Efallai y bydd eich addysgwr yn cynnwys cyfarwyddyd sgorio fel rhan o'ch trafodaeth. Set o feini prawf y bydd eich addysgwr yn eu defnyddio i raddio eich aseiniad yw Cyfarwyddyd Sgorio. Cyn cyflwyno eich aseiniad, gallwch ddefnyddio'r Cyfarwyddyd Sgorio i werthuso eich gwaith eich hun a gwneud yn siŵr bod eich aseiniad yn bodloni gofynion eich addysgwr.
Gallwch weld canlyniadau cyfarwyddyd sgorio ar gyfer aseiniad wedi'i raddio yn y dudalen Graddau neu o'r dudalen manylion aseiniad.
Nodiadau:
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).
Cliciwch enw aseiniad.
Mae cyfarwyddiadau sgorio aseiniadau i'w gweld o dan gyfarwyddiadau'r aseiniad.
Mae'r cyfarwyddyd sgorio yn cynnwys meini prawf [1], lefel sgôr [2], a gwerthoedd pwynt llawn [3]. Gall meini prawf cyfarwyddyd sgorio gynnwys hyd at bum lefel sgôr wahanol a gwerthoedd pwynt unigol.
Nodyn: Yn dibynnu ar y ffordd y mae eich addysgwr wedi gosod y cyfarwyddyd sgorio, mae’n bosib y bydd yn cynnwys gwerthoedd pwynt. Os nad yw'r cyfarwyddyd sgorio yn cynnwys gwerthoedd pwynt efallai y bydd eich addysgwr yn dal i'w ddefnyddio ar gyfer rhoi adborth ar eich aseiniad.
Efallai y bydd meini prawf yn cynnwys disgrifiad [1].
Efallai y bydd y cyfarwyddyd sgorio hefyd yn cynnwys deilliant sy’n gysylltiedig â'r cwrs [2]. Mae deilliannau’n cael eu nodi gan faner fach, ac maent yn cael eu defnyddio i asesu’r nodwedd meistroli dysgu mewn cwrs. Mae'r deilliant yn dangos hefyd beth yw trothwy'r deilliant, neu nifer y pwyntiau y mae’n rhaid i chi eu cael i fodloni disgwyliadau. Gall eich addysgwr ganiatáu i chi weld canlyniadau'r deilliannau yng ngraddau eich cwrs.