Sut ydw i’n defnyddio’r adran Ffeiliau (Files) fel myfyriwr?

Fel myfyriwr, mae’r adran Ffeiliau (Files) yn gadael i chi storio ffeiliau ac aseiniadau o fewn Canvas. Gallwch lwytho un neu fwy nag un ffeil i fyny, gweld holl fanylion eich ffeiliau, a gweld rhagolwg o ffeiliau. Oherwydd cynllun yr adran Ffeiliau (Files), mae’n gallu addasu i raddfa'r porwr. Mae ffenestr crwydro’r ffolder, ffeiliau, a hyd yn oed enwau ffeil yn addasu i led ffenestr y porwr.

Gwyliwch fideo am ffeiliau.

Mae’n bosib y bydd gennych chi fynediad at ffeiliau (dogfennau, delweddau, cyfryngau, ac ati) mewn tair ardal nodwedd wahanol:

  • Ffeiliau defnyddiwr, yn eich cyfrif defnyddiwr
  • Ffeiliau Cwrs, ym mhob cwrs rydych chi wedi ymrestru arnyn nhw (os yw eich addysgwr yn gadael i chi weld Ffeiliau Cwrs (Course Files))
  • Ffeiliau grŵp, ym mhob grŵp rydych chi'n aelod ohono.

Gweld Ffeiliau

Mae’r swyddogaethau sylfaenol o fewn yr adran Ffeiliau (Files) yr un fath yn lleoliad pob ffeil, ond gall rhai nodweddion fod yn wahanol yn dibynnu ar yr ardal nodwedd.

Er hwylustod mae’r panel ar y chwith [1] yn dangos pob ffolder. Bydd rhai ffolderi wedi’u lleoli o fewn ffolderi eraill. I ehangu pob ffolder, cliciwch y saethau drws nesaf i enw’r ffolder.

Pan fyddwch chi’n clicio enw ffolder, bydd holl gynnwys y ffolder rydych chi'n edrych arni i’w weld yn y panel ar y dde [2]. Gallwch hefyd glicio enw ffolderi yn y panel ar y dde i weld cynnwys ffolder.

Crwydro Penawdau Ffeiliau

Ar gyfer pob ffeil, gallwch weld enw'r ffeil [1], y dyddiad y cafodd y ffeil ei chreu [2], y dyddiad y cafodd y ffeil ei haddasu [3], enw’r person a addasodd y ffeil (os cafodd ei haddasu gan ddefnyddiwr arall) [4], a maint y ffeil [5].

Gallwch hefyd weld statws cyhoeddi [6] eich ffeiliau defnyddiwr.

Mae ffeiliau’n cael eu trefnu yn ôl yr wyddor. I drefnu ffeiliau, cliciwch enw pennawd unrhyw golofn.

Rheoli Ffeiliau

Yn dibynnu ar adran y ffeil, mae’n bosib y bydd ffeiliau’n cynnwys nifer o opsiynau i reoli ffeiliau:

Chwilio am ffeiliau (Search for files) [1]. Mae modd chwilio’r adran ffeiliau’n llawn gydag enw ffeil.

Ychwanegu ffolder [2]. Ychwanegwch ffolder newydd at yr adran Ffeiliau er mwyn storio ffeiliau. Mae modd i ffolderi gynnwys ffolderi eraill hefyd.

Llwytho ffeil i fyny [3]. Llwythwch ffeil i fyny i Ffeiliau.

Newid cyflwr y ffeil [4]. Mae modd cyhoeddi, dad-gyhoeddi neu gynnwys statws cyfyngedig ar ffeiliau.

Rheoli Ffeiliau wedi’u dewis

I ddewis ffeil, cliciwch enw’r ffeil. Gallwch hefyd ddewis mwy nag un ffeil ar y tro drwy ddal y fysell command (Mac) neu’r fysell control (PC).

Ar ôl i ffeil gael ei dewis, bydd yr adran Ffeiliau yn dangos y bar offer ffeiliau ar frig y ffenestr. Yn dibynnu ar adran y ffeiliau, mae’n bosib y bydd y bar offer yn cynnwys nifer o opsiynau i reoli ffeil(iau) sydd wedi’u dewis:

 Gallwch hefyd reoli rhai neu’r holl opsiynau ar gyfer ffeil benodol o fewn dewislen Opsiynau (Options) y ffeil [6].

Gweld Hawliau Defnyddio

Gweld Hawliau Defnyddio

Mae’n bosib y bydd Ffeiliau Cyrsiau (Course Files) a Ffeiliau Grwpiau (Group Files) yn dangos colofn ar gyfer hawliau defnyddio. Os yw hyn wedi’i roi ar waith, bydd y golofn yn dangos yr hawl defnyddio (hawlfraint) ar gyfer y ffeil [1]. Mae eicon rhybudd [2] i’w weld ar ffeiliau sydd ddim yn cynnwys hawliau defnyddio.

I newid hawl defnyddio ffeil mewn Ffeiliau Grwpiau (Group Files), cliciwch eicon hawl defnyddio y ffeil honno [3].