Sut ydw i’n gweld Aseiniadau fel myfyriwr?

Gallwch weld holl aseiniadau eich cwrs ar y dudalen Aseiniadau (Assignments).

Nodiadau:

  • Efallai y bydd eich addysgwr yn dewis cuddio’r ddolen Aseiniadau (Assignments) yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs. Os nad yw’r ddolen Aseiniadau (Assignments) ar gael gallwch gael mynediad at Aseiniadau drwy eich dangosfwrdd defnyddiwr neu gwrs, y Maes Llafur, Llyfr Graddau, Calendr, neu Fodiwlau.
  • Os ydy’r aseiniad rydych chi’n edrych arno yn ymddangos yn wahanol, efallai bod eich aseiniad yn defnyddio’r nodwedd Gwelliannau Aseiniad. Gweler y canllaw hwn am ragor o wybodaeth.

Agor Aseiniadau

Agor Aseiniadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).

Nodyn: Os nad yw’r ddolen Aseiniadau ar gael yn Aseiniadau adran Crwydro’r Cwrs, gallwch chi gael mynediad at aseiniadau cwrs drwy'r dudalen Modiwlau.

Gweld Aseiniadau

Gweld Aseiniadau

Yn yr adran Aseiniadau (Assignments), gallwch weld pob aseiniad yn eich cwrs.

Yn ddiofyn, mae aseiniadau yn cael eu grwpio yn ôl aseiniadau hwyr, aseiniadau sydd ar y gweill, aseiniadau heb ddyddiadau, ac aseiniadau blaenorol.

  • Aseiniadau Hwyr: aseiniadau a thrafodaethau sydd ar ôl y dyddiad erbyn, sy’n parhau ar gael, heb gael eu cyflwyno, a heb gael eu graddio.
  • Aseiniadau sydd ar y Gweill: aseiniadau, trafodaethau, a chwisiau sydd â dyddiad erbyn sy’n prysur agosáu.
  • Aseiniadau Heb Ddyddiadau: aseiniadau, trafodaethau, a chwisiau sydd heb ddyddiad erbyn.
  • Aseiniadau Blaenorol: aseiniadau a thrafodaethau sydd ar ôl y dyddiad erbyn ac sydd un ai ddim ar gael, wedi cael eu cyflwyno, neu sydd wedi derbyn gradd; cwisiau sydd ar ôl y dyddiadau erbyn.

 

Mae pob aseiniad hefyd yn cynnwys eicon gyda’r math o aseiniad: aseiniad [1], trafodaeth [2], neu gwis [3].

Nodyn: Mae'r dudalen Aseiniadau yn delio â bysellau hwylus. I weld ffenestr gyda rhestr o fysellau hwylus, pwyswch y bysellau Shift+Marc Cwestiwn ar yr un pryd ar eich bysellfwrdd.

Gweld Crynodeb Aseiniad

Gweld Manylion Aseiniad

Mae pob aseiniad yn dangos enw’r aseiniad [1], unrhyw ddyddiadau ar gael ar gyfer yr aseiniad [2], dyddiad erbyn (os oes un) [3], a nifer y pwyntiau y mae’r aseiniad ei werth [4].

Gweld Dyddiadau Ar Gael

Gweld Dyddiadau Ar Gael

Y dyddiadau cyntaf a welwch chi yw’r dyddiadau ar gael. Weithiau bydd eich addysgwr am i chi gyflwyno aseiniad o fewn cyfnod penodol, felly’r dyddiadau ar gael yw’r cyfnod y mae’r aseiniad ar gael i chi.

  1. Os nad oes dyddiad wedi’i nodi ar gyfer yr aseiniad, mae’r aseiniad yn agored; gallwch gyflwyno’r aseiniad ar unrhyw adeg yn ystod eich cwrs.  
  2. Os yw’r aseiniad yn dweud Ar gael tan (Available until) [dyddiad], gallwch gyflwyno’r aseiniad tan y dyddiad a nodwyd.
  3. Os yw’r aseiniad yn dweud Ddim ar gael tan (Not Available Until) [dyddiad], mae’r aseiniad wedi’i gloi tan y dyddiad a nodwyd.
  4. Os yw’r aseiniad yn dweud Wedi cau (Closed), does dim modd i’r aseiniad dderbyn cyflwyniadau.  

Nodyn: Os yw’r dyddiad a restrir wedi’i osod i 12 AM, y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno’r aseiniad yw’r diwrnod llawn cyn y dyddiad a restrir. Er enghraifft, os yw aseiniad Ar Gael tan 15 Rhagfyr, gallwch gael mynediad at yr aseiniad tan 14 Rhagfyr am 11:59 pm.

 

Gweld Dyddiadau Erbyn

Gweld Dyddiadau Erbyn

Yr ail gyfres o ddyddiadau ydy’r Dyddiadau erbyn [1] ar gyfer pob aseiniad. Mae unrhyw aseiniad sy’n cael ei gyflwyno ar ôl y dyddiad erbyn yn cael ei farcio’n hwyr; efallai y bydd rhai addysgwyr yn tynnu pwyntiau am gyflwyno gwaith yn hwyr. Eto, ni fydd pob aseiniad yn cynnwys Dyddiad erbyn.

Byddwch chi’n dal yn gallu cyflwyno aseiniadau hwyr cyn y dyddiad Ar gael tan (Available until).

Cofiwch y gall y Dyddiad Erbyn fod cyn neu ar y dyddiad Ar Gael.

Mae dyddiadau erbyn yn cynnwys amser [2] hefyd. Os nad yw eich addysgwr yn gosod amser erbyn, mae’r dyddiad a restrir yn dangos amser erbyn diofyn y cwrs.

Hidlo Aseiniadau

Hidlo Aseiniadau

Os yw eich cwrs yn cynnwys Mwy nag Un Cyfnod Graddio, gallwch weld aseiniadau yn ôl cyfnod graddio [1]. Gallwch chwilio am aseiniad drwy deipio teitl aseiniad neu allweddair yn y maes Chwilio am aseiniad [2]. Gallwch hefyd grwpio aseiniadau yn ôl math [3].

Agor Aseiniad

Agor Aseiniad

I weld manylion aseiniad, cliciwch enw’r aseiniad.

Gweld Aseiniad Agored

Gweld Aseiniad Agored

Pan fydd aseiniad yn agored i chi ei gyflwyno ar unrhyw adeg, gallwch weld y dyddiadau erbyn, pwyntiau, a’r math(au) o gyflwyniad(au) y gallwch eu defnyddio ar gyfer yr aseiniad [1]. Ni fydd gan bob aseiniad ddyddiad erbyn.

Gallwch hefyd weld manylion ychwanegol:

  • Cyfarwyddiadau (Instructions) [2]: unrhyw gyfarwyddiadau sydd gan eich addysgwr am yr aseiniad. Cofiwch nad oes modd llwytho cyfarwyddiadau aseiniad i lawr oni bai fod eich addysgwr wedi cynnwys dolen i’w llwytho i lawr. Gallwch hefyd argraffu’r sgrin neu gopïo a gludo’r cyfarwyddiadau i mewn i raglen prosesu geiriau, neu gallwch weld yr aseiniad yn ap symudol Canvas.
  • Cyfarwyddyd Sgorio (Rubric) [3]: unrhyw feini prawf graddio y mae eich addysgwr wedi’u darparu ar gyfer yr aseiniad. Mae’n bosib i aseiniad gynnwys cyfarwyddyd sgorio. Cyn cyflwyno eich aseiniad, efallai y byddwch chi eisiau adolygu cyfarwyddyd sgorio’r aseiniad.

Er enghraifft, efallai fod gan aseiniad ddyddiad erbyn ond dim rhestr o ddyddiadau eraill. Pe byddech chi’n methu’r dyddiad erbyn, byddech chi’n dal yn gallu cyflwyno’r aseiniad am gredyd hwyr cyn diwrnod olaf y cwrs. Os nad oes gan yr aseiniad ddyddiad erbyn, gallwch gyflwyno’r aseiniad unrhyw adeg cyn diwrnod olaf y cwrs.

I gyflwyno eich aseiniad, cliciwch y ddolen Dechrau Aseiniad (Start Assignment) [4].

Nodyn: Gallwch wastad ailgyflwyno aseiniad oni bai fod eich addysgwr wedi gosod dyddiadau ar gael ar yr aseiniad.

Gweld Aseiniad gyda Dyddiadau Ar Gael

Gweld Aseiniad gyda Dyddiadau Ar Gael

Pan mae aseiniad yn agored i chi yn ystod y dyddiadau y bydd ar gael, gallwch weld yr holl wybodaeth sydd ar gael ar yr aseiniad ynghyd â’r dyddiadau penodol y mae’r aseiniad ar gael i chi. Gall dyddiadau ar gael gynnwys dyddiad ar gael gyntaf (dyddiad agor), dyddiad ar gael olaf (wedi’i gloi neu’i gau), neu’r ddau ddyddiad i greu cyfnod amser cyffredinol. Gall y Dyddiad erbyn fod cyn neu ar (before or on) y dyddiad ar gael olaf (os oes un wedi’i osod).

Os na fyddwch chi’n cyflwyno’r aseiniad erbyn y dyddiad erbyn [1], byddwch chi’n dal yn gallu cyflwyno’r aseiniad tan y dyddiad ar gael olaf [2]. Unwaith mae’r dyddiad olaf wedi bod, does dim modd i chi gyflwyno’r aseiniad.

Nodyn: Wrth edrych ar y dyddiad erbyn gyda 24 awr, bydd ffenestr argaeledd yn ymddangos.

Gweld Aseiniadau gydag Ymgeisiau Cyfyngedig

Gweld Aseiniadau gydag Ymgeisiau Cyfyngedig

Efallai y bydd eich addysgwr yn cyfyngu ar sawl ymgais y cewch chi i gyflwyno eich aseiniad. Os oes gan eich aseiniad nifer cyfyngedig o gyflwyniadau, gallwch chi weld sawl ymgais rydych chi wedi’i chael [1] a sawl ymgais a ganiateir ar gyfer yr aseiniad [2].

Ar ôl i chi ddefnyddio pob ymgais i gyflwyno sydd gennych, bydd y botwm Cais Newydd (New Attempt) yn cael ei analluogi [3].

Gweld Aseiniad wedi’i Gloi

Gweld Aseiniad wedi’i Gloi

Gall aseiniad gael ei gloi cyn bod addysgwr am ei agor, neu ar ôl i ddyddiad penodol fynd heibio ar ôl y dyddiad erbyn. Pan fydd aseiniad wedi’i gloi, gallwch weld y cyfarwyddyd sgorio (os oes un) a manylion yr aseiniad. Gallwch hefyd weld y dyddiad pan fydd yr aseiniad yn agored ar gyfer cyflwyniadau os nad yw’n agored eto.

Gweld Aseiniad wedi’i Gau

Gweld Aseiniad wedi’i Gau

Pan fydd aseiniad wedi’i gau, byddwch chi’n dal yn gallu gweld y cyfarwyddyd sgorio, os oes un, ac unrhyw fanylion cyflwyno yn y bar ochr, ond ni fyddwch chi’n gallu gweld manylion yr aseiniad na chyflwyno/ailgyflwyno’r aseiniad. Gallwch chi hefyd weld y dyddiad pan gafodd yr aseiniad ei gloi ar gyfer cyflwyniadau.

Mae aseiniadau’n cau pan dydyn nhw ddim ond ar gael tan ryw ddyddiad penodol.