Sut ydw i’n gweld y cyfarwyddyd sgorio ar gyfer fy nhrafodaeth wedi'i graddio?

Efallai y bydd eich addysgwr yn cynnwys cyfarwyddyd sgorio fel rhan o drafodaeth wedi’i graddio. Set o feini prawf y bydd eich addysgwr yn eu defnyddio i raddio eich trafodaeth yw cyfarwyddyd sgorio. Cyn cyflwyno eich trafodaeth, gallwch ddefnyddio'r cyfarwyddyd sgorio i werthuso eich gwaith eich hun a gwneud yn siŵr bod eich trafodaeth yn bodloni gofynion eich addysgwr.

Nodwch: Ni fydd gan bob trafodaeth wedi’i graddio gyfarwyddyd sgorio.

Agor Trafodaethau

Agor Trafodaethau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Trafodaethau (Discussions).

Agor Trafodaeth

Cliciwch enw trafodaeth wedi’i graddio.

Dangos Cyfarwyddyd Sgorio

Dangos Cyfarwyddyd Sgorio

Cliciwch yr eicon Opsiynau [1] a dewis y ddolen Dangos Cyfarwyddyd Sgorio (Show Rubric) [2].

Nodwch: Os na fydd y ddolen Dangos Cyfarwyddyd Sgorio (Show Rubric) i’w weld, does dim cyfarwyddyd sgorio ar gyfer eich trafodaeth.

Dangos Cyfarwyddyd Sgorio yn Ailddylunio Trafodaethau

Dangos Cyfarwyddyd Sgorio yn Ailddylunio Trafodaethau

I weld y cyfarwyddyd sgorio yn Ailddylunio Trafodaethau, cliciwch yr eicon Opsiynau [1] a dewis y ddolen Dangos Cyfarwyddyd Sgorio (Show Rubric) [2].

Gweld Cyfarwyddyd Sgorio

Gweld Cyfarwyddyd Sgorio

Gallwch weld y cyfarwyddyd sgorio ar gyfer y drafodaeth wedi'i graddio.

Mae'r cyfarwyddyd sgorio yn cynnwys meini prawf [1], lefel sgôr [2], a gwerthoedd pwynt llawn [3]. Gall meini prawf cyfarwyddyd sgorio gynnwys hyd at bum lefel sgôr wahanol a gwerthoedd pwynt unigol.

Gweld Manylion Cyfarwyddyd Sgorio

Gweld Manylion Cyfarwyddyd Sgorio

Os bydd gan faen prawf ddisgrifiad hirach sydd â mwy o fanylion, cliciwch y ddolen gweld disgrifiad hirach (view longer description) [1].

Efallai y bydd y cyfarwyddyd sgorio hefyd yn cynnwys deilliant sy’n gysylltiedig â'r cwrs [2]. Mae deilliannau’n cael eu nodi gan faner fach, ac maent yn cael eu defnyddio i asesu’r nodwedd meistroli dysgu mewn cwrs. Mae'r deilliant yn dangos hefyd beth yw trothwy'r deilliant, neu nifer y pwyntiau y mae’n rhaid i chi eu cael i fodloni disgwyliadau. Gall eich addysgwr ganiatáu i chi weld canlyniadau’r deilliannau yng ngraddau eich cwrs.