Sut ydw i’n gweld Cydweithrediadau fel myfyriwr?
Os ydych chi wedi cael gwahoddiad i ymuno â chydweithrediad, gallwch weld y cydweithrediad yn Canvas. Mae modd gweld ffeiliau cydweithrediad hefyd ar eich cyfrif ar-lein ar gyfer math o gydweithrediad (OneDrive neu Google Drive, yn y drefn honno).
Os bydd eich sefydliad yn caniatáu, gallwch greu cydweithrediadau yn y cwrs. Bydd eich addysgwr bob amser yn gallu gweld unrhyw gydweithrediad rydych chi’n ei greu, ond dim ond cydweithrediadau sydd wedi cael eu rhannu â nhw y bydd myfyrwyr eraill yn gallu eu gweld. Os yw eich addysgwr wedi’ch ychwanegu at grŵp cwrs, gallwch greu cydweithrediadau mewn grŵp.
Gallwch ddewis cael hysbysiadau am gydweithrediadau yn eich gosodiadau ar gyfer hysbysiadau Canvas.
Nodyn: Yn dibynnu ar ddewisiadau eich sefydliad, mae’n bosib na fydd eich tudalen Cydweithrediadau yn cyfateb i’r delweddau sydd yn y wers hon. Ond, bydd y ffordd y mae'r dudalen yn gweithio yn aros yr un fath.
Agor Cydweithrediadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Cydweithrediadau (Collaborations).
Gweld Cydweithrediadau

Bydd y dudalen Cydweithrediadau yn dangos pob cydweithrediad lle cawsoch chi eich gwahodd i gymryd rhan. Ar gyfer pob cydweithrediad, mae modd gweld enw’r cydweithrediad [1], y disgrifiad [2], y person sydd wedi creu’r cydweithrediad [3], a dyddiad a'r amser y cafodd y cydweithrediad ei greu [4].
Ychwanegu Cydweithrediad

Os oes gennych chi hawl, mae’n bosib y bydd eich sefydliad yn caniatáu i chi greu cydweithrediadau yn eich cwrs.
I greu cydweithrediad newydd, cliciwch y botwm Dechrau cydweithrediad newydd (Start a new collaboration).
Yn dibynnu ar ddewisiadau’ch sefydliad, mae’n bosib y byddwch chi’n gallu creu cydweithrediad Google Drive neu greu cydweithrediad Microsoft Office 365.
Os nad yw eich tudalen cydweithrediadau yn cyfateb i’r ddelwedd yn y wers hon, byddwch chi’n dal yn gallu creu cydweithrediad Google Docs.
Agor Cydweithrediad

I agor cydweithrediad, cliciwch enw’r cydweithrediad.
Nodyn: Bydd y cydweithrediad yn agor mewn tab newydd. Mae’n bosib y gofynnir i chi fewngofnodi i weld y ffeil.