Mae’r dudalen Mynegai Trafodaethau (Discussion Index) yn caniatáu i chi weld pob trafodaeth mewn cwrs.
Nodyn: Gall eich addysgwr ddewis cuddio’r ddolen Trafodaethau (Discussions) yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs. Os nad yw’r ddolen Trafodaethau (Discussions) ar gael, gallwch ddarllen y Trafodaethau mewn rhannau eraill o Canvas.
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Trafodaethau (Discussions).
Caiff trafodaethau eu trefnu yn ôl tri phrif faes.
Trafodaethau (Discussions) [1]: Mae’r rhain yn drafodaethau cyfredol yn y cwrs. Caiff trafodaethau eu trefnu yn ôl y gweithgarwch mwyaf diweddar. Ni fyddwch yn gweld pennawd yr adran hon oni bai fod trafodaethau yn yr adran.
Trafodaethau wedi’u Pinio (Pinned Discussions) [2]: Mae’r rhain yn drafodaethau y mae eich addysgwr am i chi dalu sylw penodol iddynt a byddant yn ymddangos ar frig y dudalen Trafodaethau. Ni fyddwch chi’n gweld pennawd yr adran hon oni bai fod y trafodaethau yn yr adran wedi’u neilltuo gan eich addysgwr.
Wedi Cau ar gyfer Sylwadau (Closed for Comments) [3]: Mae’r trafodaethau hyn wedi cael eu cau â llaw ar gyfer sylwadau, neu mae'r drafodaeth wedi mynd heibio i’r dyddiad ar gael o/tan. Mae’r rhain yn drafodaethau sydd ar gael i’w darllen yn unig ac maent wedi’u trefnu yn ôl y gweithgarwch mwyaf diweddar. Byddwch bob amser yn gweld pennawd yr adran hon, hyd yn oed os nad oes trafodaethau yn yr adran.
Mae pob trafodaeth yn dangos a yw'r drafodaeth wedi’i graddio [1], enw’r drafodaeth [2], dyddiad y neges ymateb ddiwethaf yn y drafodaeth [3], y dyddiad erbyn (os o gwbl) [4], nifer y negeseuon sydd heb eu darllen/cyfanswm y negeseuon yn y drafodaeth [5], ac a ydych chi wedi tanysgrifio i’r drafodaeth [6].
Gallwch hefyd weld dyddiadau ar gael ar gyfer trafodaethau unigol [7].
Mae eicon heb ei ddarllen y drws nesaf i drafodaeth yn nodi trafodaeth sydd heb ei darllen [8]. Ni fydd nifer y negeseuon sydd heb eu darllen/cyfanswm y negeseuon yn ymddangos ar gyfer trafodaethau grŵp a thrafodaethau sydd heb atebion [9].
Hefyd, bydd eicon adolygiad cyd-fyfyrwyr yn ymddangos pan fydd adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr wedi’u neilltuo ar gyfer trafodaeth wedi’i graddio.
Y dyddiadau cyntaf a welwch chi yw’r dyddiadau ar gael. Mae'n bosib y bydd eich addysgwr yn defnyddio dyddiadau ar gael i gyfyngu atebion i drafodaethau i gyfnod penodol o ddyddiadau. Y dyddiadau ar gael yw'r cyfnod y bydd y drafodaeth ar gael i chi. Mae dyddiadau ar gael hefyd yn ymddangos ar y dudalen Aseiniadau ar gyfer pob trafodaeth sydd â dyddiadau ar gael wedi'u neilltuo iddi.
Nodyn: Os nad yw dyddiad yn cynnwys amser, bydd 12 am yn cael ei nodi yn ddiofyn. Felly, y diwrnod olaf ar gyfer y drafodaeth yw’r diwrnod llawn cyn y dyddiad a nodir. Er enghraifft, os bydd trafodaeth Ar Gael tan 29 Mawrth, gallwch weld y drafodaeth tan 28 Mawrth, 11:59pm.
Yr ail gyfres o ddyddiadau yw’r dyddiadau erbyn [1] ar gyfer pob trafodaeth berthnasol. Fodd bynnag, mae’r dyddiadau erbyn yn berthnasol i’r trafodaethau sydd wedi’u graddio yn unig. Bydd unrhyw ymatebion i drafodaethau a ddaw ar ôl y dyddiad erbyn yn cael eu nodi fel rhai hwyr, a bydd rhai addysgwyr yn tynnu pwyntiau am ymatebion hwyr. Bydd modd i chi ymateb i drafodaeth hwyr cyn y dyddiad Ar Gael Tan (Available until).
Cofiwch y gall y Dyddiad Erbyn fod cyn neu ar y dyddiad Ar Gael.
Mae dyddiadau erbyn yn cynnwys amser [2] hefyd. Os nad yw eich addysgwr yn gosod amser erbyn penodol, yna mae amser erbyn y drafodaeth wedi’i graddio yn 11:59pm yn ddiofyn a bydd cyflwyniadau’n hwyr os byddan nhw'n cael eu cyflwyno ar ôl 11:59:59pm.
Mae sawl ffordd o hidlo Trafodaethau:
Pan fydd trafodaeth ar gael i gymryd rhan ynddi, gallwch weld y maes Ateb (Reply) o dan y pwnc trafod [1]. I ymateb i’r drafodaeth,, cliciwch y botwm Ateb (Reply).
Mae'r drafodaeth hefyd yn dangos y pwnc trafod [2] ac enw'r unigolyn a greodd y drafodaeth [3].
Nodyn: Mae'r dudalen Trafodaethau yn delio â bysellau hwylus. I weld ffenestr gyda rhestr o fysellau crwydro hwylus, pwyswch Alt+F8 (ar fysell cyfrifiadur) neu Option+Fn+F8 (ar fysell Mac) ar yr un pryd ar eich bysell.
Os yw eich trafodaeth yn drafodaeth wedi’i graddio, gallwch weld y drafodaeth yn yr un ffordd â thrafodaethau arferol gyda gwybodaeth ychwanegol:
Pe baech chi’n methu’r dyddiad erbyn, bydd hi’n bosib i chi gyflwyno ateb i’r drafodaeth cyn diwrnod olaf y cwrs. Os nad oes gan y drafodaeth sydd wedi’i graddio ddyddiad erbyn, gallwch gyflwyno’r ateb unrhyw bryd cyn diwrnod olaf y cwrs
Os nad ydych chi’n gallu gweld ymatebion gan fyfyrwyr eraill, mae'n bosib y bydd rhaid i chi ymateb eich hun cyn y gallwch eu gweld. Ar ôl i chi ymateb i’r drafodaeth, bydd modd gweld unrhyw ymatebion eraill.
Pan fydd trafodaeth wedi’i chloi, ni allwch weld unrhyw fanylion yn y pwnc trafod. Fodd bynnag, gallwch weld y dyddiad y bydd y drafodaeth yn agor.
Gellir cau trafodaethau wedi’u graddio a thrafodaethau heb eu graddio unrhyw bryd. Gall eich addysgwr nodi yn nisgrifiad y pwnc neu faes llafur os bydd trafodaeth wedi’i threfnu i fod ar gael ar gyfer cyfnod penodol.
Pan fydd trafodaeth yn cael ei chau ar gyfer sylwadau, gallwch ddal weld manylion y pwnc trafod ac unrhyw ymatebion, ond ni fydd modd i chi ymateb i’r drafodaeth mwyach.
Naill ai roedd y drafodaeth ar gael tan ddyddiad penodol, neu mae eich addysgwr wedi cau’r pwnc ei hun.
If you have a suggestion to improve this guide, or if you want to recommend corrections, please share your feedback