Sut ydw i’n cofrestru ar gyfer cyfrif Canvas gyda chod ymuno neu URL cyfrinachol fel myfyriwr?
Os nad oes gennych chi gyfrif Canvas eisoes, mae angen i chi greu cyfrif cyn y gallwch chi fewngofnodi i Canvas.
Os ydych chi’n defnyddio Canvas drwy eich sefydliad, mae'n debygol iawn bod gennych chi gyfrif eisoes a bod angen i chi dderbyn gwahoddiad y cwrs. Bydd eich sefydliad yn anfon eich manylion mewngofnodi dros e-bost. Os nad oes gennych chi gyfrif eto, mae modd i chi greu cyfrif pan fyddwch chi'n derbyn gwahoddiad y cwrs.
Os nad ydych chi'n defnyddio Canvas drwy eich sefydliad, gallwch chi greu eich cyfrif eich hun. Bydd eich addysgwr yn rhoi cod ymuno i chi er mwyn eich cysylltu chi’n uniongyrchol â’r cwrs. Bydd y cod hwn yn cael ei anfon atoch chi ar wahân i'r e-bost Canvas sy’n eich gwahodd chi i ymuno â’r cwrs. Os oes arnoch angen creu cyfrif yn Canvas ond nad ydych chi wedi cael eich cod ymuno dros e-bost, cysylltwch â’ch gweinyddwr neu eich sefydliad i gael help i fewngofnodi.
Nodyn: Ar ôl i chi greu cyfrif, gallwch ofyn i ddileu eich cyfrif ar unrhyw adeg. Ar ôl dileu eich cyfrif Canvas does dim modd ei ddadwneud a bydd yn dileu holl wybodaeth Canvas gan gynnwys cyrsiau, aseiniadau, graddau a chyfranogiad. Peidiwch â gofyn am gael dileu eich cyfrif oni bai eich bod yn hollol siŵr na fyddwch angen mynediad at eich gweithgareddau Canvas blaenorol. I ofyn am gael dileu eich cyfrif, agorwch y ddewislen Help a chyflwyno tocyn i adran gymorth Canvas trwy’r ddolen Rhoi Gwybod am Broblem (Report a Problem).
Rhoi URL

Os nad oes gennych chi gyfrif eto, gallwch chi greu un eich hun heb ddolen e-bost.
I greu eich cyfrif, mae angen i chi agor eich porwr a theipio canvas.instructure.com yn eich porwr.
Nodyn: Rhaid i chi gael cod ymuno gan eich addysgwr neu eich sefydliad i greu eich cyfrif.
Creu Cyfrif Canvas

Cliciwch y ddolen Angen Cyfrif Canvas? (Need a Canvas Account?).
Cofrestru Fel Myfyriwr

Cliciwch y botwm Rydw i’n Fyfyriwr (I'm a Student).
Cwblhau'r Broses Gofrestru

Llenwch y meysydd canlynol:
- Rhowch y cod ymuno ar gyfer y cwrs yn y maes Cod Ymuno (Join Code). Bydd eich addysgwr neu eich sefydliad yn anfon y cod hwn atoch—bydd y neges hon ar wahân i’r neges a fydd yn eich gwahodd i ymuno â’r cwrs.
- Rhowch eich enw yn y maes Enw Llawn (Full Name).
- Rhowch eich enw defnyddiwr yn y maes Enw Defnyddiwr (Username).
- Dylech greu eich cyfrinair drwy deipio yn y maes Cyfrinair (Password).
- Dylech gadarnhau eich cyfrinair drwy deipio eich cyfrinair yn y maes Cyfrinair (Confirm Password).
- Cytunwch â'r telerau defnyddio drwy roi tic yn y blwch telerau defnyddio.
- Cadarnhewch nad robot ydych chi drwy lenwi’r ffurflen Captcha (os yw hyn wedi’i alluogi gan eich sefydliad)
- Cliciwch y botwm Dechrau Dysgu (Start Learning).