Sut ydw i’n addasu fy rhestr Cyrsiau fel myfyriwr?

Pan fyddwch chi wedi ymrestru ar gyfer mwy nag un cwrs Canvas, gallwch addasu’r cyrsiau gweithredol rydych chi am eu dangos yn y rhestr Cyrsiau. Hoff gyrsiau yw'r term a roddir ar y cyrsiau rydych chi eisiau eu dangos yn y gwymplen Cyrsiau. Gall unrhyw gwrs sydd wedi’i gyhoeddi ac yn ymddangos yn yr adran Fy Nghyrsiau ar y dudalen rhestr o gyrsiau gael ei osod fel hoff gwrs. Mae hoff gyrsiau hefyd yn ymddangos ar y Dangosfwrdd Gwedd Cerdyn.

Pan nad oes cwrs wedi’i nodi’n ffefryn, bydd y rhestr o gyrsiau yn dangos hyd at 20 o gyrsiau yn awtomatig yn nhrefn yr wyddor yn y gwymplen. Fodd bynnag, ar ôl i chi ddewis o leiaf un cwrs fel ffefryn, dim ond eich hoff gyrsiau fydd yn ymddangos ar y rhestr Cyrsiau.

Nodyn: Caiff cyrsiau eu rhestru yn nhrefn yr wyddor bob amser; ni allwch newid trefn eich cyrsiau.

Agor Cyrsiau

Agor Cyrsiau

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch y ddolen Pob Cwrs (All Courses) [2].

Rheoli Cyrsiau

I nodi cwrs fel ffefryn, cliciwch y seren wrth enw’r cwrs [1]. Mae cyrsiau sydd â sêr wedi’u llenwi yn dangos bod y cwrs yn ffefryn [2].

Nodiadau:

  • Ar ôl i chi wneud o leiaf un cwrs yn ffefryn, bydd Canvas yn gwneud unrhyw gwrs wedi’i gyhoeddi rydych chi newydd ymrestru ar ei gyfer yn ffefryn.
  • Dim ond cyrsiau gweithredol y gallwch chi eu hoffi.

Gweld Cyrsiau sydd heb eu Cyhoeddi

Gweld Cyrsiau sydd heb eu Cyhoeddi

Os yw cwrs heb ei gyhoeddi a bod gennych chi ganiatâd i weld cyrsiau sydd heb eu cyhoeddi cyn dyddiadau cyfranogiad y cwrs, ni allwch wneud y cwrs yn ffefryn. Os byddwch chi’n hofran dros eicon seren ar gyfer cwrs sydd heb ei gyhoeddi, efallai y gwelwch neges sy’n nodi na allwch chi ychwanegu'r cwrs hwnnw fel ffefryn.

Does dim modd nodi ymrestriadau blaenorol ac ymrestriadau yn y dyfodol fel ffefrynnau.

Gweld Ymrestriadau Blaenorol

Yn ddibynnol ar ffurfweddiad cyrsiau, efallai y byddwch yn dal yn gallu gweld eich ymrestriadau blaenorol ar ôl i gyrsiau ddirwyn i ben. Fodd bynnag, dydy cyrsiau ddim yn cael eu tynnu o’r ffefrynnau yn awtomatig. Os yw cwrs blaenorol yn dal yn ymddangos fel ffefryn, gallwch chi dynnu’r cwrs o’ch ffefrynnau drwy doglo’r eicon seren.