Sut ydw i’n gweld canlyniadau cyfarwyddyd sgorio ar gyfer fy aseiniad?
Gallwch chi weld eich canlyniadau cyfarwyddyd sgorio ar gyfer eich aseiniad yn y dudalen Graddau. Gallwch chi hefyd weld sylwadau sydd wedi cael eu gadael gan eich addysgwr ar y cyfarwyddyd sgorio.
Gallwch chi hefyd weld adborth cyfarwyddyd sgorio yn y dudalen Manylion Aseiniad.
Agor Graddau
![Agor Graddau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/744/618/original/4bdf3077-f627-46ba-be86-1b23a2661379.png)
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Graddau (Grades).
Agor Cyfarwyddyd Sgorio
![Agor Cyfarwyddyd Sgorio](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/868/035/original/5be4e6c9-9def-4429-b42d-cf79828126c3.png)
Os oes gan aseiniad gyfarwyddyd sgorio, bydd yr aseiniad yn arddangos yr eicon cyfarwyddyd sgorio. I agor y cyfarwyddyd sgorio, cliciwch yr eicon Cyfarwyddyd Sgorio (Rubric).
Gweld Canlyniadau Cyfarwyddyd Sgorio
![Gweld Canlyniadau Cyfarwyddyd Sgorio](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/868/038/original/cbae6bb5-6532-47e6-b8d2-042ff30fcf8a.png)
Gweld y canlyniadau cyfarwyddyd sgorio ar gyfer eich aseiniad.
Gweld Sylwadau Cyfarwyddyd Sgorio
![Gweld Canlyniadau Cyfarwyddyd Sgorio](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/868/044/original/ad6d056d-2c21-4efd-ae41-1d71fba0be46.png)
Os yw eich addysgwr wedi gadael sylwadau ar eich cyfarwyddyd sgorio, gallwch chi eu gweld o dan y meini prawf cyfarwyddyd sgorio.
Nodwch: Dim ond os yw eich addysgwr wedi gadael sylwadau yn y cyfarwyddyd sgorio y bydd y testun hwn yn ymddangos.