Sut ydw i’n plannu delwedd mewn ymateb i drafodaeth fel myfyriwr?
Gallwch chi blannu ffeil delwedd yn uniongyrchol i ymatebion i drafodaeth gan ddefnyddio’r eicon delwedd. Mae modd plannu delweddau o’r we, neu eich ffeiliau defnyddiwr Canvas. Os oes newid yn cael ei wneud i ffynhonnell eich delwedd ar ôl i chi ei phlannu mewn ymateb i drafodaeth, ni fydd y ddelwedd sydd wedi’i hychwanegu at eich ymateb i drafodaeth yn cael ei newid.
Nodiadau:
- Cyn y gallwch chi blannu delwedd o Canvas, raid i’r ddelwedd gael ei llwytho i fyny i’ch ffeiliau defnyddiwr.
- Gallwch chi hefyd atodi ffeil i ymateb i drafodaeth.
- Os byddwch chi’n postio eich ymateb i drafodaeth cyn i ddelwedd atodol orffen llwytho i fyny, fydd Canvas yn dangos neges rhybudd.
Agor Trafodaethau
![Agor Trafodaethau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/748/458/original/d165f11d-085f-4292-85f4-278d6e9a6381.png)
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Trafodaethau (Discussions).
Ysgrifennu Ymateb
![Ysgrifennu Ymateb](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/001/252/077/original/9c61167b-b654-4a95-b82e-939231845cc7.png)
Creu cofnod trafodaeth newydd drwy glicio’r maes testun Ymateb (Reply).
Ychwanegu Delwedd o’r Bar Offer
![Ychwanegu Delwedd o’r Bar Offer](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/059/198/original/9c8fe8d4-2b70-4311-80fd-c920603555c0.png)
I ychwanegu delwedd o’r bar offer, cliciwch yr eicon Delwedd [1].
Gallwch chi hefyd lwytho delwedd i fyny o’r ddewislen opsiynau delweddau. I weld opsiynau delweddau ychwanegol, cliciwch y saeth Opsiynau Delweddau (Image Options) [2]. Yna dewiswch yr opsiwn Llwytho Delwedd i Fyny (Upload Image) [3].
Nodyn: I weld yr eicon Delwedd, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau [4].
Ychwanegu Delwedd o’r Bar Dewislen
![Ychwanegu Delwedd o’r Bar Dewislen](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/059/200/original/6bc587db-5918-4a35-be88-41b0ab8cfa71.png)
Gallwch chi hefyd ychwanegu delwedd gan ddefnyddio’r bar dewislen yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Mae’r bar dewislen yn dangos teitlau offer y Golygydd Cynnwys Cyfoethog ac efallai ei fod yn well i’r rheini sy’n defnyddio bysellau crwydro.
I lwytho delwedd i fyny gan ddefnyddio’r bar dewislen, cliciwch y ddewislen Mewnosod (Insert) [1] a dewiswch yr opsiwn Delwedd (Image) [2]. Gallwch chi lwytho delweddau newydd i fyny a phlannu delweddau o’ch ffeiliau defnyddiwr [3].
Llwytho Delwedd i Fyny o Gyfrifiadur
Yn ddiofyn, mae’r Adnodd Llwytho Delweddau i Fyny yn dangos y tab Cyfrifiadur (Computer) [1]. Cliciwch neu llusgwch a gollyngwch ffeil delwedd i’r adnodd llwytho delweddau i fyny er mwyn llwytho ffeil i fyny o’ch cyfrifiadur.
Nodyn: Mae delweddau sydd wedi’u llwytho i fyny o’ch cyfrifiadur gan ddefnyddio’r adnodd llwytho delweddau i fyny yn cael eu hychwanegu at eich ffeiliau defnyddiwr.
Dewis Ffeil
![Dewis Ffeil](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/059/204/original/8f682496-c90d-4d7b-bd42-6e6cb9ac7d17.png)
Dewiswch y ffeil delwedd [1] a chliciwch y botwm Agor (Open) [2].
Plannu Delwedd o URL
I blannu delwedd o URL, cliciwch y tab URL [1].
Rhowch yr URL yn y maes URL Ffeil (File URL) [2].
Rheoli Hawliau Defnyddio
![Rheoli Hawliau Defnyddio](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/059/221/original/6a6fbf64-5ccf-4d69-acd1-f2c6bc679ee6.png)
Os yw’n ofynnol yn eich sefydliad, bydd angen i chi ddewis gosodiadau hawliau defnyddio ar gyfer eich delwedd.
Yn y gwymplen Hawliau Defnyddio (Usage Right) [1], dewiswch un o’r pum hawl defnyddio canlynol:
- Fi sydd biau’r hawlfraint: yn golygu cynnwys gwreiddiol sydd wedi’i greu gennych chi
- Rydw i wedi cael caniatâd i ddefnyddio’r ffeil: caniatâd awdurdodedig gan yr awdur
- Mae’r deunydd yn y parth cyhoeddus: wedi’i neilltuo’n benodol i’r parth cyhoeddus, nid oes modd ei ro o dan hawlfraint, neu nid yw wedi’i ddiogelu gan hawlfraint mwyach
- Mae’r eithriad yn berthnasol i'r deunydd - ee defnydd teg, yr hawl i ddyfynnu, neu hawliau eraill o dan y cyfreithiau hawlfraint perthnasol: dyfyniad neu grynodeb yn cael eu defnyddio ar gyfer sylwadau, adrodd y newyddion, ymchwil, neu ddadansoddiad mewn addysg
- Mae’r deunydd wedi'i drwyddedu o dan Creative Commons: mae’r opsiwn hwn yn golygu gosod trwydded Creative Commons benodol
Os yw’n hysbys, rhowch wybodaeth perchennog yr hawlfraint yn y maes Perchennog yr Hawlfraint (Copyright Holder) [2].
Nodyn: Os ydych chi’n addysgwr ac nad ydych chi’n siŵr pa hawliau defnyddio sy’n berthnasol i’ch delwedd, gofynnwch i weinyddwyr eich sefydliad am gyngor.
Rheoli Priodoleddau Delwedd
![Rheoli Priodoleddau Delwedd](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/059/223/original/ce088647-30a7-499b-8f94-0c130ac4db9a.png)
I ychwanegu Testun Amgen at eich delwedd, teipiwch ddisgrifiad testun amgen neu dagiau testun yn y maes Testun Amgen (Alt Text) [1]. Yn ddiofyn, mae’r maes Testun Amgen yn dangos enw ffeil y ddelwedd. Mae testun amgen yn cael ei ddarllen gan ddarllenwyr sgrin, ac mae cael ei ddangos pan nad oes modd dangos y ddelwedd sydd wedi’i phlannu.
Os ydy’r ddelwedd yn addurniadol ac nad oes angen testun amgen arni, dewiswch yr opsiwn Delwedd Addurniadol (Decorative Image) [2].
Yn ddiofyn, mae’r opsiwn dangos Plannu Delwedd (Embed Image) wedi’i dews ar gyfer plannu delweddau [3].
I ddangos dolen y ffeil delwedd, dewiswch yr opsiwn Dangos Dolen Testun (Display Text Link) [4]. Bydd dolen y ffeil yn cymryd lle’r ddelwedd yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
Plannu Delwedd
![Cyflwyno Ffeil wedi’i Llwytho i Fyny](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/059/225/original/ff619528-eb41-4df8-9c96-bd1637bef272.png)
I blannu’r ddelwedd sydd gennych chi dan sylw, cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit).
Nodyn: Bydd y ddelwedd yn fflachio cyn iddi gael ei phlannu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
Gweld Delwedd wedi’i Phlannu
![Gweld Delwedd wedi’i Phlannu](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/059/227/original/88f1fd7e-3dcd-4f2d-b3e7-838eb622c369.png)
Gweld y ddelwedd rydych wedi’i llwytho i fyny yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Gallwch chi hefyd ychwanegu neu addasu tagiau testun amgen a rheoli’r opsiynau dangos delwedd.
Postio Ymateb
![Postio Ymateb](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/059/230/original/38dc5886-4631-4ce5-a90d-aac08a22469b.png)
Cliciwch y botwm Post Reply (Postio Ymateb).
Gweld Ymateb i Drafodaeth
![Gweld Post](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/001/252/075/original/d43146d5-db01-4c21-8ad1-ef3ccf56c7c5.png)
Gweld eich ymateb i drafodaeth.