Sut ydw i’n defnyddio’r rhyngwyneb Cynadleddau (Conferences) fel cyfranogwr?
Ar ôl i chi ymuno â chynhadledd fel cyfranogwr, mae'r rhyngwyneb Cynadleddau yn cynnwys nifer o adnoddau i’ch helpu chi i gymryd rhan yn y gynhadledd. Bydd unrhyw fyfyriwr sy'n ymuno â chynhadledd a gafodd ei dechrau gan rywun arall yn cael ei ystyried yn gyfranogwr.
Gallwch ddechrau cynhadledd hefyd neu gael swydd cyflwynydd neu safonwr. Dysgwch fwy am ddefnyddio’r rhyngwyneb Cynadleddau fel safonwr neu gyflwynydd.
Mae'r rhyngwyneb Cynadleddau yn cael ei ddangos gan system gynadledda BigBlueButton. Mae'r canllaw hwn yn rhoi trosolwg syml o'r rhyngwyneb Cynadleddau. I ddysgu mwy am nodweddion penodol, edrychwch ar y dogfennau defnyddiwr BigBlueButton.
Mae'n syniad da defnyddio'r porwyr Chrome neu Firefox i gael mynediad at y rhyngwyneb Cynadleddau. Nid yw porwr Safari yn delio â rhannu sgrin.
00:07: How do I use the conference's interface as a participant? 00:11: The conference is interface contains a variety of tools to help you moderate and 00:15: participate in your presentation the interface consists of the following 00:19: areas. User menu presentation 00:23: window conference tools options menu 00:28: From the user menu you can do all the users in the conference. 00:31: Each user is represented by their display name in canvas. 00:36: You can also chat with conference participants and contribute to Shared notes to 00:40: open the conference chat. Click the public chat link to open the shared 00:44: notes. Click the shared notes link. 00:48: The user menu is open by default to close the user menu. 00:51: Click the user menu icon. 00:54: The presentation window displays the presentation that has been uploaded by the moderator 00:58: or presenter. It's a conference is being recorded. 01:01: The recording time will display at the top of the screen. 01:05: The presentation window also includes several tools that control how you can participate in 01:09: the conference. Commute or unmute your microphone Click 01:13: the microphone button. To leave or join the conference audio click 01:18: the audio button. 01:21: To enable your webcam click the webcam button. 01:25: If webcams are enabled you can hide the presentation window and display 01:29: only webcams by clicking the height icon. 01:33: It's a moderator allows participants can use tools to annotate the presentation 01:37: window to use a pencil to draw in the presentation window. 01:41: Click the pencil icon. 01:44: To view all annotation tools click in the hold the pencil icon in 01:48: addition to the pencil tool click the Styles button. 01:51: You can create text annotation line annotations or shape 01:55: annotations. 01:58: To undo the most recent annotation. 02:00: Click the undo icon. 02:02: Delete all annotations that you have created. 02:04: Click the delete icon. 02:07: To open the options menu, click the options icon. 02:09: The options available are to view the conference in full screen view information 02:14: about he interface you help tutorials. 02:17: You hot keys and lock out of the conference. 02:21: To open the settings menu click the settings link. 02:25: Manage application notifications application settings include 02:29: animations audio filters for microphone dark mode 02:33: audio hide whiteboard toolbars disable view 02:37: all cameras Auto close the reaction bar application 02:41: language and font size. 02:45: To manage notification settings click the notifications link notification 02:49: settings include chat message user join and user leave audio 02:54: alerts and pop-up alerts. 02:57: To manage data saving settings click the data savings link data 03:01: saving settings including able other participants webcams and enable other 03:05: participants desktop sharing. 03:08: This guy covers how to use the conference's interface as a participant.
Gweld Rhyngwyneb Cynadleddau
Mae’r rhyngwyneb Cynadleddau yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu chi i safoni a chyfrannu at eich cyflwyniad. Mae'r rhyngwyneb yn cynnwys y canlynol:
- Dewislen Defnyddiwr [1]
- Ffenestr Gyflwyno [2]
- Adnoddau Cynhadledd [3]
- Dewislen Opsiynau [4]
Gweld Dewislen Defnyddiwr
O'r Ddewislen Defnyddwyr, gallwch weld pob defnyddiwr sydd yn y gynhadledd [1]. Mae pob defnyddiwr yn cael ei gynrychioli gan ei enw arddangos yn Canvas.
Hefyd, gallwch siarad â chyfranogwyr y gynhadledd a chyfrannu at nodiadau wedi'u rhannu. I agor sgwrs y gynhadledd, cliciwch y ddolen Sgwrs Gyhoeddus (Public Chat) [2]. I agor y Nodiadau wedi'u rhannu, cliciwch y ddolen Nodiadau wedi'u rhannu (Shared Notes) [3].
Mae'r Ddewislen Defnyddiwr ar agor yn ddiofyn. I gau'r Ddewislen Defnyddiwr, cliciwch yr eicon Dewislen Defnyddiwr (User Menu) [4].
Nodyn: Os yw eich sefydliad yn defnyddio BigBlueButton Premium Tier, mae'n bosibl y bydd lluniau proffil defnyddiwr Canvas yn ymddangos fel afatar defnyddwyr yn BigBlueButton.
Gweld Ffenestr Cyflwyniad
Mae’r Ffenestr Cyflwyniad yn dangos y cyflwyniad sydd wedi cael ei lwytho i fyny gan y safonwr neu'r cyflwynydd [1]. Os yw'r gynhadledd yn cael ei recordio, bydd yr amser recordio yn ymddangos ar frig y sgrin [2].
Mae'r Ffenestr Cyflwyniad yn cynnwys nifer o adnoddau hefyd sy'n rheoli sut y gallwch chi gymryd rhan yn y gynhadledd. I dewi neu ddad-dewi eich meicroffon, cliciwch y botwm Meicroffon (Microphone) [3]. I adael neu ymuno â sain y gynhadledd, cliciwch y botwm Sain (Audio) [4].
I alluogi eich gwe-gamera, cliciwch y botwm Gwe-gamera (Webcam) [5]. Os yw gwe-gamerâu wedi'u galluogi, gallwch guddio'r ffenestr cyflwyniad a dangos dim ond gwe-gamerâu drwy glicio’r eicon Cuddio (Hide) [6].
Gweld Adnoddau Anodi
Os yw'r safonwr yn ei ganiatáu, mae modd i gyfranogwyr ddefnyddio adnoddau i anodi'r ffenestr cyflwyniad. I ddefnyddio pensil i ysgrifennu yn y ffenestr cyflwyniad, cliciwch yr eicon Pensil [1].
I weld yr holl adnoddau anodi, cliciwch a daliwch yr eicon Pensil. Ynghyd â'r adnodd pensil, gallwch hefyd greu anodiadau testun [2], anodiadau llinell [3], neu anodiadau siâp [4].
I dremio dogfen sydd wedi cael ei nesáu, cliciwch yr eicon Tremio (Pan) [5].
I newid trwch anodiad, cliciwch yr eicon Trwch (Thickness) [6]. I newid lliw'r anodiad, cliciwch yr eicon Lliw (Color) [7].
I ddadwneud yr anodiad diweddaraf, cliciwch yr eicon Dadwneud (Undo) [8]. I ddileu’r holl anodiadau rydych chi wedi'u creu, cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [9].
I alluogi gwrthod cledr, cliciwch yr eicon Gwrthod Cledr (Palm Rejection) [10].
Nodyn: Os nad ydych chi’n gallu gweld yr adnoddau anodi, yna nid ydyn nhw wedi'u galluogi ar gyfer cyfranogwyr yn eich cynhadledd.
Agor Dewislen Opsiynau
I agor y ddewislen Opsiynau, cliciwch yr eicon Opsiynau [1].
I weld y cyflwyniad mewn sgrin lawn, cliciwch y ddolen Sgrin Lawn (Make fullscreen) [2].
I weld gwybodaeth am y rhyngwyneb, cliciwch y ddolen Am (About) [3].
I weld tiwtorialau help, cliciwch y ddolen Help [4].
I weld bysellau brys, cliciwch y ddolen Bysellau hwylus (Keyboard shortcuts) [5].
I allgofnodi o'r gynhadledd, cliciwch yddolen Gadael cyfarfod (Leave meeting) [6].
Gweld Dewislen Gosodiadau
I agor y ddewislen Gosodiadau, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Rheoli Gosodiadau Rhaglen
I reoli gosodiadau rhaglen, cliciwch y ddolen Rhaglen (Application) [1].
I reoli animeiddiadau sy'n ymddangos pan mae defnyddiwr yn siarad, cliciwch y togl Animeiddiad (Animations) [2].
I reoli hidlyddion sain meicroffon, cliciwch y togl Hidlyddion Sain ar gyfer Meicroffon (Audio Filters for Microphone) [3].
I ddewis yr iaith ar gyfer y rhyngwyneb, cliciwch y gwymplen Iaith Rhaglen (Application Language) [4].
I newid maint y ffont, cliciwch y botwm Lleihau (Decrease) neu'r botwm Chwyddo (Increase) [5].
Rheoli Gosodiadau Hysbysiadau
I reoli gosodiadau hysbysiad, cliciwch y ddolen Hysbysiadau (Notifications) [1].
I reoli rhybuddion sgwrs, cliciwch y toglau Rhybuddion Sain Negeseuon Sgwrs (Chat Message Audio Alerts) [2] a Rhybuddion Naid (Popup Alerts) [3].
I reoli rhybuddion ymuno defnyddiwr cliciwch y toglau Rhybuddion Sain Ymuno Defnyddwyr (User Join Audio Alerts) [4] a Rhybuddion Naid (Popup Alerts) [5].
Nodyn: Dydy rhybuddion sgwrs ddim ond yn gweithio ar y math o borwr y mae'r rhyngwyneb Cynadleddau ar agor arno.
Rheoli Gosodiadau Cadw Data
I reoli gosodiadau cadw data, cliciwch y ddolen Cadw data (Data saving) [1].
I alluogi neu analluogi gwe-gamerâu, cliciwch y togl Galluogi gwe-gamerâu (Enable webcams) [2].
I alluogi neu analluogi rhannu bwrdd gwaith, cliciwch y togl Galluogi rhannu bwrdd gwaith (Enable desktop sharing) [3].