad grŵp aseiniadau ac ni fydd yn rhan o’ch sgôr gyflawn.
Statws
Mae’r golofn statws yn dangos labeli ar gyfer aseiniadau sy’n hwyr neu ar goll. Os nad yw aseiniad wedi cael ei gyflwyno erbyn y dyddiad erbyn, mae’n cael ei nodi ar goll [1]. Os bydd aseiniad yn cael ei gyflwyno ar ôl y dyddiad erbyn, bydd yn cael ei nodi’n hwyr [2].
Nodyn: Yn dibynnu ar eich sefydliad, efallai y bydd statysau personol yn ymddangos.
Adroddiad ar Wreiddioldeb
Os yw eich addysgwr yn defnyddio adnodd gwreiddioldeb, mae'n bosib y byddwch yn gallu gweld adroddiad ar wreiddioldeb ar gyfer eich cyflwyniad. I weld yr adroddiad ar wreiddioldeb, cliciwch yr eicon Adroddiadau ar Wreiddioldeb [1]. Mae lliw'r eicon yn nodi pa ganran o'r testun oedd yn cyfateb yn ôl yr adnodd gwreiddioldeb. Mae'r eicon amserydd yn nodi bod yr adnodd gwreiddioldeb wrthi'n gwirio eich cyflwyniad [2].