Sut ydw i’n gweld pob grŵp ar gwrs fel myfyriwr?
Gallwch ch weld unrhyw grwpiau y mae eich addysgwr wedi’ch ychwanegu chi atynt fel aelod, yn ogystal ag unrhyw grwpiau hunangofrestru yn eich cwrs.
Dysgwch sut i weld yn hawdd y grwpiau rydych chi wedi ymrestru arnynt.
Agor yr adnodd Pobl

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Pobl (People).
Gweld Grwpiau

Cliciwch y tab Grwpiau (Groups).

Gallwch gael mynediad at eich Grwpiau Defnyddwyr (User Groups) drwy’r ddewislen Gosodiadau (Settings) hefyd. Cliciwch yr eicon Opsiynau [1], a chliciwch y ddolen Gweld Grwpiau Defnyddwyr (View User Groups) [2].
Gweld Grwpiau Cwrs

Gweld y grwpiau sydd ar gael yn eich cwrs. Mae pob grŵp yn dangos enw’r grŵp yn ogystal â sawl aelod sy’n rhan o’r grŵp hwnnw.
Os oes yna unrhyw grwpiau hunangofrestru ar gael i ymuno â nhw, gallwch chi ymuno a’r grŵp drwy glicio’r ddolen ymuno (join) [1] neu gallwch chi newid grwpiau drwy glicio’r ddolen newid i (switch to)[2].
Os ydych chi eisoes yn rhan o grŵp hunangofrestru, gallwch chi adael y grŵp drwy glicio’r ddolen gadael (leave) [3].
Nodyn: Does dim modd i chi adael grwpiau sydd ddim yn grwpiau hunangofrestru.
Gweld Grwpiau Arweinydd Myfyrwyr

Os ydych chi wedi cael eich gwahodd i fod yn arweinydd myfyrwyr a rheoli grŵp, bydd y ddolen Rheoli (Manage) yn ymddangos wrth enw’r grŵp
Gweld Aelodau’r Grŵp

I weld pa fyfyrwyr sydd wedi’u neilltuo i’r grŵp, cliciwch enw’r grŵp [1]. Bydd enwau’r myfyrwyr yn ymddangos mewn rhestr wedi’i ehangu [2].