Sut ydw i’n defnyddio DocViewer mewn aseiniadau Canvas fel myfyriwr?

Mae DocViewer Canvas yn adnodd sy'n eich galluogi i gynnwys nodiadau ar aseiniadau sydd wedi eu cyflwyno ar-lein yn Canvas. Gallwch ddefnyddio DocViewer i weld adborth ag anodiadau yn yr adran manylion am aseiniad yn y bar ochr, a gyflwynwyd gan eich addysgwr neu gan fyfyrwyr eraill mewn aseiniadau sydd wedi’u hadolygu gan gyd-fyfyrwyr.

Mae gan DocViewer gyfyngiad o 10 awr ar sesiynau, a fydd yn dechrau pan fyddwch chi’n agor cyflwyniad. Os ydych chi’n dechrau gwneud anodiad ond nad ydych chi’n ei gyflwyno cyn i’r sesiwn ddod i ben, ni fydd yr anodiad yn cael ei gadw. Nid yw'r cyfyngiad ar y sesiwn yn effeithio ar anodiadau sydd wedi eu cadw. Ar ôl 9 awr a 50 munud, bydd Canvas yn dangos rhybudd yn nodi bod y sesiwn ar fin dod i ben, yna rhoddir rhybudd 5 munud a rhybudd 1 munud nes bod y cyfyngiad o 10 awr wedi dod i ben. Gallwch ailddechrau sesiwn yn DocViewer unrhyw bryd drwy adnewyddu'r dudalen cyflwyno.

Os yw eich porwr yn cynnwys dangosydd PDF yn barod, dewiswch yr opsiwn i weld y PDF yn nangosydd y system.

Ffeiliau DocViewer Cydnaws (Compatible DocViewer Files)

Os yw cyflwyniad yn cynnwys ffeil y mae modd ei rendro yn DocViewer ond nad yw rhagolwg o’r cyflwyniad wedi’i gwblhau eto, bydd Canvas yn creu neges yn nodi bod y ddogfen wrthi’n cael ei phrosesu.

Sylwch:

  • Os nad oes modd i chi anodi dogfen yn DocViewer, efallai fod eich sefydliad wedi rhwystro’r nodwedd hon.
  • Ni fydd ffeiliau dros 100 MB a ffeiliau sy'n cael eu diogelu gan gyfrinair yn cael eu newid yn DocViewer.
  • Mae modd gweld anodiadau DocViewer yn ap Myfyrwyr Canvas.
  • Gall eich addysgwr ddileu unrhyw sylw neu anodiad ar unrhyw adeg.
  • Os yw eich addysgwr yn graddio aseiniad yn ddienw, ni fydd anodiadau yn DocViewer ar gael nes i’r aseiniad gael ei ddad-dewi.

Gweld DocViewer

I gael mynediad at DocViewer, edrychwch ar adborth eich addysgwr neu adborth adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr ar dudalen manylion yr aseiniad. Mae’r ddolen Gweld adborth yn cynnwys dangosydd os oes sylwadau wedi’u hannodi wedi cael eu hychwanegu at aseiniad y mae modd delio ag ef.

Gweld Bar Offer DocViewer

Gweld Bar Offer DocViewer

Mae Bar Offer DocViewer yn eich helpu chi i reoli cyflwyniad yr aseiniad.

I lwytho PDF o’r cyflwyniad sydd wedi’i anodi i lawr, cliciwch y botwm Llwytho i Lawr (Download) [1].

Os oes mwy nag un dudalen, bydd y maes Rhif tudalen (Page number) [2] yn gadael i chi symud ymlaen drwy'r cyflwyniad i ddod o hyd i’r dudalen rydych chi am wneud anodiadau arni. I fynd i dudalen arall, rhowch rif y dudalen yn y maes Tudalen. Gallwch ddefnyddio'r eiconau saethau [3] i symud ymlaen drwy’r cyflwyniad.

I nesáu a phellhau yn y cyflwyniad, defnyddiwch y botymau Nesáu/Pellhau (Zoom) [4].

I weld y cyflwyniad mewn sgrin lawn, cliciwch y botwm Sgrin Lawn (Full Screen) [5].

I anodi’r cyflwyniad, defnyddiwch yr adnoddau anodiadau [6].

Sylwch: Os nad oes modd i chi ddefnyddio’r adnoddau anodi yn DocViewer, efallai fod eich sefydliad wedi rhwystro’r nodwedd hon.

Ychwanegu Anodiad Pwyntio

I adael anodiad pwyntio, dewiswch yr anodiad Pwyntio [1].

Dewiswch liw ar gyfer yr anodiad pwyntio yn y panel lliwiau [2].

Cliciwch yr ardal dan sylw yn y cyflwyniad [3]. Bydd yr anodiad pwyntio yn ymddangos i nodi lleoliad yr anodiad. I ychwanegu sylw at yr anodiad pwyntio, teipiwch y sylw yn y maesGwneud Sylw (Comment) [4]. I ddechrau llinell newydd yn eich sylw, cliciwch y bysellau Shift+Enter/Return. I gyflwyno eich sylw, cliciwch y fysell Enter/Return.

Gallwch ymateb i sylwadau yn DocViewer drwy glicio’r botwm Ymateb [5].

I symud yr anodiad, dylech hofran dros eicon yr anodiad pwyntio yn y ddogfen. Cliciwch yr anodiad a’i lusgo i’r ardal newydd.

I ddileu anodiad pwyntio a sylwadau, cliciwch yr anodiad ac yna cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [6]. Bydd DocViewer yn cadarnhau eich bod chi am ddileu’r anodiad.

I ddileu anodiad a’i ymatebion, cliciwch yr eicon Dileu (Delete) sylw [7]. Bydd DocViewer yn cadarnhau eich bod chi am ddileu’r anodiad a’i ymatebion.

Ychwanegu Anodiad Amlygu

I amlygu testun yn y ddogfen, dewiswch Amlygu fel math o anodiad [1].  

Dewiswch liw ar gyfer yr anodiad amlygu yn y panel lliwiau [2].

Gallwch glicio a llusgo i amlygu testun yn y cyflwyniad [3].

I ychwanegu sylw at yr anodiad amlygu, cliciwch y botwm Gwneud Sylw (Comment) [4]. I ddechrau llinell newydd yn eich sylw, cliciwch y bysellau Shift+Enter/Return. I gyflwyno eich sylw, cliciwch y fysell Enter/Return.

I ddileu anodiad amlygu, cliciwch yr ardal sydd wedi ei hamlygu ac yna cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [5]. Bydd DocViewer yn cadarnhau eich bod chi am ddileu'r amlygiad. Drwy ddileu anodiad, byddwch chi hefyd yn dileu unrhyw sylwadau cysylltiedig.

Ychwanegu Anodiad Testun

I ychwanegu testun yn uniongyrchol yn y cyflwyniad, dewiswch yr anodiad Testun Rhydd (Free text) [1].

Dewiswch liw ar gyfer yr anodiad testun yn y panel lliwiau [2].

Dewiswch gefndir gwyn neu dryloyw ar gyfer yr anodiad testun [3] yn ogystal â maint ffont ar gyfer yr anodiad [4].

Cliciwch yr ardal dan sylw yn y cyflwyniad, yna teipiwch eich cofnod [5]. I ddechrau llinell newydd yn eich sylw, cliciwch y bysellau Shift+Enter/Return.

I symud yr anodiad, dylech hofran dros y blwch testun yn y ddogfen. Cliciwch yr anodiad a’i lusgo i’r ardal newydd.

I ddileu’r anodiad testun, cliciwch y blwch testun ac yna cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [6]. Bydd DocViewer yn cadarnhau eich bod chi am ddileu'r blwch testun.

Ychwanegu Anodiad Testun Diddymu

I nodi y dylid dileu testun, dewiswch yr anodiad Diddymu (Strikeout) [1].

Dewiswch liw ar gyfer y llinell diddymu yn y panel lliwiau [2].

Cliciwch a llusgo er mwyn diddymu yn y cyflwyniad. Bydd llinell yn ymddangos i nodi bod y testun wedi cael ei ddiddymu [3].

I ychwanegu sylw at yr anodiad diddymu, cliciwch y botwm Gwneud Sylw (Comment) [4]. I ddechrau llinell newydd yn eich sylw, cliciwch y bysellau Shift+Enter/Return. I gyflwyno eich sylw, cliciwch y fysell Enter/Return.

I ddileu anodiad diddymu, cliciwch yr ardal sy’n cael ei diddymu ac yna cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [5]. Bydd DocViewer yn cadarnhau eich bod chi am ddileu'r llinell diddymu. Drwy ddileu anodiad, byddwch chi hefyd yn dileu unrhyw sylwadau cysylltiedig.

Ychwanegu Anodiad Llunio

I wneud anodiadau a lluniadau rhydd, dewiswch yr anodiad Llunio Rhydd [1].

Dewiswch liw ar gyfer yr anodiad llunio yn y panel lliwiau [2].

Dewiswch led llinell eich anodiad o’r panel lled llinell [3].

Cliciwch a llusgo i ddechrau llunio. Bydd llinellau rhydd yn nodi’r ardal llunio [4]. Gallwch ychwanegu mwy nag un llinell at anodiad llunio.

I ychwanegu sylw at yr anodiad sydd wedi’i lunio, cliciwch y botwm Gwneud Sylw (Comment) [5]. I ddechrau llinell newydd yn eich sylw, cliciwch y bysellau Shift+Enter/Return. I gyflwyno eich sylw, cliciwch y fysell Enter/Return.  

I dderbyn anodiad sydd wedi’i lunio, cliciwch yr eicon Tic (Check) [6].

I symud lluniad, mae angen i chi hofran dros y lluniad, yna llusgo a gollwng y lluniad yn yr ardal newydd o’r ddogfen.

I ddileu lluniad unrhyw bryd, cliciwch y lluniad ac yna cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [7]. Bydd DocViewer yn cadarnhau eich bod chi am ddileu'r lluniad. Drwy ddileu anodiad, byddwch hefyd yn dileu unrhyw sylwadau cysylltiedig.

Sylwch: Ni all anodiadau llunio gael mwy nag un lled llinell ym mhob anodiad. Rhaid i anodiadau unigol gael eu cadw cyn creu llinell newydd gyda lled gwahanol.

Ychwanegu Anodiad Ardal

I adael anodiad ardal, dewiswch yr anodiad Ardal [1].

Dewiswch liw ar gyfer yr anodiad ardal yn y panel lliwiau [2].

Dylech glicio a llusgo’r petryal o amgylch ardal o’r cyflwyniad [3]. Bydd blwch yn ymddangos gan nodi ardal yr anodiad.

I ychwanegu sylw at yr anodiad ardal, teipiwch y sylw yn y maes Gwneud Sylw (Comment) [4]. I ddechrau llinell newydd yn eich sylw, cliciwch y bysellau Shift+Enter/Return. I gyflwyno eich sylw, cliciwch y fysell Enter/Return.

Gallwch ymateb i sylwadau yn DocViewer drwy glicio’r botwm Ymateb [5].

I symud yr anodiad, mae angen i chi hofran dros y border. Cliciwch yr anodiad a'i lusgo i’r ardal newydd yn y ddogfen.

I ddileu anodiad ardal, cliciwch yr anodiad ac yna cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [6]. Bydd DocViewer yn cadarnhau eich bod chi am ddileu’r sylw. Drwy ddileu anodiad, byddwch chi hefyd yn dileu unrhyw sylwadau cysylltiedig.

I ddileu anodiad ardal a’i ymatebion, cliciwch yr eicon Dileu (Delete) sylw [7]. Bydd DocViewer yn cadarnhau eich bod chi am ddileu’r anodiad a’i ymatebion.

Gweld Sylwadau

Gweld Sylwadau

Mae sylwadau unigol yn cynnwys eicon sy'n dangos y math o anodiad a'i liw [1]. Mae’r eicon anodiad yn ymddangos wrth ymyl enw’r sawl sydd wedi gwneud sylw ac mae'n ymddangos yn y prif sylw ar gyfer anodiad yn unig. Nid yw atebion i sylwadau yn cynnwys yr eicon.

Gall addysgwyr adael sylwadau neu atebion ychwanegol i’ch sylwadau. Pan fydd sylw sydd wedi ei anodi yn cynnwys mwy nag phum llinell o gynnwys, bydd y blwch cynnwys yn dangos dolen elipsis [2]. I ehangu sylw, cliciwch y ddolen elipsis. Os yw sylw yn cynnwys mwy nag un ateb, bydd yr holl atebion yn cael eu hehangu.

Mae sylwadau gydag atebion yn cael eu pentyrru [3]. Pan fyddwch chi’n clicio ar sylw, bydd pob ateb yn cael ei ehangu yn y grŵp. Mae nifer yr atebion wedi’u pentyrru i’w weld o dan y sylw cyntaf.

Mae sylwadau yn aros ar y dudalen lle cafodd yr anodiad ei wneud. Os bydd gormod o sylwadau i’w dangos ar un dudalen, bydd modd sgrolio’r adran sylwadau a bydd rhai sylwadau wedi’u cuddio. Bydd dangosydd yn nodi sawl sylw sydd wedi’i guddio [4].

Gallwch ddileu eich sylwadau trwy glicio’r eicon Dileu (Delete) [5].

Gweld Anodiadau Addysgwyr Dienw

Gweld Anodiadau Addysgwyr Dienw

Os yw eich addysgwr wedi galluogi Anodiadau Addysgwyr Dienw, ni fydd anodiadau a sylwadau ar eich cyflwyniad yn cynnwys enw’r addysgwr neu’r graddiwr.

Gweld Anodiadau Defnyddwyr Eraill

Gweld Anodiadau Defnyddwyr Eraill

Pan fydd defnyddiwr arall yn ychwanegu anodiad mewn dogfen, gallwch weld awdur yr anodiad drwy glicio’r anodiad [1].

Gallwch hefyd adael sylw ar unrhyw anodiad wedd wedi’i greu gan ddefnyddwyr eraill [2].

Gweld Eitemau sydd wedi’u Dileu

Gall eich addysgwr ddileu unrhyw sylw neu anodiad ar unrhyw adeg. Os yw sylw neu anodiad yn cael ei ddileu, yna bydd yr eitem sydd wedi’i ddileu i’w weld yn y bar ochr. Gallwch weld enw'r defnyddiwr sydd wedi dileu a dyddiad y dileu. Dim ond addysgwyr neu weinyddwyr all ddileu eitemau.

Os bydd mwy nag un sylw neu anodiad yn cael ei ddileu, gan gynnwys atebion i sylwadau yn yr un edefyn sylwadau, bydd pob sylw neu anodiad yn cynnwys ei bennawd ei hun a gwybodaeth am y broses o’i ddileu.

I gael gwared ag eitem sydd wedi’i ddileu am byth, cliciwch yr eicon Tynnu (Remove) [2].

Sylwch: Does dim modd adfer eitemau sydd wedi’u dileu am byth.