Sut ydw i’n gweld sylwadau adborth gydag anodiadau gan fy addysgwr yn uniongyrchol yn yr asesiad rydw i wedi'i gyflwyno?

Efallai y bydd eich addysgwr yn dewis cynnwys sylwadau’n uniongyrchol mewn aseiniad sy’n cael ei gyflwyno gan ddefnyddio sylwadau mewn llinell neu anodiadau Os yw tudalen manylion aseiniad sydd wedi'i gyflwyno yn cynnwys botwm Gweld Adborth (View Feedback), gallwch weld y sylwadau hyn gydag anodiadau drwy adnodd gweld rhagolwg a elwir yn DocViewer Canvas. Hefyd, gallwch chi ddefnyddio DocViewer Canvas i ateb unrhyw sylwadau neu wneud eich anodiadau eich hun.

Efallai na fydd rhai porwyr yn rendro sylwadau’n gywir ar y cychwyn wrth edrych ar adborth. Os yw eich porwr yn cynnwys dangosydd PDF yn barod, dewiswch yr opsiwn i weld y PDF yn nangosydd y system. Hefyd, gallwch chi lwytho ffeiliau PDF i lawr gyda sylwadau i’w gweld ar eich cyfrifiadur. Mae'r gosodiadau sydd eu hangen i weld neu argraffu’r anodiadau yn y PDF yn amrywio yn seiliedig ar y feddalwedd sydd wedi’i gosod ar eich cyfrifiadur.

Nodiadau:

  • Os bydd atodiad yr aseiniad yn dangos botwm Rhagolwg (Preview) yn lle’r botwm Gweld Adborth (View Feedback), dydy eich ffeil ddim yn gydnaws â DocViewer ac ni fydd yn cynnwys unrhyw sylwadau gydag anodiadau.
  • Os gwnaethoch chi gyflwyno aseiniad grŵp ond nad ydych chi’n aelod o grŵp, efallai na fydd sylwadau’r addysgwr yn ymddangos yn y dudalen Manylion Cyflwyniad. Gallwch chi weld sylwadau o’ch tudalen Graddau neu’r ffolder Sylwadau ar y Cyflwyniad yn y Blwch Derbyn.

Agor Graddau

Agor Graddau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Graddau (Grades).

Gweld Manylion Aseiniad

Gweld Manylion Aseiniad

Cliciwch deitl aseiniad.

Gweld adborth

Gweld adborth

Cliciwch y ddolen Gweld Adborth (View Feedback). Mae’r ddolen Gweld adborth yn cynnwys dangosydd os oes sylwadau wedi’u hannodi wedi cael eu hychwanegu at aseiniad y mae modd delio ag ef.

Nodiadau:

Gweld Sylwadau gydag Anodiadau

Gweld Sylwadau gydag Anodiadau

Gallwch weld y sylwadau gydag anodiadau gan eich addysgwr [1]. I ymateb i sylw, cliciwch y sylw a chlicio'r botwm Ateb (Reply) [2]. Pan fydd sylw gydag anodiadau yn cynnwys mwy nag un llinell o gynnwys, bydd y blwch cynnwys yn dangos dolen elipsis [3]. I ehangu sylw, cliciwch y ddolen elipsis. I weld atebion wedi’u pentyrru, cliciwch y sylw i ehangu pob ateb [4]. I weld y cyflwyniad mewn gwedd wedi’i hehangu, cliciwch y botwm Sgrin Lawn (Full Screen) [5]. Hefyd, gallwch chi ddefnyddio DocViewer i wneud eich anodiadau eich hun ar eich aseiniad.

Llwytho Ffeil i Lawr

Llwytho Ffeil i Lawr

I lwytho PDF o’r cyflwyniad a’r anodiadau i lawr, cliciwch yr eicon Llwytho i Lawr (Download) [6].