Sut ydw i’n recordio cyfryngau gan ddefnyddio'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel myfyriwr?

Gallwch ddefnyddio'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i recordio cyfryngau fideo a sain. Gallwch recordio cyfryngau am unrhyw hyd, ond fe argymhellir recordiadau cyfryngau byrrach. Os yw eich cyfryngau yn hirach na 15 munud, efallai yr hoffech chi ystyried recordio fideo a’i lwytho i fyny gan ddefnyddio darparwr allanol. Mae angen mwy o amser i rendro recordiadau cyfryngau hirach, ac os nad oes gennych gysylltiad sefydlog â'r rhyngrwyd, gall hynny darfu ar y broses.

Mae sawl nodwedd yn Canvas yn cefnogi’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gan gynnwys Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau, a Chwisiau.

Mae fideos Canvas hefyd yn gallu delio â ffeiliau capsiwn. Ar ôl i chi recordio eich fideo a’i gadw, gallwch ddysgu sut mae ychwanegu capsiynau at fideo.

Nodiadau: 

  • Dydy’r porwr Safari ddim yn gallu delio â recordio cyfryngau. Defnyddiwch Chrome neu Firefox i recordio cyfryngau o’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
  • Mae cyfryngau sydd wedi’i recordio yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cael eu cadw yn eich Ffeiliau Defnyddiwr neu Ffeiliau Grŵp, yn dibynnu ar le y caiff ei gofnodi. Os bydd cyfryngau’n cael eu recordio ar gyfer cyflwyniad aseiniad, bydd y ffeil cyfryngau’n cael ei storio yn eich Ffeiliau Defnyddiwr.

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog wrth ddefnyddio un o nodweddion Canvas sy’n gallu delio â’r Golygydd. Mae sawl nodwedd yn Canvas yn cefnogi’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gan gynnwys Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau, a Chwisiau.

Nodyn: Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cefnogi bysellau hwylus. I weld y ddewislen Bysellau Hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd neu bwyso ALT+F8 (Bysellfwrdd PC) neu Option+F8 (Bysellfwrdd Mac).

Recordio Cyfryngau o’r Bar Offer

Recordio Cyfryngau o’r Bar Offer

I lwytho cyfryngau i fyny o’r bar offer, cliciwch yr eicon Cyfryngau [1]. O’r gwymplen, dewiswch yr opsiwn Llwytho i Fyny/Recordio Cyfryngau (Upload/Record Media) [2].

I weld yr eicon Cyfryngau, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau icon [3].

Nodyn: Os nad yw’r eicon Cyfryngau i’w weld yn y bar offer, mae llwytho cyfryngau i fyny wedi cael ei analluogi gan eich sefydliad.

Recordio Cyfryngau o’r Bar Dewislen

Recordio Cyfryngau o’r Bar Dewislen

Cliciwch y ddolen Mewnosod (Insert) [1]. Crwydrwch i weld yr opsiynau Cyfryngau (Media) [2], a dewiswch yr opsiwn Recordio Cyfryngau/Llwytho Cyfryngau i Fyny (Record/Upload Media) [3].

Agor yr Adnodd Recordio Cyfryngau

Cliciwch y tab Recordio (Record).

Dewis Opsiynau Meicroffon a Gwe-gamera

Dewis Opsiynau Meicroffon a Gwe-gamera

Mae’r recordydd ar gyfryngau yn cysylltu â meicroffon a gwe-gamera diofyn eich cyfrifiadur.

I newid gosodiadau eich meicroffon, cliciwch y botwm Meicroffon (Mic) [1]. Yna dewiswch o’r opsiynau sy’n ymddangos [2].

I newid gosodiadau eich gwe-gamera, cliciwch y botwm Gwe-gamera (Webcam) [3]. I analluogi recordio fideo, dewiswch yr opsiwn Dim Fideo (No Video) [4].

Recordio Cyfryngau

Recordio Cyfryngau

Cliciwch y botwm Dechrau Recordio (Start Recording).

Gorffen Recordio Cyfryngau

Mae’r recordydd ar gyfryngau yn dangos hyd eich recordiad presennol [1].

I ailddechrau eich recordiad, cliciwch y botwm Dechrau eto (Start Over) [2].

I orffen recordio, cliciwch y botwm Gorffen (Finish) [3].

Gweld Rhagolwg o’r Cyfryngau wedi Recordio

Gweld Rhagolwg o’r Cyfryngau wedi Recordio

Gweld rhagolwg o'r cyfryngau sydd wedi recordio ar y recordydd ar gyfryngau [1].

I roi teitl ar eich cyfryngau, teipiwch yn y maes Teitl (Title) [2].

I blannu eich cyfryngau yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, cliciwch y botwm Cadw (Save) [3].

Gweld Cyfryngau wedi Plannu

Gweld Cyfryngau wedi Plannu

Gweld eich ffeil cyfryngau wedi’u llwytho i fyny yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.

Cadw Newidiadau

Cadw Newidiadau

Cliciwch y botwm Cadw (Save).

Nodyn: Pan fyddwch yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn y nodwedd Trafodaethau, efallai y bydd y botwm Cadw (Save) yn ymddangos fel botwm Postio Ymateb (Post Reply).

Gweld Cynnwys

Gweld Cynnwys

Gweld y cynnwys sydd wedi’i greu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.