Sut ydw i’n gweld Mynegai Cyrsiau Cyhoeddus fy sefydliad fel myfyriwr?
Mae'r Mynegai Cyrsiau Cyhoeddus yn gadael i bob defnyddiwr mewn sefydliad weld mynegai cyrsiau'r sefydliad ar fformat catalog. Gallwch weld dolen i'r Mynegai Cyrsiau Cyhoeddus ar y dudalen Fy Nghyrsiau.
Nodyn: Ar hyn o bryd mae'r Mynegai Cyrsiau Cyhoeddus yn nodwedd optio i mewn ar gyfer cyfrif. Os nad ydych chi’n gweld y ddolen cyrsiau, nid yw eich sefydliad wedi galluogi’r nodwedd hon.
Agor Cyrsiau
![Agor Cyrsiau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/007/950/749/original/4501da63-1900-4c2f-ba37-e196bfeeaa8c.png)
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch y ddolen Pob Cwrs (All Courses) [2].
Pori drwy fwy o gyrsiau
Yn y bar ochr Fy Nghyrsiau, cliciwch y ddolen Pori drwy fwy o gyrsiau (Browse More Courses).
Gweld Pob Cwrs
![Gweld Pob Cwrs](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/755/827/original/5c97fd38-1375-4205-b212-9cfed666d9b5.png)
Gallwch weld pob cwrs sydd wedi'i gynnwys yn y mynegai cyrsiau cyhoeddus, gyda'r cyrsiau diweddaraf yn cael eu dangos yn gyntaf.
Gallwch weld enw'r cwrs [1] a disgrifiad, os oes un o gwbl [2].
Chwilio am Gyrsiau
![Chwilio am Gyrsiau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/755/831/original/492488aa-63f7-4b3f-ba39-480ccd5b4f38.png)
Gallwch chwilio am gyrsiau mewn nifer o wahanol ffyrdd. Yn y maes Enw [1], gallwch deipio enw'r cwrs.
Gallwch hefyd chwilio am gyrsiau yn ôl statws. Os ydych chi am weld cyrsiau cyhoeddus yn unig, ticiwch y blwch Cyrsiau cyhoeddus yn unig (Public courses only) [2]. Os ydych chi am weld cyrsiau ymrestriad agored yn unig, ticiwch y v blwch Cyrsiau ymrestriad agored yn unig (Open enrollment courses only) [3]. Mae cyrsiau ymrestriad agored yn gyrsiau y gallwch ymuno â nhw ar unrhyw adeg.
Ar ôl i chi orffen dewis eich opsiynau chilio, cliciwch y botwm Chwilio (Search) [4].
Gweld Cwrs
![Gweld Cwrs](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/755/829/original/ac2ec557-89ba-4f35-abce-2e14e8b55cb2.png)
I weld cwrs, cliciwch enw’r cwrs [1]. Os yw cwrs yn gadael i fyfyrwyr hunan-ymrestru, gallwch ymuno â'r cwrs ar unrhyw adeg trwy glicio'r botwm Ymuno â’r Cwrs hwn (Join this Course) [2]. Ond, gallwch weld y cwrs i ddechrau ac ymrestru ar dudalen hafan y cwrs.