Sut ydw i’n creu hyperddolenni i URL Allanol yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel myfyriwr?

Gan ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gallwch chi greu hyperddolenni i adnoddau allanol. Mae sawl nodwedd yn Canvas yn cefnogi’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gan gynnwys Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau, a Chwisiau.

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog wrth ddefnyddio un o nodweddion Canvas sy’n gallu delio â’r Golygydd.

Nodwch: Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cefnogi bysellau hwylus. I weld y ddewislen Bysellau Hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd neu bwyso ALT+F8 (Bysellfwrdd PC) neu Option+F8 (Bysellfwrdd Mac).

Creu Dolen gan ddefnyddio Bysellau Hwylus

Creu Dolen gan ddefnyddio Bysellau Hwylus

Neu, gallwch chi greu hyperddolenni allanol drwy ddefnyddio bysellau hwylus. Ar ôl ychwanegu cynnwys yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, dewiswch y testun ar gyfer eich hyperddolen

Yna pwyswch Cmd+K (bysellfwrdd Mac) neu Ctrl+K (bysellfwrdd PC).

Cadw Newidiadau

Cadw Newidiadau

Cliciwch y botwm Cadw (Save).

Nodwch: Pan fyddwch yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn y nodwedd Trafodaethau, efallai y bydd y botwm Cadw (Save) yn ymddangos fel botwm Postio Ymateb (Post Reply).

Gweld Cynnwys

Gweld yr hyperddolen yn eich cynnwys.

Nodwch: Mae hyperddolenni allanol yn agor yn awtomatig mewn tab porwr newydd pan fyddwch chi’n clicio arnyn nhw.