Sut ydw i’n gweld fy ngrwpiau Canvas fel myfyriwr?

Gallwch weld y grwpiau presennol lle rydych chi wedi ymrestru gan ddefnyddio'r ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan. Os na fyddwch chi’n gweld unrhyw grwpiau wedi’u rhestru, dydych chi ddim wedi ymuno â grŵp neu dydych chi ddim wedi cael eich ymrestru mewn grŵp gan eich addysgwr. Mae grwpiau blaenorol wedi'u rhestru o dan y pennyn Grwpiau Blaenorol.

Agor Grwpiau

Agor Grwpiau

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Grwpiau (Groups) [1], yna ewch i weld eich grwpiau presennol [2]. I weld eich holl grwpiau, cliciwch y ddolen Pob Grŵp (All Groups) [3].

Gweld Grwpiau

Mae grwpiau yn cael eu trefnu yn ôl Grwpiau Presennol (Current Groups) [1] a Grwpiau Blaenorol (Previous Groups) [2].

Gweld Grwpiau Presennol

Grwpiau Presennol yw grwpiau mewn cyrsiau sy’n rhan o’r semester neu’r tymor presennol. Gallwch weld enw'r grŵp [1] ac enw'r cwrs ar gyfer y grŵp [2]. Os yw cwrs yn cynnwys dyddiad tymor [3], yna mae’r dyddiad tymor yn ymddangos drws nesaf i enw’r cwrs. Yn dibynnu ar osodiadau mynediad cwrs, mae modd i Grwpiau Presennol (Current Groups) hefyd ddangos grwpiau mewn cyrsiau sydd wedi cael eu cyhoeddi ond sydd heb ddechrau eto.

Mae grwpiau sydd ar gael i chi yn dangos testun wedi'i gysylltu [4]. Mae’r grwpiau hyn yn gysylltiedig â chyrsiau presennol. I agor grŵp, cliciwch enw’r grŵp.

Gweld Grwpiau Blaenorol

Mae grwpiau sydd wedi'u rhestru o dan y pennawd Grwpiau Blaenorol yn grwpiau sy’n rhan o gyrsiau sydd wedi dod i ben. Ni all myfyrwyr weld deunydd grŵp na rhyngweithio â'r grŵp ar ôl i'r cwrs ddod i ben.

Nodyn: Efallai na fydd rhai sefydliadau’n gadael grwpiau blaenorol i ymddangos ar y dudalen Cyrsiau (Courses).