Sut ydw i’n creu trafodaeth cwrs fel myfyriwr?
Bydd modd i chi greu trafodaethau newydd yn eich cwrs. Mae’r trafodaethau hyn yn rhan o’r cwrs ac mae hyn yn wahanol i greu trafodaeth mewn grŵp.
Nodyn:
- Os nad yw'r botwm Ychwanegu Trafodaeth (Add Discussion) yn ymddangos, mae eich addysgwr wedi atal y gosodiad hwn yn eich cwrs. Fodd bynnag, nid yw'r gosodiad hwn yn effeithio ar drafodaethau mewn grwpiau cwrs.
- Os byddwch chi'n ychwanegu ffeil at eich trafodaeth, bydd yn cael ei storio yn ffeiliau'r cwrs yn y ffolder heb ei ffeilio.
Agor Trafodaethau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Trafodaethau (Discussions).
Creu Trafodaeth
Rhowch deitl i drafodaeth yn y maes Teitl Pwnc (Topic Title) [1].
Ychwanegwch gynnwys at drafodaeth drwy ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog [2]. Dysgu mwy am ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
Yn ddiofyn, mae pob adran o’ch cwrs yn gallu gweld a chyfrannu at y drafodaeth. I nodi adrannau penodol ar gyfer eich trafodaeth, defnyddiwch y gwymplen Postio i (Post to) [3].
Gallwch chi hefyd atodi ffeiliau i’ch trafodaeth [4].
Gosod Argaeledd ac Opsiynau Trafodaeth
Dewiswch opsiynau ar gyfer eich trafodaeth [1] ac ychwanegu dyddiau yn nodi pryd y bydd eich cyd-fyfyrwyr yn gallu gweld a chyfrannu at eich trafodaeth [2].
Nodyn: Os na fyddwch chi’n gosod dyddiadau ar gael i’ch trafodaeth, bydd modd ei weld ar unrhyw adeg yn ystod y cwrs neu ddyddiadau’r adran.
Cadw Trafodaeth
Cliciwch y botwm Cadw (Save).