Gallwch gyflwyno aseiniadau ar-lein yn Canvas gan ddefnyddio sawl math o gyflwyniad. Mae modd i addysgwyr ddewis pa fath o gyflwyniadau ar-lein y maen nhw am eu defnyddio. Hefyd, mae’n bosib y bydd gennych chi’r opsiwn i ailgyflwyno aseiniadau os yw eich addysgwr yn caniatáu hyn.
Bydd unrhyw atodiadau sy’n cael eu hychwanegu fel rhan o’r broses o gyflwyno'r aseiniad wedi'i raddio yn cael eu copïo hefyd i’ch ffeiliau defnyddiwr ond fyddan nhw ddim yn cael eu cyfrif yn erbyn eich cwota defnyddiwr. Ond, ar ôl llwytho'r ffeil i fyny fel cyflwyniad, does dim modd i chi ddileu’r ffeil. Mae ffeiliau’n cael eu storio yn y ffolder Cyflwyniadau (Submissions).
Cyn cyflwyno aseiniad, efallai yr hoffech chi fwrw golwg dros holl wybodaeth yr aseiniad, fel cyfarwyddyd sgorio’r aseiniad, os oes un.
Mae’r wers hon yn dangos sut i gyflwyno aseiniad ar-lein safonol. Gallwch ddysgu sut i gyflwyno aseiniad adolygiad gan gyd-fyfyrwyr.
Cyflwyniadau ar raglenni Ceisiadau Ffeiliau Trydydd Parti (Third-Party File Application Submissions)
Gallwch gyflwyno aseiniadau o Google Drive, Dropbox, neu wasanaeth trydydd parti arall gan ddefnyddio eich cyfrifiadur desg, a hynny mewn un o ddwy ffordd:
Cyflwyniadau ar Ddyfeisiau Symudol (Mobile Submissions)
Gallwch hefyd gyflwyno aseiniadau gan ddefnyddio eich dyfais Android neu iOS.
Nodiadau:
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).
Nodyn: Gallwch gael mynediad at eich Aseiniadau hefyd drwy eich dangosfwrdd defnyddiwr neu gwrs, y Maes Llafur, Llyfr Graddau, Calendr, neu Fodiwlau.
Cliciwch enw aseiniad.
I gyflwyno aseiniad, cliciwch y botwm Dechrau Aseiniad (Start Assignment).
Nodyn: Os na allwch chi weld y botwm Dechrau Aseiniad, yna efallai nad yw eich addysgwr am i chi gyflwyno eich aseiniad ar-lein neu fod y dyddiad ar gael wedi mynd heibio. Ewch i weld y disgrifiad o'r aseiniad i gael cyfarwyddiadau, neu cysylltwch â'ch addysgwr i gael help.
Efallai y bydd eich addysgwr yn cyfyngu ar sawl ymgais y cewch chi i gyflwyno eich aseiniad. Os oes gan eich aseiniad nifer cyfyngedig o gyflwyniadau, gallwch chi weld sawl ymgais rydych chi wedi’i chael [1] a sawl ymgais a ganiateir ar gyfer yr aseiniad [2].
Ar ôl i chi ddefnyddio eich ymgeisiau cyflwyno i gyd, bydd y botwm Cais Newydd (New Attempt) yn cael ei analluogi [3].
Efallai y bydd baner yn ymddangos uwchben eich aseiniad i dangos bod eich addysgwr wedi tynnu’r aseiniad o gyfrifiadau'r radd gyflawn. Fodd bynnag, dydy’r gosodiad hwn ddim yn effeithio ar aseiniadau sy’n cael eu cyflwyno.
Bydd eich addysgwr yn penderfynu pa fath o gyflwyniadau sy’n briodol ar gyfer pob Aseiniad. Mae pedwar math o gyflwyniad: llwytho ffeil i fyny, cyflwyno cofnod testun, rhoi URL gwefan, neu gyflwyno cyfryngau. Dim ond un math o gyflwyniad y gallwch chi ei ddewis am bob cyflwyniad.
Nodyn: Mae’ bosib na fydd pob math o ffeil ar gael ar gyfer eich Aseiniad, yn dibynnu ar y math o aseiniad sydd wedi’i osod gan eich addysgwr.
I gyflwyno dogfen wedi’i anodi, cliciwch y tab Anodiad gan Fyfyriwr (Student Annotation).
Nodyn: Dydy aseiniadau grŵp ddim yn gallu delio â’r math o gyflwyniad anodiad gan fyfyriwr.
I lwytho ffeil i fyny o’ch cyfrifiadur neu dynnu llun gan ddefnyddio eich gwe-gamera a'u cyflwyno fel eich aseiniad, dewiswch y tab Llwytho Ffeil i Fyny (File Upload).
I gyflwyno aseiniad cofnod testun, dewiswch y tab Cofnod Testun (Text Entry).
Nodyn: Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog ar gyfer aseiniad yn dangos cyfrif geiriau o dan gornel dde isaf y blwch testun.
I gyflwyno recordiad ar gyfryngau, dewiswch y tab Cyfryngau (Media).
Pan fyddwch chi’n barod i gyflwyno eich aseiniad, cliciwch y botwm Cyflwyno Aseiniad (Submit Assignment).
Nodyn: Mae ffeiliau mawr sy’n cael eu cyflwyno’n defnyddio’r tab Llwytho Ffeil i Fyny yn dangos dangosydd statws cyflwyno.
Ar ôl i chi gyflwyno eich gwaith, byddwch yn gweld gwybodaeth am eich cyflwyniad yn y Bar Ochr [1]. Ar gyfer ffeiliau wedi’u llwytho i fyny, mae’r bar ochr yn darparu dolen i'ch cyflwyniad er mwyn ei lwytho i lawr os oes angen.
Os hoffech chi, gallwch ailgyflwyno fersiwn arall o'ch aseiniad gan ddefnyddio’r botwm Ymgais Newydd (New Attempt) [2]. Dim ond manylion eich cyflwyniad diwethaf fyddwch chi’n gallu eu gweld yn y Bar Ochr, ond bydd eich addysgwr yn gallu gweld pob un o'ch cyflwyniadau.
Ar ôl i’r addysgwr raddio eich cyflwyniad, bydd y ddolen Graddau yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs yn dangos dangosydd graddio.
Hefyd, gallwch weld manylion am eich aseiniad a dolenni at adborth ychwanegol yn eich tudalen Graddau (Grades).
Nodiadau: