Sut ydw i'n gweld gweithgarwch cyffredinol fy nghyrsiau yn y Dangosfwrdd Gweithgarwch Diweddar fel myfyriwr?

Mae'r Dangosfwrdd Gweithgarwch Diweddar yn dangos gweithgarwch pwysig diweddar o'ch cyrsiau gan gynnwys cyhoeddiadau, trafodaethau, aseiniadau a sgyrsiau. Mae'r ffrwd hon yn debyg i'r Ffrwd Gweithgarwch Cwrs ar gyfer cwrs unigol.

Bydd y gweithgarwch canlynol yn achosi i hysbysiadau ymddangos ar gyfer pob cwrs yn y Dangosfwrdd Gweithgarwch Diweddar.

  • Cyhoeddiadau Newydd
  • Atebion i Gyhoeddiadau
  • Trafodaethau Newydd
  • Negeseuon Trafodaethau Newydd
  • Aseiniadau Newydd
  • Aseiniadau, Cwisiau, neu Drafodaethau wedi newid o fod heb eu graddio i fod wedi eu graddio.
  • Newidiadau i Ddyddiad Erbyn Aseiniadau, Cwisiau a Thrafodaethau
  • Aseiniadau Newydd wedi’u Graddio
  • Aseiniadau Newydd wedi'u Hadolygu gan Gyd-fyfyrwyr
  • Negeseuon Newydd mewn Sgwrs

 

Mae'r Dangosfwrdd Gweithgarwch Diweddar hefyd yn cynnwys bar ochr y Dangosfwrdd, sy'n cynnwys eitemau yn eich rhestr o Dasgau i’w Gwneud a dolen i'r dudalen Graddau gyffredinol.

Mae modd i chi newid gwedd eich Dangosfwrdd unrhyw bryd gan ddefnyddio'r eicon Opsiynau'r Dangosfwrdd (Dashboard Options).

 

Nodiadau:

  • Ni fydd hysbysiadau yn y Dangosfwrdd Gweithgarwch Diweddar yn ymddangos ar gyfer gweithgarwch yn yr adran Ffeiliau, Cydweithrediadau, Graddau, Tudalennau, na Chynadleddau; cwisiau ac arolygon sydd heb eu graddio; neu olygiadau i'r Trafodaethau.
  • Bydd golygiadau i Gwisiau ac Aseiniadau ond yn ymddangos yn y Dangosfwrdd Gweithgarwch Diweddar pan fydd y botwm Rhoi gwybod i ddefnyddwyr bod y cynnwys hwn wedi newid (Notify users that this content has changed wedi cael ei ddewis mewn cwrs.
  • Er mwyn derbyn hysbysiadau ar gyfer Trafodaethau, rhaid i chi bostio yn y trafodaethau o leiaf unwaith bob pythefnos. Os byddwch chi'n rhoi gorau i gymryd rhan mewn trafodaeth ar ôl pythefnos, ni fydd Canvas yn dangos hysbysiadau trafodaethau.

Agor Dangosfwrdd

Agor Dangosfwrdd

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Dangosfwrdd (Dashboard).

Agor Ffrwd Gweithgarwch Cyffredinol

Agor Ffrwd Gweithgarwch Cyffredinol

Cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [1], a chliciwch y ddolen Gweithgarwch Diweddar (Recent Activity) [2].

Gweld Gweithgarwch Cyffredinol

Mae'r Ffrwd Gweithgarwch Cyffredinol yn dangos hysbysiadau pwysig diweddar o'ch cyrsiau gan gynnwys cyhoeddiadau, trafodaethau, aseiniadau a sgyrsiau. Mae'r ffrwd gweithgarwch yn eich helpu i weld yr holl weithgarwch diweddar ar eich cyrsiau, a gofyn cwestiynau a phostio i fforymau trafod yn hawdd. Yn wahanol i gardiau cwrs, dydy'r ffrwd gweithgarwch ddim yn dynwared amlygrwydd dolenni Crwydro'r Cwrs.

Mae gweithgarwch yn cael ei nodi yn ôl y math o weithgarwch, a bydd eicon [1] yn ymddangos ar gyfer y gweithgarwch. Mae pob gweithgarwch hefyd yn cynnwys enw ei gwrs cysylltiedig [2].

Mae gweithgarwch newydd ar eich cyfrif yn cael ei nodi gan eicon heb ei ddarllen [3]. Mae Trafodaethau a Chyhoeddiadau yn nodi eitemau gweithgarwch newydd sydd wedi cael eu cyhoeddi mewn cwrs, ac mae Sgyrsiau yn nodi bod neges newydd wedi'i derbyn gan ddefnyddiwr ar gwrs. Mae eitemau Gweithgarwch Diweddar yn aros am bedair wythnos.

Ehangu a Chrebachu Hysbysiadau

Gallwch weld manylion pob gweithgarwch drwy hofran yn yr ardal hysbysiadau a chlicio'r ddolen Dangos Mwy (Show More) [1]. I grebachu gweithgarwch diweddar, cliciwch y ddolen Dangos Llai (Show Less) [2].

Rheoli Gweithgarwch Diweddar

Gallwch gael mynediad uniongyrchol at eich gweithgarwch diweddar drwy glicio dolen y cwrs [1]. I dynnu'r hysbysiad, cliciwch yr eicon tynnu (remove) [2].