Sut ydw i’n rhoi cynnig ar gwis?
Gallwch roi cynnig ar gwis yn hawdd dwy fynd i’r dudalen Cwisiau (Quizzes). Yn dibynnu ar sut mae eich hyfforddwr wedi gosod y cwis, mae’n bosib y bydd cwestiynau’n ymddangos i gyd ar un dudalen neu un ar y tro. Os nad oes modd i chi orffen cwis, mae’n bosib y byddwch chi’n gallu dychwelyd ato rywbryd eto.
Sylwch:
- Efallai bod eich addysgwr yn defnyddio adnodd cwis wedi’i uwchraddio o’r enw New Quizzes ar eich cwrs. Os yw’r cwis rydych chi’n ei gymryd yn edrych yn wahanol i’r hyn sy’n cael ei ddangos yn y wers hon, yna mae’n bosib bod eich addysgwr yn defnyddio New Quzzes. I gael help i wneud cwis New Quizzes, ewch i weld Sut ydw i’n rhoi cynnig ar gwis yn New Quizzes?
- Mae bod a mwy nag un ffenestr neu dab porwr ar agor wrth wneud cwis yn gallu achosi problemau wrth gyflwyno atebion neu wrth gwblhau’r cwis.
- Os byddwch chi’n colli cysylltiad â’r rhyngrwyd, bydd Canvas yn ymestyn yr amser o bum munud, gan gadw’r ateb a rhoddwyd cyn i’r amserydd yn dod i ben.
- Os yw wedi’i alluogi gan eich addysgwr, efallai y bydd angen i’ch cwis ddefnyddio Porwr Lockdown - Respondus.
- Os oes gan eich addysgwr bolisi Cyflwyniadau Hwyr sy’n tynnu pwyntiau am gyflwyno’n hwyr, byddwch yn wyliadwrus os yw cwis yn caniatáu mwy nag un ymgais a’ch bod yn ymgeisio ar ôl y dyddiad erbyn, bydd didyniadau’n cael eu cymryd o bob ymgais, gan gynnwys unrhyw ymgais cyn y dyddiad erbyn.
Agor Cwisiau
Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs, cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).
Agor Cwis
Dewch o hyd i gwis sydd ar gael ac yr hoffech chi roi cynnig arno, a chliciwch deitl y cwis.
Rhoi Cynnig ar Gwis
I ddechrau'r cwis, cliciwch y botwm Rhoi Cynnig ar Gwis (Take the Quiz).
Gweld Cwis
Cwblhewch y cwis yn unol â chyfarwyddiadau eich addysgwr. Mewn cwisiau, bydd y cwestiynau naill ai i gyd ar un dudalen, neu bydd pob cwestiwn yn ymddangos un ar y tro.
Mae nifer o wahanol fathau o gwestiynau yn Canvas y gall eich athrawon eu dewis, o fformat Gwir/Ffug (True/False) i Draethawd (Essay). Mae cwestiynau’n gallu amrywio yn ôl y math o gwestiwn. Bydd gwerth pwynt pob cwestiwn i’w weld yng nghornel dde uchaf y cwestiwn. Bydd pob cwestiwn yn cael ei rannu oddi wrth y gweddill gan flwch yn amgylchynu’r cwestiwn a’r atebion.
Gallwch ddefnyddio adrannau eraill o’r cwis i’ch helpu chi i ganfod a chwblhau cwestiynau cwis, gan gynnwys y bar ochr a’r nodwedd fflagio cwestiynau.
Gweld Bar Ochr
Ar unrhyw adeg yn ystod y cwis, gallwch weld crynodeb o'ch cwis. Bydd cwestiynau rydych chi wedi’u hateb yn cael eu pylu ac yn cael eu dynodi gan eicon tic [1], tra bydd cwestiynau sydd heb eu hateb yn fwy amlwg ac wedi’u dynodi gan eicon marc cwestiwn [2].
Gallwch hefyd weld y dyddiad erbyn ar gyfer y cwis [3]. Yn y bar ochr, mae dyddiad erbyn y cwis yn cyfeirio at y dyddiad cyflwyno’n awtomatig, sy’n gallu bod yn ddyddiad Tan (Until) penodol neu’n ddiwrnod olaf y cwrs. Nid hwn yw’r dyddiad erbyn sy’n cael ei osod ar gyfer pryd fydd y cwis yn cael ei farcio’n hwyr.
Byddwch hefyd yn gweld amserydd sy'n dangos eich cynnydd ar y cwis. Ar gyfer cwisiau sydd ddim wedi’u hamseru [4] mae’r cwis yn dangos yr amser sydd wedi mynd heibio. Os ydych chi’n gwneud cwis wedi’i amseru [5], yna mae’r amserydd yn dangos yr amser sydd wedi mynd heibio ac mae’n cyfrif i lawr nes bod yr amser yn dod i ben.
Gweld Hysbysiadau Rhybudd Cwis
Os ydych chi’n gwneud cwis wedi’i amseru, neu’n gwneud cwis yn agos at y dyddiad erbyn neu’r dyddiad a’r amser cloi, bydd Canvas yn creu negeseuon rhybudd i'ch helpu chi i reoli eich amser yn y cwis. Bydd Canvas hefyd yn eich rhybuddio os ydych chi’n colli cysylltiad â'r rhyngrwyd yn ystod y cwis.
Gweld Rhybudd Dyddiad Erbyn
Os ydych chi’n gwneud cwis gyda’r dyddiad erbyn wedi’i osod, byddwch yn gweld baner naid yn eich rhybuddio o sawl munud sydd ar ôl nes bod y cwis yn cael ei farcio’n hwyr. Mae rhybuddion yn ymddangos 30 munud, pum munud, a munud cyn hynny.
Gweld Rhybudd Cyfyngiad Amser
Os byddwch chi’n dechrau cwis pan nad oes llawer o amser ar ôl, yna byddwch yn gweld baner naid yn eich rhybuddio. Defnyddiwch y bar ochr i weld faint o funudau sydd ar ôl i gyflwyno’r cwis. Yn hynny o beth, mae dyddiad erbyn y cwis yn cyfeirio at y dyddiad cyflwyno’n awtomatig, sydd un ai’n ddyddiad cloi (Ar gael tan) penodol neu’n ddiwrnod olaf y cwrs. Mae rhybuddion yn ymddangos 30 munud, pum munud, munud a 10 eiliad cyn hynny.
Gweld Rhybudd Allgofnodi o Gwis
Os ydych chi’n cael eich allgofnodi o Canvas ar unrhyw adeg wrth wneud cwis, byddwch yn gweld baner naid yn eich rhybuddio. I fynd yn ôl at eich cwis, cliciwch y botwm Mewngofnodi (Login).
Rhewi Cwis
Os yw eich porwr yn gadael i chi adael y cwis, gallwch rewi’r cwis drwy adael y dudalen cwis. Pan fyddwch chi'n barod i fwrw ymlaen â'r cwis, bydd y cwis yn ailddechrau yn yr un lle ag oeddech chi.
Nodyn: Os byddwch chi’n gadael cwis wedi’i amseru, bydd yr amserydd yn dal i redeg a bydd y cwis yn cael ei gyflwyno’n awtomatig ar ôl i’r amser ddod i ben.
Cyflwyno Cwis
Bydd Canvas yn cadw eich cwis wrth i chi weithio arno. Ar ôl i chi orffen, cyflwynwch eich cwis ac ewch i weld y canlyniadau cwis i gael gwybod beth yw’ch sgôr.
Gweld Rhybudd Cyflwyno Awtomatig
Os nad ydych chi'n cyflwyno cwis wedi’i amseru cyn i'r amser ddod i ben, mae Canvas yn dangos bwch naid yn dweud bod eich amser cwis wedi dod i ben. Mae'r cwis yn cael ei gyflwyno'n awtomatig ar ôl deg eiliad o gyfrif i lawr [1], neu gallwch glicio'r botwm Iawn neu'r eicon Cau i gyflwyno eich cwis [2].