Sut ydw i’n defnyddio Tudalen Hafan y Cwrs fel myfyriwr?

Os ydych chi wedi ymrestru ar gwrs fel myfyriwr, yna mae Tudalen Hafan y Cwrs yn eich helpu chi i weld gwahanol rannau o’r cwrs a rheoli eich gwaith cwrs. Mae’r Ddewislen Crwydro’r Cwrs wastad yn weladwy ar ei thudalennau cyfatebol.

Note: Efallai y bydd eich addysgwr yn penderfynu defnyddio ffont wahanol ar gyfer eich cyrsiau.

Agor Cwrs

Agor Cwrs

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch enw’r cwrs [2].

Gweld Tudalen Hafan y Cwrs

Mae Tudalen Hafan y Cwrs yn cynnwys y ddewislen Crwydro'r Cwrs [1], yr ardal cynnwys [2] a’r bar ochr [3].

Gweld y ddewislen Crwydro'r Cwrs

Gweld y ddewislen Crwydro'r Cwrs

Caiff Tudalen Hafan y Cwrs ei gweld drwy ddolen Hafan (Home) y Ddewislen Crwydro'r Cwrs.

Mae'r ddewislen Crwydro'r Cwrs yn cynnwys dolenni sy’n eich helpu chi a’ch myfyrwyr i fynd i leoliadau penodol yn y cwrs. Mae modd i addysgwyr addasu pa ddolenni sy’n cael eu dangos mewn cwrs, felly os nad ydych yn gweld dolenni sydd i’w gweld mewn cyrsiau eraill, yna mae eich addysgwr wedi cuddio’r dolenni hynny rhagddo chi.

Mae dolen weithredol y dudalen rydych chi’n edrych arni wedi'i hamlygu â lliw testun gwahanol a dangosydd llinell. Mae hyn yn eich helpu i adnabod yr ardal nodwedd rydych chi’n edrych arni ar hyn o bryd yn Canvas.

Mae’n bosib y byddwch chi hefyd yn gweld dangosyddion cwrs [2] sy’n dangos diweddariadau i’ch graddau ar y cwrs pan fydd eich addysgwr yn graddio eich aseiniadau.

Crebachu’r Ddewislen Crwydro'r Cwrs

Crebachu’r Ddewislen Crwydro'r Cwrs

I ehangu neu grebachu'r Ddewislen Crwydro'r Cwrs, cliciwch yr eicon Dewislen. Pan fyddwch chi’n dewis ehangu neu grebachu’r ddewislen crwydro'r safle cyfan, bydd eich dewis yn cael ei osod ar bob un o’ch cyrsiau.

Gweld Ardal Cynnwys

Gweld Ardal Cynnwys

Mae cynnwys y Dudalen Hafan (a holl gynnwys Canvas) yn ymddangos yn yr ardal cynnwys.

Gall y cynnwys fod yn dudalen, maes llafur, trafodaethau, cyhoeddiadau, cwisiau, neu gynnwys wedi’i fewngludo [1]. Mae’r cynnwys hefyd yn gallu dangos Ffrwd Gweithgarwch y Cwrs, sef rhestr o’r holl weithgarwch diweddar ar y cwrs. Mae’n bosib y bydd eich Tudalen Hafan yn dangos cyhoeddiadau diweddar ar frig y dudalen hefyd [2].

Mae cynnwys y Dudalen Hafan hefyd yn diffinio pa adrannau sy'n ymddangos yn y bar ochr.

Gweld Briwsion Bara

Gweld Briwsion Bara

Mae briwsion bara yn ymddangos uwchben ardal cynnwys y cwrs.  

Wrth i chi edrych ar gynnwys cwrs, mae’r briwsion bara yn gadael llwybr ar eu hôl i ddangos lle rydych chi yn y cwrs. Gallwch chi ddilyn y dolenni hyn am yn ôl i fynd i gynnwys blaenorol.

Note: Os ydych chi wedi creu enw byr ar gyfer cwrs, mae’r briwsion bara’r dangos yr enw byr i nodi’r cwrs. Neu, bydd y briwsion bara’n dangos cod y cwrs.

Gweld Bar Ochr

Gweld Bar Ochr

Mae’r bar ochr yn gweithredu yn yr un ffordd â bar ochr y Dangosfwrdd ond ei fod yn dangos cynnwys ar gyfer y cwrs penodol yn unig ac yn cynnwys opsiynau ychwanegol.

Os yw Tudalen Hafan eich Cwrs yn dangos tudalen arall ar wahân i Ffrwd Gweithgarwch Cwrs (Course Activity Stream), mae modd gweld ffrwd gweithgarwch cwrs drwy glicio’r botwm Gweld Ffrwd Cwrs (View Course Stream) yn y bar ochr [1]. Ar ôl i'r Dudalen Hafan gael ei gosod fel Ffrwd Gweithgarwch Cwrs (Course Activity Stream), ni fydd y botwm hwn yn ymddangos.

Os ydych chi wedi cael eich ychwanegu at grŵp yn eich cwrs, yna mae’r adran Grŵp Cwrs (Course Group) [2] yn cynnwys dolenni i’ch grwpiau cwrs.

Gweld Adrannau’r Bar Ochr

Gweld Adrannau’r Bar Ochr

Mae’r bar ochr wastad yn dangos yr adran Tasgau i’w Gwneud [1], sy’n dangos pob cyhoeddiad diweddar a hyd at saith aseiniad gyda dyddiad erbyn yn yr wythnosau nesaf, gan gynnwys cwisiau heb eu graddio ac aseiniadau nad oes angen eu cyflwyno ar-lein. Mae pob eitem yn y rhestr Tasgau i’w Gwneud (To Do) yn dangos enw’r aseiniad, nifer y pwyntiau a'r dyddiad erbyn ar gyfer yr aseiniad. Ar ôl i’r dyddiad erbyn fynd heibio, mae eitemau yn aros yn yr adran hon am bedair wythnos.

Gall y bar ochr hefyd gynnwys amrywiaeth o adrannau eraill, gan ddibynnu ar y cynllun y mae eich addysgwr yn ei osod ar gyfer Tudalen Hafan y Cwrs. Mae opsiynau bar ochr eraill yn cynnwys y rhestr Aseiniadau, Calendr a Grwpiau Aseiniadau ac Adborth Diweddar.

Rheoli Eitemau Bar Ochr

Rheoli Eitemau Bar Ochr

Mae pob eicon adran yn dangos eicon [1] i wahaniaethu rhwng aseiniadau ac aseiniadau sy’n cael eu hadolygu gan gyd-fyfyrwyr.

Os yw adran yn cynnwys mwy o eitemau nag sydd wedi’u rhestru, bydd dolen yn ymddangos o dan y rhestr a bydd modd ei defnyddio i weld eitemau ychwanegol [2].

Mae’r adran Tasgau i’w Gwneud yn dangos hyd at saith eitem sydd â dyddiadau erbyn yn yr wythnosau nesaf. I weld rhagor o eitemau, rhaid i chi dynnu eitemau o'r rhestr eich hun. I gael gwared ag eitem ar y rhestr Tasgau i’w Gwneud, cliciwch yr eicon tynnu [3].

Note: Mae aseiniadau wedi’u cyflwyno drwy Canvas yn diflannu’n awtomatig o’r rhestr Tasgau i’w Gwneud (To Do); yr unig ffordd o dynnu aseiniadau sydd ddim angen eu cyflwyno (cyflwyno ar bapur/yn y dosbarth) yw gwneud hynny eich hun.